Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Y ørD A'R BETTWS.

News
Cite
Share

Y ørD A'R BETTWS. Testyn siarad Gogleddwyr Cymru y dydd- iau hyn yw, pa nifer o deitlau a ddaw i'r ardal yn adeg y coroniad ? Credir y daw rhai fel math o ad-daliad am y croesaw a roddwyd i'r Tywysog pan ym Mangor y dydd o'r blaen. Mae pedair mlynedd oddiar y bu farw Gladstone, a phedair mlynedd ydynt nas anghofir hwy am rai cenhelaethau ym Mhry- dain. Gwastraffwyd mwy o arian yn y tymhor byr hwn nag a wariwyd ar ryfeloedd yn ystod ei oes faith ef. Ac y mae rhai pobl eto ydynt yn barod i boeri ar enw y gwr da o Benarlag. Bu'r Wesleyaid, fel corff, yn hynod o bleid- iol i'r Weinyddiaeth yn eu polisi rhyfelgar, ond y mae terfyn hyd yn oed i waseidd-dra yr enwad hwn. Gwelwn, yr wythnos hon, eu bod wedi condemnio y Mesur Addysg pre- senol yn lied groyw mewn cynhadledd yr wythnos hon. Disgwylir nifer luosog o wyr blaenaf y trefedigaethau drosodd i'r wlad hon erbyn adeg y coroniad, ac er mwyn ad-enill ei boblogrwydd bwriada Mr. Chamberlain roddi gwleddoedd arbenig iddynt yn ystod eu har- osiad yma. Blin fydd gan lawer glywed am anhwyldeb Hwfa M6n. Bu yn cymeryd rhan flaenllaw y dydd o'r blaen yng ngorseddiad y Tywysog ym Mangor a chafodd anwyd. Hyderir y bydd wedi llwyr wella ymhen ychydig ddydd- iau, ac y bydd mor hoyw ag erioed eto erbyn adeg coroni'r Brenin yn Llundain. Y mae amryw o wyr blaenaf yr eglwysi Anghydffurfiol i gael lleoedd ym Mynachlog Westminster ar ddydd y coroniad. Symudiad doeth yw hyn ar ran y Brenin a'r awdurdodau oherwydd nid oes neb yn fwy teyrngarol i'r Orsedd na'r Ymneillduwyr. Mae Mr. Llewelyn Williams, y bargyfreith- iwr, i ddarllen papyr nos Fercher nesaf o flaen Cymdeithas y Cymmrodorion ar Babyddion Cymreig ar y Cyfandir." Bydd Mr. Williams yn trin ar agwedd Cymru tuagat Brotestan- iaeth pan oedd Bess yn teyrnasu a'r modd yr ymlynodd yn gyndyn wrth Babyddiaeth hyd nes y torodd gwawr Piwritaniaeth ar y wlad yn adeg Cromwell. Mae Mr. Williams wedi gwneyd darganfyddiadau hynod yn ystod ei ymchwiliad i'r pwnc. Dywed mai'r Pab- yddion Cymreig oedd prif elynion y Jesuitiaid a'r Pabyddion ereill oeddynt am oresgyn Prydain drwy offerynoliaeth yr Yspaen. Rhydd hanes llawer hen Gymro gonest a duwiol a wnaeth ei oreu dros ei wlad a'i iaith a'i genedl yn ol y goleuni a gafodd. Mae'r papyr yn agor maes hollol newydd i'r ym- chwilydd hanesyddol. Mae'r difrod a wnaed gan y llosgfynyddau yn ynysoedd yr India Orllewinol-Martinique a St. Vincent-yn llawer mwy nag y tybid ar y dechreu. Nid yw'r perygl eto drosodd gan fod y mynyddau o hyd yn poeri tan ac yn bygwth dinystr pellach. Am ganoedd o filldiroedd y mae'r glaswellt wedi ei ddifa ac mae'r trigolion a lwyddasant i achub eu bywydau rhag y cenllif tSn yn awr mewn enbydrwydd rhag newyn a syched. Gwneir pob peth a ellir gan ynysoedd cylchynol i estyn ymwared iddynt. Gwrthododd Senedd Prydain wneyd dim yn swyddogol er