Hide Articles List

4 articles on this Page

6yd y San.

ADGOFION AM LUNDAIN.

News
Cite
Share

ADGOFION AM LUNDAIN. Mae y digwyddiadau a gofnodir genyf yma mor fyw yn fy meddwl a phe buasent wedi digwydd ddoe ddiweddaf ond,)n anffodus, y mae y rhan fwyaf o'r dyddlyfrau a gedwid genyf yn ystod fy ymweliadau gwabariol h,'r Brilddinas wedi myned ar goll, lei nad wyf )n gallu nodi i lawr yn fanwi y flwyddjn a'r dyodyburr cwbl o honynt gymerjdlle; eithr ni wna hyny ond ychydig wahaniaeth yn y pen draw. Dechreuaf y waith hon gydag ychydig grjbwyllion am y diweddar DrR. OWEN THOMAS. Gelwais gydag ef amryw weithiau yn ystod tymor ei weinidogaeth yn Llundain nid oeddwn yn gwneuthur hyn heb fy ngwa- hodd ganddo. Efe oedd un o'm beirniaid pan oeddwn yn ymgystadlu am y wobr a gynygid yn Ngwreesam am y traethawd goreu ar Yr Ysgol Sabothol a'r Oes." B) th oddiar hyny byddai yn fy nghyfarch yn y modd siriolaf pa bryd bynag y digwyddem gwrddyd yn nghyd. Yr wyf yn meddwl mai yn ystod fy ail ymweliad a Llundain y bu i mi gael sicrwydd ei fod adref i mi gael ei weled a mwynhau ychydig o'i gymdeithas. Lletvai mewn ty ardderchogâeiddo Mr. Griffith Davies, y rhif\ddwr byd-glodfawr; ac yr oedd ganddo yn y ty hwnw ystafell ardderchog i ystorio ei lyfrau ynddi. Pan arweiniwyd fi iddi rhyfeddais: o amgylch o gylch, ac oddi fyny hyd i waered, nid oedd dim ond llyfrau yn y golwg. Ymddangosai i mi fod yno filoedd o gyfrolau. Mr. Thomas," meddwn (nid oedd wedi ei wneyd yn Ddoctor y pryd hwnw),11 y mae yn am- heus genyf a oes gan unrhyw weinidog arall yn Llundain, o ba sect bynag, y fath library ag sydd genych chwi." u Oes," meddai, y mae yma gryn nifer o lyfrau ond rhaid oedd i mi eu cael. Bu amryw fel chwithau yn amlygu syndod yn yr olwg ar eu haml- edd." Yna aeth rhagddo dan wenu i adrodd yr hanesyna ganlyn:âFe ddaeth yma eneth fechan o Saesnes i wasanaethu dro yn ol ac ar ol gweled y fath nifer o lyfrau yn y study yma, hi ddywedodd, ryw ddiwrnod, wrth yr hon oedd uwchlaw iddi â" Y mae yn rhyfedd genyf pa fodd mae Mr. Thomas yn gallu byw oblegid yr oedd wedi llyncu y syniad mai llyfrwerthwr oeddwn. Gofyn- odd hono paham yr ydoedd hi yn rhyfeddu. "Wel," ebe hi, er pan wyf yma ni welais neb yn troi i mewn i brynu cymaint ag un o'i lyfrau." "0 I" ebe y Hall. yr ydych wedi camgymeryd: gweinidog ydyw Mr. Thomas, ac nid llyfrwerthwr." Rhoddai y newydd hwn foddhad iddi; oblegid pe buasai llawer yn troi i mewn i brynu y llyfrau cawsai lawer mwy o waith glanhau nag oedd ganddi yn bresenol. Yn ystod yr ymddiddan, dywedais, Yr ydych yma er's cryn amser: rhaid eich bod yn dra adnabyddus i lawer o'r Saeson, fel i'r Cymry, bellach." Gallwn feddwl yn wir fy mod," meddai, oblegid daeth yma lythyr o Gymru yn ddiweddar, heb amgenach address arno na hyn-' Rev. Owen Thomas, London.' Ond daeth yma yn syth, heb ym- droi munud ar y ffordd." A dyna ddigon ar y mater yna. Wedi hyn gofynodd a oeddwn wedi bod yn gwrando ar rai o'r gweinidogion Seisnig penaf yn pregethu. Atebais nad oeddwn wedi cael cyfle i glywed ond ychydig o honynt hyd yma. Ychwan- egais fy mod yn bwriadu myned i glywed Melvill yn pregethu ddydd Mawrth nesaf. Ewch," eb efe, "ar bob cyfrif: yr wyf fi wedi bod yn gwrando arno amryw weithiau. Y mae yn pregethu y ardderchog. Rhaid fod ei bregethau yn costio iddo lafur dir- fawr: y maent i gyd yn elaborate anghy- ffredin." Cyn ymadael o honof dywedodd ei fod, er's tro bellach, yn cynhal gwasanaeth Saes- neg yn Nghapel Jewin Street bob wythnos, er mwyn y plant a'r ieuenctyd yn y gynull- eidfa a ddeallant bregeth Saesneg yn well nag un Gymraeg. Yn awr," meddai, da genyf eich bod yma, oblegid yr wyf am i chwi gymeryd fy lie adeg yr oedfa nesaf, am fod achos o bwys yn galw am i mi fod mewn lie arall y noson hono." Yr oedd h) n i mi yn fraw disymwth. Ceisiais ym- esgusodi, ond i ddim pwrpas. Rhaid i chwi ufuddhau," meddai, dan wenu'n hyfrj d. Cewch gynulleidfa dda a gwrandawiad as- tud," meddai eilwaith. Addewais )n wyneb yr amg) Ichiadau y gwnawn fy ngoreu, Caed cynulleidfa dda ac astud, yn ol fel y dywedasai Mr. Thomas; a thrwy drugaredd ni ddigwyddodd yr un anhap i ddwyn cwmwl ar y gwasanaeth. Dyna yr unig dro i mi fod yn y capel eang hwnw-prif deml y Method- istiaid Calfinaidd yn Llundain. Ceir, yn yr hanes syml uchod, engraifft nodedig o ys- bryd caruaidd a rhyddfrydig y Doctor Owen Thomas, yr hwn yn briodol a ystyrid yn un o bregethwyr galluocaf ei oes.âYr Hybarch David Griffith, yn y" Geninen" am Orphenaf.

CYFARFOD CANOL-HAF UNDEB Y…

Advertising