Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Y LLE I DREULIO GWYLIAU'R…
Y LLE I DREULIO GWYLIAU'R HAF. O'r braidd. y gellir edrych dros gyhoedd- iad Seisnig y dyddiau hyn nad yw'n cynwys cynghorion ac awgrymiadau parthed y lie goreu i dreulio gwyliau'r haf, ac, yn ddi- eithriad, mae'r ysgrifenwyr yn cymeradwjo Cymru. Y mae'r ysgrifau, gan awdwyr galluog ac o nod, yn organmoliaethus, ac y mae gan rai o honynt ddesgrifiadau byw o'r gwahanol olygfeydd rhamantus a mawr- eddog sydd i'w gweled yn ngwahanol ranau o Wyllt Walia. Dylai Cymru fod yn falch o'r cyhoeddusrwydd a roddir fel hyn iddi mewn cyhoeddiadau a llyfrau Seisnig y mae'n offerynol i ddwyn miloedd o ymwel- wyr yn ystod yr haf ac i beri i'r Saeson gymeryd mwy o ddyddordeb yn ein gwlad ac yn hanes ein cenedl. Ac nid wyf heb ofni y bydd y dosbarth canol yn Lloegr yn gwybod mwy am Gymru na'r Cymry eu hunain; y mae awdwyr ac arlunwyr Seisnig yn gwybod mwy yn barod na'r rhai Cym- reig, ac yn cael mwy o bleser a mwyniant oddiwrth ei golygfeydd ac adgyfnerthiad corph o'i hawelon pur ac iachus; ac, yn amr iawn, y maent yn gwneyd elw trwy hyny. Nid oes neb yn gwarafun eu ffawd yn hytrach, teimlir yn ddiolchgar iddynt, yn neillduol pan gofir fod holl ymdrochleoedd glanau y mor ) n fwy dyledus i'r Saeson nac i neb arall am eu datblygiad a'u cynaliaeth. Hwy sy'n cyfansoddi y mwyafrif mawr o'r ymwelwyr blynyddcl, ac y mae'n llawn bryd i'r un dosbartbiadau-ein pendefigion a'r dosbarth canol-yn Nghymru gymeryd yr un dyddorodeb a rhcddrr un gefnogaeth i ymdrocbleoedd ac ardaloedd mynyddig Cymru. Yn bresenol, ant with y miloedd i'r ymdrochleoedd ffasiynol Seisnig ac Uchel-diroedd yr Alban, tra y mae llanerch- au iachach eu hawyrgylch, purach eu dyfr- oedd, ac ardderchocach eu golygfeydd yn eu hymyl-o fewn taith ychydig oriau-a manau y gallant fyw ynddynt ar haner y draul. Nid arw>dcl o ddiffyg cenedlgarwch a gwladgarwch ydyw hyn, ond prawf amlwg o anwybodaeth a dichon fod rhan o'r bai -a rhan fawr hefyd-yn gorphwys wrth ddrws awdwyr Cymreig a chyhoeddwyr llyfrau. Anaml, os byth, y gwelir ysgrif, ond yn Cymru, ar un o olygfeydd rhamantus ac arlunol a mawreddog-ie, ofnadwy Cymru; ac y mae hwn yn dditfyg mawr yn ein llen- yddiaeth. Y mae ugeiniau o honynt i'w gweled ag y byddai'n talu cymeryd taith o fil o filldiroedd i'w gweled, ond er yn ein hymyl, sy'n cael eu hesgeuluso'n hollol, ac nid oes chwarter trigolion Cymru ei hunan yn gwybod fod y fath swynion megis am y clawdd a hwy. Dichon mai ein hagosrwydd atynt a'n bod wedi ein mhagu yn eu canol sy'n cyfrif am ein difaterwch o dlysni ein hafonydd a'n haberoedd a'n dyffrynoedd a'n cymoedd, o favsredigrwydd ein bryniau a'n mynyddoedd a'u golygfeydd ond, yn sicr, fe ddylai awdwyr a chyhoeddwyr wneyd mwy i ddod a Chymru i sylw y Cymry eu hunain. Nid oes cyfrol o law-lyfr erioed wedi ei chyhoeddi yn Gymraeg yn desgrifio,. trwy eiriau a darluniau, ei phrif ryfeddodau -aruthredd ei mynyddau a thlysni ei chym- oedd a'i manteision arbenig i rai wedi blino ar fwg a thwrf y trefi'; a gobeithio y bydd i ryw ysgrifenydd galluog a chyhoeddwr an- turiaethus ymgymeryd a'r gorchwyl hwn ag- a fydd o les anrhaethol i Gymru yn gyffred- inol ac elw mawr iddynt hwy.—IDRISWYN.
