Hide Articles List

2 articles on this Page

CYMANFA'R METHODISTIMD.

News
Cite
Share

CYMANFA'R METHODISTIMD. CYNULLIAD MAWR YN NGHAER- DYDD. Dyma wythnos fawr yr enwad Fethod- istaidd. Bu yn cynal ei huchelwyl flynyddol yn Nghaerdydd, o ddydd Llun hyd ddydd Gwener, a chaed cymanfa ardderchog yn mhob ystyr o'r gair. Dachreuwyd vn y cywair hapus ddydd Llun, oherwydd nid yn unig cafodd y canoedd cynrychiolwyr hin ddymunol i dynu tua phrif dref y De, ond yr oedd y ffaith fod adroddiadau boddhaus i'w gosod ger bron, ynglyn a gwaith y flwyddyn a aeth heibio, yn galondid nid bychan i bob un oedd a'i galon yn llwyddiant yr Hen Gorff. Profai yr ystadegau blynyddol, yn un peth, fod yr enwad yn myned ar gynydd, ac yr oedd deall fod nifer y cymunwyr wedi cyr- haedd y cyfanrif mawr o 165,298âsef 3014 yn fwy na'r flwyddyn ddiweddaf-yn ddang- oseg eglur fod Cymru, beth bynag, yn dal ei thir mewn cyflwr ysbrydol, a hyny pan mae tuedd yr oes yn tynu yn fwy-fwy at fateroliaeth a bydolrwydd. Rhifai y plant 332,168, sef cynydd eto o 4,601 tra y mae aelodau yr Ysgol Sul wedi myned yn uwch na'r llynedd o 961, nes cyrhaedd 205,835. Myn rhni pobl gredu fod yr Ysgol Sul yn myned ar i lawr yn Nghymru. Yn wir, dyna oedd y cri ddechreu y flwyddyn ddiweddaf, ond y mae'r ffigyrau hyu yn profi yn eglur nad yw'r enwad Fethodistaidd yn colli ei gafael ar y plant; a thra y pery hyn yn ei hanes, ni raid pryderu llawer am lwyddiant yr adranau ereill hefyd. Ar ddechreu y flwyddyn hon yr oedd gan yr enwad 1599 o gapelau a lleoedd pre- gethu a chynwysa y rhai hyn eisteddloedd i 458,592 o wrandawyr. Er cymaint y cwyno sydd wedi bod yn y byd masnachol yn ddiweddar, dengys yr adroddiadau arianol a gyhoeddwyd yn ystod yr wythnos, fod achos crefydd yn dal ei dir yn mysg y Cyfundeb hwn. Yr oedd y casgliadau yn cyrhaedd y swm o ,C289,68 i, ac o'r swm yma yr oedd ^103,616 yn cael ei gyfranu at y weinidogaeth, sef yn agos i dair mil yn fwy na'r flwyddyn 1902. Ar hyn o bryd, cyfrifir fod dJ led o ^438,100 yn aros ar y capelau; ond ni ddylai hyn fod yn ormod baich i enwad sydd yn gweithio mor addawol yn y blynyddoedd cysglyd a difraw hyn. METHODISTIAETH YN NGHAERDYDD. Ychydig o hanes Methodistiaeth yn Nghaer- dydd sydd ar gael, ac y mae hyny yn rhyfedd, yn enwedig pan gofir mai yno y cvfarfyddodd George Whitefield a Howell Harris am y tro cyntaf a'u bod wedi bod yn pregethu yn Neuadd y dref. Yr oedd hyny yn 1738, pan oedd Whitefield yn casglu arian i godi llety i'r amddifaid yn Georgia yn yr America, a buont yn gohebu a'u gilydd ar hyd y blynyddoedd ar ol hyny, ac fe gofir mai y Diwygiwr Seisnig oedd llywydd y Gyaideithasfa gyntaf yn Watford-o fewn ychydig filldiroedd i Gaerdydd. Rhydd haneswyr fanylion am y lleoedd o amgylch Caerdydd, megis y Groesven, Aberthyn, St. Nicholas, Dinas Powis, Pentyrch, Aberddaw, &c., ond dim gair am Gaerdydd. Tybed a oedd Caerdvdd yn lie o lai o bwys na'r pentrefi bychain uchod, ynte y rheswm am y distawrwydd ydyw nad oedd y" Diwyg- iad" wedi cael nemawr afael ar y dref? Fodd bynag, y mae'n sicr fod yn Nghaerdydd ychydig o Fethodistiaid yn niwedd y ddeu- nawfed ganrif, a'u bod yn cvdaddoli a'r Wesleyaid Cymreig am lawer o fiynyddoedd. Adeiladwyd capel bychan iddynt, gan b ivy, nis gwyddis, wrth gefn y siop a ddelir yn awr gan Mr. Freke yn Queen Street; ac fe ddywed rhai o drigolion hynaf y dref ddar- fod i'r ddwy blaid fethu cydweled a'u bod wedi bod am hir amser yn addoli y naill ar lawr y capel a'r llall ar y lofft. Yr hyn sydd sicr, fodd bynag, ydyw i'r Methodistiaid brynu tir i adeiladu capel arno yn Trinity Street, yr hwn a agorwyd yn 1837. Hwnw oedd Capel Seion, ac fe ddaeth yn fuan yn eglwys gref a gweithgar a dylanwadol, a hi yw y fam-eglwys yn y dref. Pan ddaeth yn angenrheidiol i helaethu y Ddarllenfa a'r Llyfrgell