lliniaru y trueni sydd yn ynys- oedd Martinique a St. Vincent, ond da genym allu hysbysu fod y wlad wedi dyfod i'r adwy gyda'i pharodrwydd arferol a chydag haelioni ednaygol. Yr oedd cronfa Arglwydd Faer Llundain yr wythnos hon wedi cyrhaedd y swm anrhydeddus o ^"30,000. Mae'r Senedd wedi gwastraffu ei miliynau yn Affrica fel nad oes ganddi ddim wrth law i gyfranu at achosion dyngarol fel hyn. Beth sydd wedi dod o'r aelodau Seneddol Cymreig yn ddiweddar? Ni chlywir ond llais dau neu dri o honynt byth a hefyd, a da yw cael hyny, ond p'le tybed y mae'r deg ar hugain ereill. Nis gwyddom beth a ddeuai o honom oni bae fod genym Lloyd George a William Jones, a Bryn Roberts weithiau i roddi ambell i gic i'r rhai anufudd. Yn wir, rhaid i Gymru ddihuno, ac anfon pobl a wna rywbeth ar ei rhan i'r Senedd nesaf. Y fam eglwys Anibynol yn Llundain yw eglwys y Boro, ac y mae pobl y lie yn falch iawn o'r urddas henafol sydd ynglyn a hi. Y dydd o'r blaen, pan yn son wrth un o'r aelodau mai yr un pregethwyr oeddynt i bregethu yn Undeb yr Anibynwyr ag yn eu cymanfa hwy ar y Sulgwyn, atebai yn urdd- asol: Ie, ie, wyddoch. Mae'r holl enwad Anibynol yn dilyn y Boro' ymhob peth. Yr hyn a wna'r Boro' heddyw y mae yr holl eglwysi yn awyddus i'w hefelychu yfory." 'Does ryfedd fod yr eglwys yn eglwys lwydd- ianus. Araeth nodweddiadol o Dr. Cynddylan Jones oedd yr araeth a draddododd yng Nghymanfa Lerpwl wrth roddi i fyny ei swydd fel Cymedrolwr am y flwyddyn. Mae credoau yr holl sectau Cristionogol yn ogystal a damcaniaethau holl athronwyr a philosoph- yddion gwledydd cred mor gyfarwydd iddo ef ag yw Cyffes Ffydd y Methodistiaid, a dydd- orol felly yw cael ei farn ar dduwinyddiaeth y Cyfundeb ar yr adeg hon. Yr ydym yn ddyledus i'r Cymro am yr adroddiad cryno o'r araeth. Yn nyddiau y Sulgwyn y cynhelir cyfarfod- ydd pregethu y Methodistiaid yn Lerpwl, ac yr oedd yr wyl eleni yn fwy ei rhwysg nag arfer, am fod y Gymanfa Gyffredinol newydd fod ar ymweliad a'r dref. Sicrhawyd gwas- anaeth prif bregethwyr y Cyfundeb yn yr wyl, a chyfrifir fod tua chwech ugain o bre- gethau wedi eu traddodi yn ystod y cyfarfod- ydd. Dylai Cymry Lerpwl fod yn fobl dda ar ol hyn. Mae gan Esgob Llanelwy grediniaeth gref wedi'r cyfan yng nghenedl y Cymry. Y dydd o'r blaen, wrth lywyddu mewn Eisteddfod, dywedai fod dull ei genedl ef o chwilio am adloniant trwy yr Eisteddfod yn llawer gwell na'r Hispaen. Rhedegfeydd ceffylau ac ym- laddfeydd teirw oedd yn rhoddi mwynhad i'r gwledydd hyny, ond ymhyfrydai ei gyd- genedl ef mewn can a cherdd. Da yw gweled esgob yn wladgarol weithiau. Sonir fod y pleidiau yn Affrica yn dechreu d6a i gytundeb a'u gilydd, ac y ceir heddwch heb fod yn hir bellach ond y mae amryw bynciau eto y rhaid eu penderfynu ac nid y lleiaf fydd y cais oddiwrth y Bauwyr am gyd- nabyddiaeth priodol o iawnderau cenedl- aethol. Mae'n sicr nas gallwn ladd eu hys- bryd cenedlaethol er eu trechu mewn rhyfel.