Gohebiaethau.
Gohebiaethau. Y NAW ACH GYMREIG. At Olygydd CELT LLUNEAIN. SYR,—Y mae yn sicr fod casglu y rhestr o'r hen' deulu oedd gan em cenedl ni oesau yn ol wedi peri llafur mawr i'r Dr. Davies, ac y mae dyddordeb i'w gael wrth astudio ychydig arni. Ond, yn sicr, y mae wedi ein hanwybyddu ni yn y Gogledd. Hendad nis adwaenir genym. Ein gair ni yw "taid." Hefyd, yn sir Drefaldwyn, defnyddir tadcu," mamgu." Ond hwyrach y tybia y Dr. mai llygriad o'r gair "hendaid" yw y gair "taid"—"n" a "d" yn gwneyd "t"; os felly, beth am darddiad y gair nain ai llygriad o'r gair henfam yw ? Yr eiddoch, &c., ARFONIAD.
YN OL O'R GORLLEWIN.I
YN OL O'R GORLLEWIN. YMWELIAD A DINAS Y LLYN HALEN. [Gan Miss Ellenor Williams, Castle Street.] (Parhad). Cawsom un diwrnod ar ei hyd i fyned gyda Mr. Davies yn yr observation car i weled y ddinas hynotaf yn America, dinas y Mormoniaid, yr hon a sefydlwyd yn 1847, gan Brigham Young a'i ychydig ganlynwyr, y rhai oedd wedi cael eu herlid o fan i fan o achos eu daliadau crefyddol. Un cant, tri a deugain o ddynion, tair dynes a dau blentyn oedd nifer y fintai gyntaf a arweiniwyd gan Brigham Young i'r Mynyddoedd Creigiog i chwilio am le i ymsefydlu. Teithiasant dros fynyddoedd dychrynllyd, y rhai sydd yn wynion gan eira oesol, a thrwy wastadeddau dilwybrau rhwng afon fawr y Missouri ac anialwch diderfyn y Nevada. Ar y pedwer- ydd dydd ar hugain o Orphenaf y cyrhaedd- asant Ddyffryn y Llyn Halen," lie cawsant eu hamgylchu gan genhedloedd anwaraidd, a'r lie hefyd y dioddefasant galedi mawr ac eisieu lluniaeth, er hyny buont yn wrol a dyfal barhaol-yn ddigon felly i sefydlu un o'r dinasoedd godidocaf ac un sydd erbyn hyn yn gyrchfan pobloedd o bob gwlad. Mae marsiandiaeth Talaeth Utah a'r byd oddiamgylch yn eang. Ni raid i ni ond edrjchary rheilffyrdd mawr sydd yn cael eu hagor trwy y mynyddoedd diderfyn yno. Gorwedda dinas Salt Lake ar le gwastad a'i hamddiffynfa yw y mynyddoedd o'i chwm- pas. Mae ei heolydd yn llydain, rhai yn ugain milltir o hyd a digon o le wedi ei ddarparu gogyfer a thyfiant y lie a chynydd y boblogaeth. Ond i'r ymwelydd, y llefydd sydd yn tynu sylw yw Teml Mormon a'r Tabernacl. Nid yw y deml yn agored i neb ond y Mormoniaid eu hunain, lie maent yn bedyddio, priodi a myned trwy eu holl sere- moniau crefyddol. Mae yr adeilad o'r tu allan yn odidog, a dywedir tuhwnt i ddes- grifiad o'r tumewn; a chostiodd chwe' miliwn o ddoleri. Mae yn 200 troedfedd o hyd, yn gant o led, yn gant o uchder, gyda phinacl ar bob congl, tros ddau gant o droedfeddi o uchder. Mae y muriau yn ddeg