Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

HYN A'R LLALL.

News
Cite
Share

HYN A'R LLALL. Yn Nghaerdydd y cynhelir Cymanfa y Methodistiaid eleni, a dechreuir ar y cyfar- iodydd nos Lun nesaf. Mae nifer o gyn- rychiolwyr o Lundain i fyned yno. Daeth Mr. Keir Hardie yn ol o'r Cyfandir yr wythnos hon, ac edrycha yn llawer gwell ar ol ei seibiant haeddianol. Ddydd Llun diweddaf caed cymanfa ganu Tagorol yn Mhafilion Caernarfon. Yr oedd saith mil o gantorion wedi dod ynghyd, ac arweinid y cor mawr hwn gyda hwyl a medr gan Mr. Harry Evans, Dowlais. Gan fod y Brenin a'r Frenhines yn bwr- iadu aros ychydig amser yn Abertawe i gydnabod dechreuad y dociau newydd yno, onid doeth fyddai i Lanelli eu gwahodd, hefyd, i agor eu doc cauedig hwy ? Ond, erbyn hyn, onid yw gwyr y gyfraith wedi llwyddo i gael rhyw fath o agoriad ? Y Parch Lloyd Jones-gweinidog parchus eglwys Wesleyaidd City Road ar hyn o bryd—sydd wedi ei ddewis yn gadeirydd y Gymanfa Wesleyaidd am 1905. Cwyno yr oedd y Wesleyaid yn eu cym- anfa eleni fod eu cynulliadau yn myned yn iwy Seisnigaidd bob blwyddyn. Y mae hyn yn wir, i raddau, a rhaid fydd newid Ila wer ar y cynllun o benodi gweinidogion o hyn allan. Penderfynu lleoliad yr Amgueddfa Gym- raeg- a'r Llyfrgell fydd gwaith nesaf ein cynrychiolwyr. Ar hyn o bryd 'does ond dau gynllun ger bron sy'n haeddianol o ystyriaeth. Un yw mai un sefydliad mawr a ddylid leoli yn Nghaerdydd y Hall yw mai yr Amgueddfa yn unig ddylid osod yn Nghaerdydd tra mai yn Aberystwyth y dylid sefydlu'r Llyfrgell. Son am lyfrgell Gymraeg, nid oes syniad gan naw o bob deg o Gymry am y fath doraeth o lyfrau Cymraeg sydd ar glawr. Fel y gwyddis, cyhoeddodd Gwilym Lleyn lyfr ar y llyfrau Cymreig a argraffwyd cyn 1800; ond mae'n eglur fod ei restr ef yn lied anghyflawn, oherwydd y mae amryw 0 chwilotwyr diweddwar wedi darganfod enwau canoedd o lyfrau nad oeddent wyb- yddus i Gwilym Lleyn o gwbl. Yr America am drychinebau! Yr wyth- nos hon daeth hanes am losgiad pleser-fad yn agos i New York gyda cholliad rhyw bum' cant o eneidiau. Cymer etholiad le yn Devonport dydd Llun nesaf, a disgwylir gornest lied galed yno. Sedd anwadal yw'r sedd ar ei goreu ond y mae gobaith y gellir ei henill y tro hwn yn erbyn y Weinyddiaeth. Myn rhai prophwydi i ni gredu y ceir etholiad cyffredinol yn mis Hydref. Wel, yn ol arwyddion yr amserau, byddai hyny yn llesol hefyd. Ychydig iawn o waith a wneir yn y Sen- edd yn awr. Mae'r blaid wrthwynebol mor boenus i'r Weinyddiaeth fel nad oes fawr o fesurau yn cael eu gwthio drwodd yn ddi- wrthwynebiad. Mae eglwys Hollo way wedi rhoddi gwa- hoddiad, gydag unfrydedd, i'r Parch. R. O. Williams, Penmaenmawr, i ddyfod i'w bugeilio am flwyddyn, ac y mae yntau wedi addaw cydsynio. Gyda gofal Mr. Williams am flwyddyn, bydd mantais i'r aelodau ddod 1 gyd-ddealldwriaeth ynglyn a phenodi bugail jparhaol ar yr eglwys, yr hon sydd wedi dioddef yn ddirfawr o eisieu arweinydd doeth a threfnus oddiar farwolaeth y di- weddar weinidog, y Parch. W. Ryle Davies. Hyderwn fod cyfnod newydd o lwyddiant ar ddechreu gyda'r symudiad olaf hwn. Dechreua Mr. Williams ar ei ofal y Saboth cyntaf o Orphenaf.

Advertising

EGLWYS GYMREIG DEWI SANT.