Hide Articles List

5 articles on this Page

Ty'r Gleber.

News
Cite
Share

Ty'r Gleber. Wythnos anffodus iawn fu'r wythnos hon i'r Llywodraeth. Mae'r ymraniadau mewnol a'r gwrthwynebiadau allanol wedi bod yn ddolur tost i Mr. Balfour, ac nid syndod fod llawer iawn o wyr blaenllaw y ddwyblaid yn darogan y ceir etholiad cyffredinol yn yr Hydref. I gadarnhau hyn, hefyd, hysbysir fod Mr. Chamberlain yn barod i wynebu r wlad gyda'i gynllun ar yr adeg hono. Hwyrach nad ydyw yn disgwyl enill y gamp y tro hwn, ond rhydd fantais iddo osod y pwnc ger bron, ac yna i ddyrnu arno tra parhao oes y Rhyddfrydwyr-os mai hwy enilla'r dydd, a gwneyd y fuddugoliaeth yn sicr pan apelir y tro wedyn at yr etholwyr. I bob ymddangosiad, y mae'r wlad yn blino ar sefyllfa pethau fel y maent yn awr. Mae masnach yn wael, a chwyno beunydd a geir fod arian yn brin; a chan fod gweithred- oedd gwastraffus y Weinyddiaeth bresenol yn dwyn y tylodi naturiol yn eu camrau, nid oes dim a ellir ddisgwyl ond newidiad hollol o'n rheolwyr Seneddol. YR ETHOLIADAU. Profodd yr etholiadau a gaed ddechreu yr wythnos hon a diwedd y llall fod y wlad yn lied anfoddhaus ar y sefyllfa bresenol. Yn Market Harboro, dydd Sadwrn, cyhoeddwyd barn yn erbyn y Weinyddiaeth, a hyny gyda mwyafrif cynyddol gan y Rhyddfrydwyr ond gwaeth na'r cyfan oedd y fuddugoliaeth fawr yn Devonport dydd Llun. Yno cyfrind y sedd yn hynod o ansicr. Weithiau try o blaid y Rhyddfrydwyr, a'r tro arall dros y Toriaid, ond yn yr ornest bresenol cipiwyd y sedd gan wrthwynebwyr y Llywodraeth gyda'r mwyafrif aruthrol o 1040. Yr hyn a wna'r ornest yn fwy hynod fyth yw'r ffaith jnai dyn dieithr oedd yr ymgeisydd Rhydd- f r\ dolâsef J. Williams Benn, cadeirydd Cyngor Sirol Llundainâtra yr oedd y Tori n wr enwog yn y cylch ac yn rhoddi gwaith i amryw ganoedd o'r etholwyr, yn ogystal ag yn Syr yn y fargen. Mae curfa fel hon yn sicr o effeithio ar y blaid, a hwyrach y byddant yn barod i apelio at yr etholwyr cyn diwedd y flwyddyn, os na ddywed Mr. Chamberlain fel arall wrthynt. CHAMBERLAIN A CHYMRU. Mae llawer o sibrwd wedi bod o gylch Ty'r Gleber y dyddiau diweddaf ynglyn ag araeth y gwr o Birmingham yn nghinio Mr. Pryce Jones. Nid oedd y cynolliad yn un cyhoeddus, a cheisiwyd yn bendant gan y rhai oeddent yn bresenol beidio cyhoeddi yr hyn a siaradwyd yno. Ond mae'n amlwg nad oedd y parti yn rhyw hapus iawn ar ol ymweliad Mr. Chamberlain. Gan fod y i-aleddwyr bron yn ddieithriad yn Donald Cymreig, gyda'r eithriad o Mr. Vincent Evans ac, feallai, Mr. Davies, Llandinam, yr oeddent yn disgwyl cael cefnogaeth pendant Mr. Chamberlain i'w polisi Cymreig hwy. Ond gwyr yr hen law etholiadol hwn mai ofer yw siarad am ddim yn Nghymru tra y pery yr Eglwys yn sefydliad gwladol yno. Mae, er's blynyddau, wedi canfod mai politics y capel a'r eglwys sydd yn yr etholaethau Cymreig, ac ofer fydd iddo ef na neb arall siarad am ddiwygiadau tra y pery'r anhaws- der crefyddol hwn. Felly, er mwyn ceisio ei