Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Ty'r Gleber.

"Y GENINEN" AM ORPHENAF.

CRONFA COLEG PRIFYSGOL CYMRU,

TRO HYNOD.

News
Cite
Share

TRO HYNOD. Ychydig wythnosau yn ol, cafodd Mr. Thomas, gynt o Ty'nywern, Groeswen, fenthyg copi o'r darlun diweddaf a dynwyd o Ieuan Gwynedd, gan y Parch. Garibaldi Thomas, Aberdar, er mwyn ei roddi yn y llyfr newydd ar u Ymdaith Cynulleidfaol- iaeth trwy Watford, Groeswen, a Thony- felyn." Pan gaed y darlun yn ol wedi gwneyd y block o hono, cafwyd fod ysmotyn bach ar ysgwydd chwith y bardd, ac wrth ei rwbio i'w lanhau, daeth llaw fechan wen ei briod i'r golwg. Yn ddiamheu, yr oedd y darlun wedi ei gymeryd pan oedd y bardd yn wael iawn yn ei nychdod olaf, a chan ei fod braidd yn rhy wan i sefyll, yr oedd ei anwyl wraig, yr hon fel y cofia llawer o'n darllen- wyr, oedd yn fodryb i briod y Parch. Gari- baldi Thomas, wedi rhoi ei braich o amgylch iddo i'w ddal i fyny a'i llaw wen dros ei ysgwydd aswy. Onid yw yn hynod meddwl fod y ffaith hon wedi dod i'r golwg yn awr ar ol dros haner can' mlynedd ac onid yw y ffaith yn esboniad o'r cariad y canodd leuan Gwynedd, druan, iddo, yn y rhagym- adrodd i'r "Gymraes" yn y llinellau pryd- ferth hyny:- Ti wyliaist wrth fy ngwely Pan ydoedd haul yr hat A'i danbaid wres bob diwrnod Yn gwywo'th briod claf Ti wyliaist wrth fy ngwely Nosweithiau gauaf oer, Pan syrthiai ar y lleni, Oleuni llwyd y lloer. Ti wyliaist wrth fy ngwely Pan oedd yn w ely gwaed, A ffrydiau coch y galon Yn drochion wrth dy draed Ti wyliaist wrth fy ngwelv, Pan oedd y peswch blin Drwy'r nos yn peri imi Ddihoeni ar ddihun.

[No title]