Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

EGLWYS GYMREIG DEWI SANT.

News
Cite
Share

EGLWYS GYMREIG DEWI SANT. NODACHFA ARDDERCHOG. Cenhadaeth a sefydlwyd ar y 10fed o Fai, 1885, yn y Shaftsabury Schools, Salisbury Street, Edgware Road. Yohydig amser wedi hyny symudwyd i St. Mary's Schoolroom, Harrow Road, hyd 1890, pryd yr adeiladwyd Eglwys Haiarn. Ar y 24ain 0 Hydref, 1896, gosodwyd careg sylfaen yr Eglwys bresenol gan Syr John H. Puleston. Agorwyd yr Eglwys, Mawrth 31ain i Ebrill lleg, 1897. Pregethwyd ar yr achlysur gan y diweddar ArchesgobCaergaint, ac efe oedd y cyntaf i lanw pwlpud Dewi Sant. Bu Dr. Temple, hefyd, yn gefnogydd selog i'r Genhadaeth hon. Dyddiau Mercher a Iau (Mehefin 8fed a'r 9fed), cynhaliwyd nodachfa (bazaar) lwydd- ianus iawn o dan nawdd urddasolion arbenig mewn cysylltiad a'r eglwys uchod yn Neuadd Dewi Sant ac yn y maes-babell helaeth yn ymyl yr eglwys, elw yr hon a dros^lwyddir i ddileu y ddyled ar yr Eglwys a'r neuadd. Er's rhai misoedd, bellach, yr oedd cared- igion yr Eglwys wedi bod yn brysur iawn wrth y gwaith o ddarparu ar gyfer y nod- achfa nodedig hon, a choronwyd eu llafur diflino a llwyddiant tu hwnt i ddisgwyliad. Gwnaeth pawb eu rhan yn anrhydeddus, a bydd y swm sylweddol ag oeddis wedi am- canu ei gyrhaedd yn Haw y trysorydd yn fuan; a chyhoeddir yr eglwys a'r neuadd yn ddiddyled. Ond nid ydys yn bwriadu aros yn hir ar y tir yna-y mae liawer iawn o waith i'w gyflawni mewn addurno a chy- suro er gwneyd yr Eglwys yn deilwng o'r *'Duw byw" ac o genedl grefyddol y Cymry. Yr oedd yr ystaliau (stalls) llawion a gor- wych o dan ofal y rhai canlynol:— Ystal 1, Mrs. Benjamin Thomas. Ystal 2 a 3, Mrs. E. W. Morris, Mrs. Yr oedd yr ystaliau (stalls) llawion a gor- wych o dan ofal y rhai canlynol:— Ystal i, Mrs. Benjamin Thomas. Ystal 2 a 3, Mrs. E. W. Morris, Mrs. ,MR. JAMES WILLIAMS (WARDEN). Trysorydd y Nodachfa, ac un o sefydlwyr yr Eglwys. Morris Parry a Mrs. John Williams. Ystal 4, Mrs. Gordon A. Lewis a Mrs. Edward Pierce. Ystal 5, Mrs. Evan Lloyd, Mrs. Emlyn Davies a Miss M. Evans. Ystal 6, Mrs. J. Watkin Davies, Mrs. David Evans a Mrs. David Jenkins. Ystal 7 (danteithion), Miss Williams. Ystal 8 (mslusion), Miss Watkin. Ystal 9 (blodau), Miss Rosa Parry, Miss Annie Parry a Miss Birbara Jones. Cynorthwyid y rhai uchod gan nifer dda o foneddigesau a boneddigion parod, ffydd- Ion ac ewyllysgar. Y mient yn rhy liosog i roddi eu henwau ymi. Agorwyd y gweithrediadau y dydd cyntaf gan y Vicountess Parker, i'r hon y cyflwyn- wyd bouqet ardderchog, gan Miss Mabel Lloyd. Talwyd y diolchgarwch arferol i'r Vicountess Parker, am ddyfod i agor y nod- achfa, gan Syr John Paleston, mewn araeth ymarferol yn yr hon y cyfeiriodd at y gwaith mawr oedd wedi cael ei wneyd mewn cy- sylltiad ag Eglwys Dewi Sant. Eiliwyd y diolchgarwch gan un o wyr ffyddlonaf y lie, sef Mr. James Williams, y warden. Yna, MR. DAVID EVANS. Trysorydd yr Eglwys am yr wyth mlynedd diweddaf ae aelod gwerthfawr ar Gyngor yr Eglwys. Y PARCH. BENJAMIN THOMA.S, B.D., Ysgrifenydd y Nodaohfa, Caplan Dawi Sant, a llyw- ydd Cyngor yr Eglwys. Yn ystod ei wainidogaeth o yn agos i saith mlynedd y mae, gyda chydweithred- iad Cyngor yr Eglwys a'r gynulleidfa., wadi llwyddo i gasglu dros dair mil 0 bunau tuag at dteuliau cy- ffredinol yr Eglwys a. lleihau y ddyled. aed yn union at y gwaith o brynu a gwerthu -a chaed masnach rydd a da. Agorwvd gweithrediadau yr ail ddydd gan Mrs. H. Powell Edwards, a chyflwyriwyd iddi bouquet prydferth iawn gan Miss Crawshay Biiley. Talwyd diolchgarwch i Mrs. Ed- wards, am ei charedigrwydd yn dod yno, gan y Parch Benjamin Thomas mewn araeth fer a chynwysfawr; ac eiliwyd gan un o ffyddloniaid yr achos, Mr. Hugh Jones. Yna aed at waith y dydd, a chaed diwrnod llwyddianus iawn. Yn ystod y d lau ddiwrnod caed amryw ddifyrion, a chystaileuaeth i ddynion mewn addurno hetiau i ferched, ac hefyd gerddor- iaeth aruchel gan Gor Merched y Kymric a chan Badwarawd Madame Clara Novelto Davies. Cymerwyd rhan gan Mr. T. Vin- cent Davies (organydd Diwi Slnt), Mr. E. Pierce, Miss Gardon, MLss Miry Pierce, a Mr. David Jones (Llew Caron) ac ereill. Yr oedd cystadleuaeth trimio'r het o dan hy- fforddiant Mr. John E. Morris; a'r beirniaid oeddynt Miss S. M. Pugh a Miss Marjory Jones. Treuliwyd amser difyrus a dedwydd. Derbyniwyd y swm sylweddol o arian yn Syb JOHN PULESTON, D.L., J-P- IJn 0 gefogwyr yr achos.