Hide Articles List

3 articles on this Page

YR HEN ORUCHWYLIAETH.

News
Cite
Share

YR HEN ORUCHWYLIAETH. NOFEL SWYNOL MRS. ERNEST RHYS. Llawer iawn o son a siarad ac ysgrifenu y sydi y dyddiau hyn am "Werddon Fydd," -am yr Iwerddon wedi ei thrwytho a'i phuro gan feddwl a rhamant y dyddiau a fu, a llawer yw y rhai sy'n ymdrechu" i godi'r hen wlad yn ei hol." Nid oes eisieu ond enwi W. B. Yeates, Dora Sigerson, Katherine Tynan, George Moore, Villiers Stanford a Douglas Hyde, er mwyn profi mor llawn awen ac ysbrydoliaeth yw'r mud- iad newydd. Wrth feddwl am eu gwaith rhagorol a'u gobeithion disglaer, onid gwrido a chywilyddio ddylai Cymru Fydd ? Pa le mae ein gwyr mawr ni, ein beirdd, ein llen- orion, ein cerddorion cenedlaethol ? Ofnwn yn fynych fod Cymru Fydd yn parotoi i ddilyn esiampl ddrwg Iwerddon Fu,-ac i droi ei holl athrylith a'i hanianawd i fyd gwleidyddiaeth. Mae yr Iwerddon erbyn heddyw wedi gweled ei chamsynied, ac y mae'n myn'd yn ol at hen ddrychfeddyliau Thomas Davies a Gavan Daffy ac yn ym- drechu creu cenedl newydd yn yr Ynys Werdd drwy len a chan ac awen. Ac ys canodd rhyw brydydd diweddar, os ydyw Cymru Fydd ya werth ei chofio, Gwlad awen, gwlad oanu, gwlad 113n ydyw hi. Ond i ddvchwelyd at y pwnc-sef y mudiad llenyddol Gwyddelig," i godi'r hen wlad yn ei hoi" Ar ol darllen nofel ddiweddaraf Mrs. Ernest Rhys,1 The Prince of Lisnover (Methuen and Co ), amhosibl i neb beidio ychwanegu enw gwraig y llenor Cymreig at y rhestr a roddasom eisoes,-ac nid yn isaf ar y rhestr, chwaith. Cofus genym ddarllen dwy nofel o'r blaen o law Mrs. Rhys, sef 1 Mary Dominic a The Wooing of Sheila.' 'Roedd y gyntaf yn nofel gref, llawn medr a chelf, llawn cwmwl a heulwen, llawn gob- aith am bethau mwy i ddyfod. Un o nod- wedd hollol wahanol oedd yr ail,-stori brydferth, syml, Ion, naturiol. Nis gwyddom yn iawn beth i feddwl am hon,âofnem weithiau fod awdures Mary Dominic wedi colli ei ffordd yn myd lien, ac fod gobaith y nofel gyntaf wedi ei lethu'n gynar. Stori o radd uchel oedd The wooing of Sheila," ond nid oedd yn symud yn yr un awyrgylch a Mary Dominic." Ac wele'r drydedd gainc o'r Mabinogi yn awr, ac wrth ei ddarllen, rhyfeddem ein bod wedi drwgdybio awen a barn Mrs. Rhys o gwbl. Vn hon ceir naturioldeb swynol Sheila" ynghyd a chryfder a cheinder u Mary Dominic." Yn hon ceir cyfuniad o holl nerthoedd llenyddol Mrs. Rhys. Rhydd ddesgrifiad byw, manwl, syml, tarawiadol o Werddon Fu. Dengvs fel y gwnai ffordd araf o flaen Gwerddon S/dd ac, heb ar- eithio na phregethu teifl awgrym o'r hyn ddymuna Gverddon Fydd i fod. Yn hon ceir hanes dyddiau olaf yr hen oruchwyliaeth, a gwelir hi ar ei gwely angeu. Teimlwn wrth ddarllen yr hanes yr un hiraeth ag a deimlir pan welir hen wr glandeg yn marw. Gwyddom amei ffaeleddau a'i wendidau a'i bechodau: ac nid ydym yn hollol amharod i'w golli. Ond eto, pan gofiom am ei wynebpryd hardd, ei garedigrwydd, ei haelioni, mae'n anhawdd rhoddi'r ffarwel olaf iddo. Felly, wrth ddarllen stori olaf Mrs. Rhys, teimlwn pan fo'r hen wr a lysenwid The Prince of Lisnover" yn marw, fod yr hen oruchwyl- iaeth yn marw gyda? ef-yr hen fyd es- mwyth, diofal, diobaith, digerydd, llawen, haner-Paganaidd yn marw gydag ef. Nid ydym yn hoffi'r oruchwyliaeth newydd sydd yn cymeryd ei lie, ond teimlwn-a dyma brif ragoriaeth Mrs. Rhys-fod yn rhaid mynd drwy'r cyfnod hwn cyn cyrhaedd Gwlad Wen yr Addewid. A hyn yw swyn y llyfr. Dengys fel y glyna calon y Celt at yr hen bethau ar yr un pryd ag y mae ei ddeall yn ymestyn at bethau newydd,âac mor gelf- ydd yw'r awdures fel y gwna i ni garu'r hen ira'n galw am y newydd. Nis gwnawn amcanu rhoddi'r stori yma. Mae'n stori dda, ddoniol, yn llawn caru a chanu, hela ac ymladd, lladd a llabyddio, priodi a byw. Deuir ar draws dwsinau o gymeriadau gwreiddiol-hen wrach a rhibyn, a ffwl y pentref, cardotyn yn disgyn o linach hen ac uchel a "gwr boneddig" ffasiwn newydd, meddyg gwledig a theulu direidus, bechgyn gwrol a genethod prydferth; mewn gair, pob peth sydd yn eisieu er mwyn gwneyd stori dda, ddawnus, boblogaidd. Ond, er cystled y stori, mae'r llyfr yn werth mwy, a gobeithiwn y gwna pob Cymro wneyd ei oreu i ymgydnabyddu ag ef. 1'r darllen- ydd call a sylwgar mae mwy o addysg i'w gael yn hwn nag yn areithiau hyawdl y Cymru Fyddion; a gall ddeall mwy (drwy gymhariaeth) am ddyheadau a phosibil- rwydd y mudiad cenedlaethol Cymreig na phe darllenai holl gyfrolau trymion y Cym- mrodorion. Ac, wrth ddarllen, sibrydem wrthym ein hunain o hyd," 0 na buasai'n Gymraes o ran tarddiad yn ogystal ag o ran teimlad fel y gallai wneyd yr un peth dros ein cenedl ni,-fel y gallai esbonio ei bywyd a'i hathrylith a'i gobeithion i'r allariolion." Gormod peth yw gofyn am hyn. Y bywyd Gwyddelig yw'r bywyd a edwyn Mrs. Rhys, a llongyfarchwn yr Iwerddon a'r awdures amryddawn ar y llyfr godidog hwn.

AWDWR CYMREIG NEWYDD.

Advertising