Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

r BYD AOR BETTWS.

News
Cite
Share

r BYD AOR BETTWS. Disgwylir Archdderwydd Cymru i Lundain yr wythnos nesaf, nid i gynal Gorsedd eithr i bregethu yn y Tabernacl. Mae cynllun Syr Isambard Owen ynglyn a sefydlu Amgueddfa a Llyfrgell Genedl- aethol wedi ei fabwysiadu yn hollol gan ein cynrychiolwyr Seneddol. Ymddengys fod cryn anhawsder i gael ymgeiswyr Toriaidd ynglyn a'r seddau Cym- reig erbyn yr etholiad cyffredinol nesaf. Yr anhawsder gyda'r Radicaliaid yw dewis un o rhyw ddwsin o wyr addas yn mhob ethol- aeth. Can' mil y flwyddyn yw derbyniadau y Marcwis o Fon oddiwrth ei ystad, ond y mae hyny yn rhy fach iddo. Beth yw can' mil o bunau i Farcwis sy'n mynu chwareudy a chwareuyddion i'w ddifyru ? Toriaid yw'r Cymry i gyd, medd Mr. Chamberlain. Wel, y mae'n rhywfath o gysur i ni fod y gwr o Firmingham yn gallu ein canmol fel hyn, ar ol iddo gael cinio foethus gan gynffonwr o Gymro. Mae Syr Edward Reed yn edmygydd mawr o Chamberlain a'i gynllun. Dyna'r prif reswm, yn ddiau, fod yr aelod tros Gaerdydd yn teimlo mai gwell yw iddo roddi'r sedd heibio na chael ei daflu allan o honi gyda dirmyg. Er fod y tywydd yn ddymunol, y mae ffermwyr Kent yn cwyno fod pla wedi dod ar eu coed ffrwythau, ac mai prin iawn fydd y cynyrch eleni eto. Y llynedd caed colled- ion enfawr o achos y tywydd, ac os na ddaw gwell gwawr ar bethau eleni bydd y golled yn fawr. Yr wythnos nesaf, cynhelir cyfarfodydd mawr gan Fyddin yr lachawdwriaeth yn Llundain. Maent wedi adeiladu Tabernacl arbenig yn y Strand, lie y cydgynulla ael- odau'r fyddin o bob rhan o ddaear. Adeil- edir y Ty yr wythnos hon, yr wythnos nesaf fe'i defnyddir, a'r wythnos wedyn tynir ef i lawr. Bydd y gost yn enfawr am mor lleied o amser; ond, ar hyn o bryd, gwaith an- hawdd yw cael neuaddau mawrion a chyf- leus yn Llundain. Parhau mae'r ymladd o gylch Port Arthur —ac yn ol y newyddion diweddaraf o faes y gad, y mae byddin Japan yn lied debyg o gipio'r porthladd a'r dref oddiar y Rwssiaid. Canlyniad hyny, meddir, fydd gorfodi Lloegr i gilio o Wei hai Wai, y porthladd Chineaidd a brydleswyd gan Salisbury er mwyn cael rhywbeth i liniaru y teimlad Jingoaidd yn y wlad hon ar adeg llwyddiant Rwssia yn y Dwyrain.

Advertising