Hide Articles List

5 articles on this Page

Byd y Gail.

[No title]

CARTRE' RHAMANT.

News
Cite
Share

CARTRE' RHAMANT. Hed fy nychymyg i lan y mor, a disgyn ar draethell unig yn Ngheredigion. I lygad fy narfelydd cyfyd y creigiau oesol, muriau castell tragwyddol y ddaear, yn foelion a garw o'm blaen. Ar fy nghlust tyr dwndwr diderfyn y don o'm hoi, a gwawch anaearol y gigfran ymnytha yn encilfeydd y creigiau. Fry, ar y clogwyn moel, pawr y ddafad y borfa brin; ac am oesau meithion y mae'r bugail a'i gi, a'r ddafad a'r oen, wedi bod yr unig warcheidwaid y fangre henafol. Draw ar y don gwelaf long yn ei llawn hwyliau, yn diog nofio, fel g-wrthrych hollol anibynol ar amser a lie. 'Does adeilad yn y golwg, oddigerth magwyr unig gerllaw, a'i ffenestri fel llygaid ysgerbwd, ei do yn ganddryll, a'r tywod yn llanw ei aelwyd. Gwylan welw'r glanau ydyw weithian ei unig breswylydd. 0 ran yr olygfa o'm cylch gallai fod yn amser Dafydd ap Gwilym, a chaddug y Canoloesoedd eto'n gorphwys ar wyneb Ewrob. Yr oedd y graig, a'r ddafad, a'r wylan a'r llong yr amser hwnw ac efallai, hefyd, fod y fagwyr yn aros er dyddiau blinion yr Angau Du a rhyfeloedd gwaedlyd Iorwerth y Trydydd. Yn nghesail y graig gwelaf dwmpath cochwawr o binc y mor yn blodeuo'n firain, ac o dan fy nhraed y mae rhubanau cyfoethog y gwymon yn ymledu o gareg i gareg hyd y tywod melyn. Draw yn y pellderoedd, dros y weilgi las, cyfyd myn- yddoedd porffor Arfon eu penau hen, yn gywir fel yr oeddent pan ymladdai milwyr dewrion Llywelyn yn nghestyll anian Eryri. Ha, dyma'r olygfa welai Madog pan gych- wynodd ei longau ar foreu teg am lanau pellenig y Byd Newydd, dyma'r olygfa gyntaf yr Iberiad llygad-ddu gyntaf gyr- haeddodd lan mor dieithr y gorllewin cytrin. Drwy dreigliad diderfyn yr oesau erys y fan yr un. Murmura'r don yr anthem ddofn ddifrif a furmurai pan y tro cyntaf y cyd- ganodd ser y boreu; yr anthem dragw/ddol a glywir pan fo'r ddaear wedi crwydro fil- oedd o flynyddoedd hyd entrych y ffurfafen. Yn y fangre hon yr ydwyf yn mhresenoldeb ofnadwy'r anghyfnewidiol, a myfi mor ddar- fodedig. Yn y llanerch hyfryd gwrandawaf ar leisiau diddarfod y cread ardderchog a theimlaf yn barod i ogoneddu Awdwr fy mywyd am orig o fodolaeth mewn congl ddistadl o'r bydysawd gogoneddus!

Advertising

MARI'R FUWCH.