Hide Articles List

4 articles on this Page

Oddeutu'r Ddlinas.

News
Cite
Share

Oddeutu'r Ddlinas. Yfory bydd "SuI y blodau yn Nghapel Castle Street, a disgwylir llu mawr yno. Llywyddir cyfarfod y prydnawn gan Mr. Lloyd-George, a cheir anerchiad ganddo ef a Mr. William Jones, A.S. < Mae yr eglwys Fethodistaidd yn Holloway yn dechreu ar ei chyfres o gyfarfodydd pre- gethu heno, a pharheir hwy drwy y Sul yfcry a nos Lun. w < Mewn cysylltiad ag Eisteddfod Genedlaethol Mountain Ash, cynygia Cymdeithas yr Eis- te idfod wobr o 25p a Thlws y Gymdeithas, gwerth i op, am y bywgraphiadau goreu o Penry Williams, yr arlunydd; Hugh Hughes y cerfiwr a Joseph Edwards, y delwedydd, -tri o wyr enwog yn dwyn perthynas a'r ardal. » < Nos Fawrth nesaf rhydd y Cymmrodorion eu cwrdd clebran blynyddol i'r aelodau, ac yn neuadd y cigyddion y cynhelir y cynull- iad eleni. w « Prydnawn dydd Mercher nesaf rhydd Pencerdd Gwalia ei gvngherdd blynyddol yn St. James's Hall. Yn ychwanegol at ei gerddorfa o delynau, bydd cor merched Madame Novello Davies yno, ynghyd a nifer o unawdwyr enwog y cylch Cymreig. m » Nid yw Cymru Fyddion Llundain yn credu dim yn y sibrwd cyffredinol yma ynglyn ag etholiad cyffredinol yn yr Hydref, oherwydd y maent yn hollol foddhaus ar eu sefyllfa bresenol o ddifrawder. Hwyrach y ceir adfywiad o'r Gymdeithas eto tranoeth i'r etho!iad cyffredinol. ⢠# Yn ol adroddiad blynyddol Unieb yr Anibynwyr Cymreig, casglwyd £663 yn mysg eglwysi Cymreig Llundain tuagat Gronfa'r Ugeinfed Ganrif ynglyn a'r enwad hwn. Cyfran y gwahanol eglwysi ydynt fel a ganlyn:â Barrett s Grove E26 o 6 Boro' 204 12 6 King's Cross 27; 5 o Radnor Street 107 12 o Cyffredinol 50 o o £ 661 10 o ⢠Y mae'r Parch. G. Campbell Morgan wedi ei benodi y fugail ar gapel enwog West- minster, a dechreua ar ei ofal yno yn gynar yn yr Hydref. Mae Mr. Morgan yn un o wyr blaenaf yr enwad Cynulleidfaol yn y byd Seisnig, a sicr y bydd yr hen gapel yn debyg o adenill ei safle parchus yn yr enwad o dan ei bregethau ef. < Er yn hanu o gyff Cymreig, nid yw Mr. Morgan yn Gymro. Yr oedd ei dad, George Morgan, vn pregethu tipyn yn y deheubarth ar rai adegau ond oherwydd afiechyd, nis gallai gymeryd gofal eglwys er's blynydd- oedd. Mae'r mab, er hyny, wedi enill safle uchel fel gweinidog yn Tollington Park, Llun- dain ac wedi hyny yn yr America, lie yr aeth fel efengylydd am ysbaid ond gan mai yn merw Llundain y mae ei fryd, yr oedd yn dda gan lawer ddeall ei fod wedi derbyn yr alwad bresenol. ft Yr oedd yn llawen gan gyfeillion y Parch. W. E. Prydderch, Abertawe, ei fod wedi cael ei ddyrchafu i gadair lywyddol y Methodist- iaid am 1905. Dyma'r anrhydedd uchaf y gall y Cyfundeb roddi iddo, ac y mae yn ei gyflawn haeddu, oherwydd rhestrir ef heddyw yn mysg y blaenaf o'r pregethwyr gan yr Hen Gorff yn Nghymru. Gwêl Hwfa Mon wahaniaeth dirfawr rhwng eglwys hardd y Tabernacl a Chapel Fetter Lane, lie yr addolai yr eglwys pin yr oedd efe yn fugail arni, rhyw chwarter canrif yn ol. Nid oedd nifer yr aelodau y pr-yd hyny ond rhyw ddeucant, tra y mae erbyn heddyw ar fin cyrhaedd seith^ant, a'r mwyafrif o'r rhai hyn yn ieuenctyd mewn masnachdai yr, Llundain yma. » Nid yw ymweliadau Hwfa a'r Brifddinas, oddiar ei ymadawiad am dawelwch y wlad, ond wedi bod yn anfynych iawn. Er hyny, y mae eto yn aros amryw o hen edmygwyr a chyfeillion oeddent yn aelodau ffyddlon pan fu efe yn fugail yma. Pan yn anterth ei ddydd pregethai gyda hwyl a dylanwad, gan ang- hofio yn llwyr beth ddywedai yr awrlais. Nid oedd pregeth o awr, i awr a haner, yn ddim yn ei olwg; ac ar ol dyrnu fel hyn am hir amser dywedai, er cysur iddynt: Dyna i chwi hynyna, fel rhagymadrodd, fe gewch y bregeth nos Sul nesaf." Boed iddo nawn- ddydd tawel a chysurus yn ei ymnei Iduaeth ar lan mor tawel y Rhyl He y preswylia yn awr.

T. R. THOMAS & Co., DAIRY…

Advertising

Y ørD A'R BETTWS.