troedfedd o drwch, wedi eu hadeiladu o'r granite gwyn gludwyd o'r Cottonwood Canyon. Buwyd am ddeugain mlynedd yn ei aaeiladu. Ychain oedd yn Ilusgo y ceryg, a chymerai wythnos iddynt fyned a phob llwyth. Y TABERNACL MORMONAIDD. Yn ymyl y deml mae y Tabernacl, yr hwn o ran ei adeiladwaith sydd yn un o ryfedd- odau y byd. Ei ffurf sydd yn debyg i haner Wy. Mae wedi ei wneyd o geryg, haiarn a gwydr, a hyny heb yr un hoelen ynddo. M le yn ddau gant a haner o droedfeddi o hyd, cant a haner o led. yn gan'troedfedd o nchder yn ei gynal, heb na philar na phost i'w ddal i fyny. Mae y waliau yn ddeuddeg troedfedd o drwch, ac ugain o ddrysau i fyned i mewn ac allan iddo. Mae yn un o'r adeiladau mwyaf at wasanaeth crefyddol yn y byd. Dywedir fod lie i dros ddeng mil eistedd ynddo. Mae yr organ yn anferth o faintioli, wedi ei hadeiladu gan y Mormon- iaid, o goed y gymydogaeth a rhifa'r cor o ddau i bum' cant o leisiau. Chwareuir yr organ bob dydd er mwyn yr ymwelwyr. Mae y Mormoniaid yn hynod o garedig, yn dangos y llefydd a rhoddi pob gwybodaeth i'r ymofynydd. Mae yn Salt Lake City lawer o Gymry, ond dim achos Cymraeg. Aethum o gwmpas y lie gyda Dr. Stewart, a thra byddai ef yn trin ei gleifion, ymgomiwn inau a'r Mormoniaid, gan gasglu llawer o wybodaeth am eu dal- iadau crefyddol. Gofidient nas gallaswn aros yno yn hwy; a dywedent y buasent yn myned o dy i dy, ac yn casglu cy nulleidfa i mi gael eu banerch yn Gymraeg. Rhy fyr o lawer oedd fy arosiad yn y ddinas ddyddorol rhaid oedd arnaf frysio yn mlaen heb weled dim o sefydliadau y lie ond y State Prison. YN DENVER. Wyth o'r gloch nos Sadwrn cychwynodd Mrs., Miss Davies a minau am Denver, gan obeithio bod yno eibyn deg nos Sadwrn, ond yn lie hyny cawsom ein cadw i aros pum' awr yn y Grand Junction, a chyrhaeddasom Denver ddau o'r gloch boreu Sul. Gyda'r Colerado Midland yr oeddem yn teithio y darn olaf o'r ffordd. Mae'n hyfryd teithio drwy y mynyddoedd ofnadwy, yr Hagerman Pass. Pan yn y twnel ar ben y tir yr oeddym 11,0000 droedfeddi uwchlaw y mor. Mae Leadville )n sefyll ar dir sydd ddeng mil o droedfeddi o uchder. Nid ydyw mor g)fleus i deithio ar y llinell hon am nad oes dining cars ar y tren, ac i ni oedd heb ddarparu gogyfer a'r anffawd, yr oedd hyn yn anffor- tunus i'r eithaf. Da oedd cael cyrhaedd cartref F. Wynne Williams, lie caem ein gwala a'n gweddill o bob danteithion, ac yn goron ar y cwbl depot a the du i mi. Dym- unol hefyd oedd derbyn llythyrau dyddorol oddiwrth Cranogwen, ac ereill o'r Hen Wlad, yn fy ngwahodd adref. I Russell Gulch ) r oeddwn i f) ned i