Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Oddeutu'r Ddinas.

News
Cite
Share

Oddeutu'r Ddinas. Nos Fercher nesaf ceir araeth gan y bar- gyfreithiwr ieuanc, Mr W Llewelyn Williams, o flaen Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrod- orion yn 20, Hanover Square. Y noson ddilynol, sef nos lau y 29am, bydd y meddyg twymgalon (Dr. Morgan Davies, Goring Street), yn traddodi araeth o flaen Cymdeithas y Brythonwyr yn 63, Chancery Lane, ar Gymreigaeth mewn Barddoniaeth.' m m Hwn fydd cyfarfod olaf y Brythonwyr am y tymhor, a rhaid addef fod y Gymdeithas Gymreig hon wedi bod yn hynod o fyw yn ystod y gauaf, a sicr yw y daw yn ddylan- wadol ymysg sefydliadau addysgol ein cenedl oherwydd y mae eisoes wedi cyhoeddi nifer o bamphledau ydynt yn sicr o fod yn agoriad Ilygaid i'r dosbarth hyny na chredant fod dim gwerth mewn pethau Cymreig. Ar waethaf yr hin aeth tyrfaoedd o Gymry gyda'r pleserdeithiau i'r wlad dydd Llun diweddaf. Yr oedd ardal Brickett Wood wedi troi yn hoIlol Gymreig am y prydnawn oherwydd aeth nifer fawr iawn gydag Ysgol Jewin, ac yr oedd ysgolion ereill yno hefyd. Yr un modd gyda phobl y Tabernacl, yr oedd y cynulliad yn gystal ag y gellid dymuno o dan yr amgylchiadau. # Y GLOYN BYW. Plentyn gwawl swynawl y sydd-yn hofian Is nefoedd ar hafddydd, Moeth ei fant ac esmwyth fydd Ar dyner aur adenydd.—Gwynfbyn. » ♦ • Cafwyd cymanfa ragorol yn y Boro eleni, fel arfer, ar y Sulgwyn. Pregethwyd gan y Parchn. D. Adams, B.A., Lerpwl, a H. M. Hughes, B.A., Caerdydd. Hwy yw pregeth- wyr yr Undeb eleni yng Nghaernarfon yn Mehefin. Cydymdeimlir a Mr a Mrs Richard Griffiths, 79, Goldhawk Road, Hammersmith, yn eu hiraeth ar ol eu baban, Lewis Philip, yr hwn a fu farw boreu Saboth, Mai yr ueg, yn bymtheng mis oed. Claddwyd ef y dydd Gwener canlynol wrth ochr ei hen-daid yng Nghladdfa Gyhoeddus Tooting, pryd y gwas- anaethwyd gan weinidog y teulu-y Parch. D. Charles Jones, Boro. Cysured Duw y rhieni trallodus. Yr oedd adroddiad calonogol iawn ynglyn a'r Cyfundeb Methodistaidd yn Llundain wedi ei drefnu i'r Gymanfa Gyffredinol yn Lerpwl y dydd o'r blaen. Fel y gwyddis, y mae'r "Hen Gorffwedi llwyddo yn hynod yn y ddinas yma yn ystod yr ugain mlynedd sydd wedi myned heibio, ac y mae pob argoelion y pery i gynyddu eto yn y dyfodol. Mae'r eglwysi bychain sydd wedi eu sefydlu yn ddiweddar eisoes yn dechreu dod yn gryfion, ac y mae'r bugeiliaid ieuainc sydd wedi ym- sefydlu yn y gwaith yma yn graddol esgyn i anrhydedd yn y Cyfundeb. Gydag ychydig o gydweithrediad ac egni cyffelyb eto yn y dyfodol, gall Cymry Llundain ddod yn gylch pwysig yn hanes yr enwad. CYMDEITHAS DDIRWESTOL HEOL-Y- CASTELL. Hi ddaeth fal angyles i'n mysg i gartrefu, Ei gwisg sydd brydferthwch, a. lion yw ei gwedd. Mae'n nefol-anedig, a'i gwaith yn dyrchafu A phuro dynoliaeth, o'u llygredd dihedd. Llifeiriant erch meddwdod, sy'n bygwfch celanedd Gan fathra dynoliaeth fel Ilaid dan ei droed Ond hon, yn ei chariad a'i thyner ymgeledd, A gyfyd y truan, bob gradd a phob oed. Os ydyw cymdeithas yn cael ei dolurio Wrth weled plant dynion yn isel eu gwedd, Mae pelydr gobaith er hyn, yn disgleirio Tra duwies dirwestiaeth a geidw ei sedd Am hyny cydunwn bob oedran a graddau I godi glan faner dirwestiaeth i'r nen, Boed bendith y nefoedd ar famau a thadau, Gwyryfon a llanciau dirwestol, Amen. C.D.O. <t Nos lau cyn y diweddaf cafwyd cyfarfod dyddorol iawn ynglyn a Chapel y Wesleyaid Cymreig yn City Road. Fel y gwyddis y mae yn arferiad gan y cyfeillion ynglyn a'r eglwys hon i gael swperau coffi ynghyd a chyrddau adloniadol yn ystod tymhor y gauaf, a hon ydoedd gwledd derfynol y tymhor. Yr oedd yr adran i'r corph yn flasus, yn ad- fywiol ac wrth fodd pawb. Pan aed i loni'r meddwl, yr oedd pawb mewn cywair priodol; ac o dan lywyddiaeth cadeirydd fel y Cyng- horwr Howell J. Williams, nid oedd dim i ddisgwyl ond noson hwyliog a threfnus. Cymerwyd rhan gan y rhai canlynol:- Misses Mary Jenkins, Lucie Alexander, Evelyn Brothers, a'r Mri. Harrison Davies, David Evans, Tim Evans, a H. S. Jones (Ap Caralaw). Ar ol talu y diolchgarwch arferol, terfynwyd y cwrdd gyda "Hen Wlad fy Nhadau," Mr. David Evans yn arwain. Aeth pawb i'w ffyrdd wedi eu mwynhau yn fawr.

Advertising

MRS. JANE EDWARDS, MAESDULAS,…