Rydd, gwerthwyd y capel i Gor- fforaeth y dref, ac adeiladwyd y capel pre- senol yn Pembroke Terrace. Er fod amryw o wyr enwog wedi bod mewn cysylltiad a'r achos o bryd i bryd, megis y Parchn. Rich- ard Lumley, Dr. Harris Jones, William James, M.A., Nantymoel, ac Evan Morgan, ni bu yr un gweinidog sefydlog yno hyd nes i'r Parch. John Morgan Jones ymgymeryd a'r fugeiliaeth 29 mlynedd yn ol. Canghenau o'r eglwys hon ydyw Bethania yn Loudoun Square, Salem yn Canton, Capel y Crwys yn Cathays, a Jerusalem ar y Moorsây ddau olaf yn ystod gweinidogaeth y Parch. J. Morgan Jones -ac nid yw'r achosion Seisnig heb gael cymorth a chefnogaeth oddiwrth y fam-eglwys. Ond er cychwyn, fel hyn, bed- war o achosion newyddion yn ngwahanol ranau o'r dref, y mae eglwys Pembroke Terrace yn dal ei thir, a rhifai uwchlaw tri chant a haner o aelodau ar ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf. Nid gorchwyl hawdd yw cadw i fyny gryfder eglwys fel Pembroke Terrace yn nghanol tref fawr fel Caerdydd, lie mae cymaint o fynd a dod a thuedd yn y boblogaeth i symud cyn belled ag y mae modd o ganol-bwynt masnach ac y mae'n glod i'r gweinidog a'r swyddogion fod y fath wedd lewyrchus ar ) r achos. Y GYMANFA. Yn Nghapel Pembroke Terrace y cynhelid y gweithrediadau, ac yn ystod ddydd Llun caed cynulliadau llawnion. Caed cofnodiad tyner am y gweinidogion fuont feirw oddiar y Gymanfa ddiweddaf, a phasiwyd pender- fyniad o gydymdeimlad a'u perthynasau a'u teuluoedd yn eu colled. Penodwyd Lerpwl fel man cyfarfod y Gymanfa nesaf, a chan fod Methodistiaeth mor gryf yn y Gogledd diau y bydd y cyn- ulliad yn un poblogaidd iawn. LLYWYDD 1906. Gwaith mawr y dydd cyntaf yw ethol Cymedrolwr y Gymanfa am y flwyddyn ddyfodol, a chaed y dyn eleni yn mherson y Parch. W. Prydderch, Abertawe, ac efe a leinw y gadair yn Nghymanfa I905. Y Parch. Aaron Davies, Barry Dock, oedd yn ymadael o'r gadair eleni, a dilynwyd ef gan y Parch. D. Lloyd Jones, M.A., Llan- dinam. Etholwyd hefyd, y Parch E. Parry, M.A., Drefnewydd, yn ysgrifenydd am y ddwy flynedd nesaf. ARAETH Y LLYWYDD YMADAWOL. Pwysigrwydd eu cenhadaeth fel Cyfun- deb oedd cenadwri ymadawol y Parch Aaron Davies, a chaed ganddo eiriau edmygol am waith y Tadau Methodistaidd yn y gorffenol, a chredai fod dyfodol gwych iddynt hefyd yn mywyd crefyddol Cymru ar yr un pryd, anogai hwynt i fwy o weithgarwch a gofal dros yr ieuane er cyfarfod a gofynion cyn- yddol adiysg yr oes. Talwyd y diolchgarwch arferol i'r llyw- ydd gin y Pirch J Wnelion, Bitispr a J. Morgan Jones, Cierdydd, ac yna cymsroid y Pirch. D. Lloyd Jones, M.A., ei le fel cadeirydd y flwyddyn. Y GENHADAETH DRAMOR. Diydd Mawrth, caed apel arbenig ar ran y Genhadaeth Dram or gan y Parch. Griffith Ellis. Yr oedd derbyniadau y flwyddyn ddiweddaf yn brin o ryw dair mil o bunau er cyfarfod a'r treuliau, ac anogai Mr. Ellis ar i fwy o sylw gael ei dalu i'r adran hwn o'r gwaith crefyddol yn mysg yr eglwysi. CYFRIFON Y CYFUNDEB. Yn ei adroddiad o gyfrifon yr enwad, caed y ffigyrau a ganlyn gin y Parch. Joseph Evans, Dinbych:â J Capelau a lleoedd pregethu 1,599 Eisteddleoedd 458,592 Ysgolion Sul 1,056 Eglwysi 1,386 Gweinidogion 883 Pregethwyr 379 Blaenoriaid 5,855 Cymunwyr 165,298 Plant yr eglwys 75,453 Ar brawf 2,477 Gwrandawyr 332,167 Casgliadau y flwyddyn ^289,681 DYSGU'R GYMRAEG. Daeth yr ysbryd cenedlaethol i'r golwg yn amlwg iawn mewn cynhadledd addysg a gaed ynglyn a'r Gymanfa ddydd Mercher. Yn yr anogaeth taer a roddwyd i'r Gymraeg gael ei lie priodol yn yr ysgol ddyddiol, tarawyd tant amserol; a sicr, pe gwnai pob cynulliad Cymreig bwysleisio y mater oll-bwysig hwn ar ddechreu y trefniant newydd yma ynglyn ag addysg ein gwlad, feallai y symudir y gwarth ynglyn a'r difrawder presenoL Diolch, er hyny, am ddatganiad croyw y Methodistiaid ar y pwnc.

Advertising