efengylu, ond yn anffortunus yr oedd y Parch. Owen Pierce -y brawd oedd yn gwasanaethu yr eglwys Gymraeg yn Denver am y mis-yn sal iawn, felly, cefais i fy nghadw yno am y Suliau i aros dyfodiad gweinidog arall i lanw'r pwl- pud pryd y cawn inau fyned i fyny i'r Mynyddoedd Creigiog at bobl yr aur. Croesawol iawn oedd Cymry Denver i mi y tro hwn, fel y tro o'r blaen. Mae yma neu- add ardderchog, a defnydd eglwys fawr, pe bae bugail da vma i'w casglu ynghyd. Ym- weled o dy i dy ydyw fy ngwaith dyddiol. Mae y boneddigesau, Mrs. Brubaker a Mrs. Williams, Cartref y Cymry, yn drugarog yn myned a mi yn eu buggies o gwmpas y gwahanol deuluoedd. Mae yn llawenydd gan y Cymry weled Mrs. Williams wedi mendio mor dda, ac yn gallu cadw'n mlaen Gartref y Cymry. Drwg genyf hysbysu cy- feillion y brawd P 0. Pierce mai dal yn sal y mae, heb fod o'i ystafell er's mis. Mae yn cael pob gofal a charedigrwydd gan y Cymry -yn neillduol gan y dynion ieuainc sydd yn cydletya ag ef, Luther Roberts ac Oswel Edwards. Mae y crydcymalau wedi analluogi Mr. Pierce i ysgrifenu, felly mae yn gofyn i'w gyfaill W. O. Hughes, Lake Crystal, a'i garedigion yn Postville dderbyn hyn o eg- lurhad, fel rheswm na fuasai wedi anfon i ddiolch iddynt am eu gofal o hono yn ei gystudd blaenorol. Ni arbedasant gost na thrafferth ar ei ran. Siomedig oedd yr eglwys yma am iddo fethu pregethu ond un Sul, ac yntau yn bregethwr gwir dderbyniol. Brodor o Bethesda, Arfon, ydyw y brawd. Bu yn bugeilio eglwys Penucheldre, Llan- badarn, Mon. Mae yn y wlad hon er's yn agos i flwyddyn, ond yn gwneyd llai o swn wrth basio na rhai o honom. Bwriadaf finau newid fy Nhalaeth yn fuan. Emporia, Kansas, a Lebo fydd y llefydd nesaf i mi ymweled a hwy.
BwreSdy 'Ceil*'
BwreSdy 'Ceil*' Er fod yr haf wedi dod yn ei ogoniant arnom a- gwenau yr heulwen yn lloni pob peth o'n cylch, ceisiodd y beirdd wneyd bywyd yn faich yr wythuo& hon drwy wisgo golwg bruadaidd a chanu marwnadau awenyddol i Llinos Wyre. Nid oedd Bardd yr Offis yn barod i wrando arnynt am y credai nad oedd y Llinos wedi cyflawni hunanladdiad oherwydd ni ddaeth gair oddiwrth na Hwfa Mon na Morien nac hyd yn oed oddiwrth Gwilym Cowlyd, i gynal cwest Archdderwyddol arno. Ac yn sicr, fe ddeuai awen dyner y Llinos o dan nodded un o'r trioedd hyn; am hyny, gwell oedd ganddo ohirio y mater am beth amser er mwyn i'r gelain gael oeri, beth bynag. I loni tipyn ar y cynulliad daeth rhyw haner dwsin o lenorion gwych, ac 'roedd cael gair oddiwrthynt yn peri mwynhad i'r dorf, ac wrth weled y derbyniad a gawsant diau eu gwelir eto yn ami.