osod o'r neilldu am dymor, a denu rhai capelwyr i'w bolisi buddianol ef dyma fe'n cyhoeddi yn y ginio ei fod yn Ddadgysylltwr rhonc mewn egwyddor er, hwyrach, nad oedd yn barod i gario hyny i weithrediad ar hyn o bryd. Diwygiwr mewn egwyddor yw efe, ond gormeswr ymarferol; ac os hudir un- rhyw Gymro i gredu y gwna byth osod terfyn ar yr Eglwys Gymreig, y mae yn llai ei reswm na'r Bardd Cocos ei hun. KEIR HARDIE. Ar ol ei gystudd maith, yr oedd yn dda gan lawer o honom weled Mr. Keir Hardie yn ol yn y Ty, wedi gwella'n dda, ond wedi heneiddio cryn dipyn o ran golwg. Gwr o gryn allu yw Mr. Hardie fel aelod anibynol, er mai hollol ddiles ydyw i ni fel Cymry. Llwyddodd y Deheubarth ar adeg yr ethol- iad diweddaf i anfon y fath haid gymysg i'r Ty fel mae'n amhosibl meddwl am undeb a chydveithrediad rhyngddynt. Mae'r rhai a honant rywbeth dros Gymru yn rhy ddiallu eu dawn i wneyd dim yn gyhoeddus, ac y mae'r rhai galluog a bywiog fel Keir Hardie, pan y siaradant, heb ddeall dim am anghen- ion priodol y Cymry. Un genedl yw pawb dynion iddo ef, a thra y pery mor gibddall i anghenion arbenig Cymru nis gellir ei gydnabod o un gwerth i ni fel cenedl. Mae meddwl am hwn a Mr. D. A. Thomas fel olynwyr i Mr. Henry Richard, Apostol Heddwch, a chenedlaetholwr cyntaf ein bywyd gwerinol, yn ddigon i wneyd esgyrn y gwr da hwn atlonyddu yn eu gorweddtan dawel. SYR ALFRED. Bachgen piwr" yw Syr Alfred, a siarad am dano fel y gwna ei etholwyr. Y dydd o'r blaen rhoddodd arddwyl hynod o gar- trefol i amryw o wyr urddasol Caerdydd, a daeth tua dau cant o wahoddedigion tan ei gronglwyd a than gysgod coedydd ei ardd brydferth yn y Bronwydd. Er mor agos yr etholiad, nid oes hryder ar Syr Alfred y cyil efe ei sedd, oherwydd y mae yn un o'r rhai sicraf yn Nghymru, ac y mae yntau yn fachgen mor gartrefol ac yn hen lane mor ddeniadol a di-dramgwydd nes y mae pawb yn ei hoffi. Fel cadeirydd y blaid y mae yn ddigon da, ond ar yr un pryd gwell fyddai genym weled arweinydd beiddgar a phen- dant yn y rhengoedd Cymreig ar hyn o bryd. Rhy fach o sylw a delir i faterion Cymreig, ac ond cymharu y tymhorau di- weddaf hyn a'r blynyddau pan oedd Henry Richard, Dillwyn ac Osborne Morgan ar y blaen genym, ceir gweled na roddir agos cymaint o sylw i ni yn awr ag a wnaed yn y dyddiau cynyddol hyny. Rhaid newid hyn, wir, neu fe a'r etholwyr yn ddrwg eu hwyl o dipyn i beth. Mae terfyn hyd yn oed ar amynedd a thevrngarwch yr Ymneillduwr a'r gweithiwr Cymreig. YR AMGUEDDFA A'R LLYFRGELL. Dyma'r pwnc nesaf i'w benderfynu gan yr aelodau Cymreig. Dydd Iau yr oedd dirprwyaeth Gymreig i ymddangos ger bron Mr. Austen Chamberlain gyda chais am gynorthwy arianol oddiwrth y Llywodraeth. Mae'r syniad o sefydlu Amgueddfa yn Nghaerdydd a Llyfrgell yn Aberystwyth yn cael derbyniad ffafriol gan fwyafrif yr ael- odau, ond p'un a ganiateir y gwahanu yma gan y Llywodraeth s) dd bwnc arall.

"Y GENINEN" AM ORPHENAF.

CRONFA COLEG PRIFYSGOL CYMRU,

TRO HYNOD.

[No title]