Hide Articles List

2 articles on this Page

W. 0. JONES A'I ERLIDWYR.

News
Cite
Share

W. 0. JONES A'I ERLIDWYR. ACHOS YN LIVERPOOL. Nid yw helyntion y Parch. W. O. Jones, Lerpwl, wedi darfod. Cofus iddo fod mewn brwydr faith a Chwrdd Misol y dref hono yn amddiffyn ei gymeriad ar eirwiredd ac i'r Cyfundeb Methodistaidd ei drci allan o fcd yn weinidog yn eu heeglwysi. Oddiar y dyddiau cythryblus hyny, y mae Mr. Jones wedi codi achos newydd yn Hope Hall, Lerpwl, o dan yr enw Eglwys Rydd y Cymry," gan dynu i'w gorlan nifer luosog o ddefaid yr Hen Gorph. Canlyniad i un o'r troadau hyn oedd helynt arall yr wythnos ddiweddaf, sef ymddangos- iad Mr. Jones fel cyhuddwr yn y llys gwladol, ac er i'w wrthwynebwyr gael y gcreu arno ef yn llysoedd cyfrin ei enwad, cafodd ef y goreu ar ei athrodwyr yn ol rbeolau llysoedd y wlad. Y gwr a erlynid ym Mrawdlys Lerpwl oedd y Parch. Owen E. Owen, Lerpwl, a'r gwyn i'w erbyn a osodwyd gan dwrne W. O. Jones, sef Mr. W. F. Taylor, K.C. Mr. Taylor a ddywedai mai gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a fu yr er- lynydd, a'i fod yn bresenol yn weinidog ar Eglwys Rydd y Cymry, ac yr oedd yn dwyn y cynghaws hwnw yn erbyn y diffynydd am eiriau, y rhai, os y defnyddiwyd hwy, oedd yn cyfansoddi fel ag y tybiai yr erlynydd, ac fel y tybiai y rheithwyr hefyd, yn ol ei dyb ef (y bargyfreithiwr), athrod amo. Yr oedd y diffynydd, enw yr hwn ydoedd Owen E. Owen, yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Nid oedd yn meddwl fod ganddo eglwys o dan ei ofal, ond gan ei fod yn wein- idog yr oedd yn aelod ac yn mynychu capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Anfield. Yr ateb- iad i'r cynghaws ydoedd fod yr hyn a ddy- wedwyd wedi ei ddyweyd ar achlysur breint- iedig, ac heb ddim malais na drwgdeimlad, a bod yr honiadau yn seiliedig ar rai casgliadau neu ganfyddiadau y daeth pwyllgor o ym- chwiliad iddynt pan yr oeddynt yn gwneyd ymchwiliad i ymddygiad yr erlynydd ar ddechreu y flwyddyn 1901. Yr oedd yn angenrheidiol, fe ddichon, iddo roddi iddynt amlinelliad byr o hanes blaenorol yr erlynydd i fyny i'r adeg y cafodd yr athrod ei yngan yn Rhagfyr, 1901. Yna aeth Mr. Taylor drcs hanes Mr. Jones a'r helyntion fu rhyngddo a swyddogion Lerpwl, diwedd pa rai oedd ffurfiad Eglwys Rydd y Cymry. Y canlyniad o hyn oedd i'r achwynydd dynu rhai aelodau o'r hen gapeli; ac ymhlith y rhai a dynwyd gan yr achwyn- ydd drwy ei alluoedd, a thrwy gydymdeimlad ag ef, yr oedd pobl o'r enw Williams, teulu yn byw yn Anfield. Cynwysai y teulu yma fam a phump o ferched. Dechreuasant fyned i eglwys yr achwynydd yng Ngorphenaf neu Awst, 1901, ac yr oedJynt, neu buont, yn aelodau yng nghapel Anfield, lie yr oedd y diffynydd yn perthyn, nid fel gweinidog, ond fel aelod. Ymddengys i rai aelodau o'r teulu a nodwyd wneyd cais am docyn aelodaeth; ond yr oedd efe (y bargyfreithiwr) yn credu i'r cais gael ei wrthod oblegid fe ddywedodd yr awdtrdodau nad oedd hyn i gael ei ganiatau i rai a ddymunent ymuno ag eglwys yr achwynydd. Er yr adeg y gwrthodwyd y tocynau yr oedd y teulu Williams wedi peidio a bod yn aelodau o gapel Anfield. Byddai yr achwynydd yn cynhal moddion yn Hope Hall, a dywedai y bargyfreithiwr fod yr achwynydd, drwy ei alluoedd, wedi tynu miloedd i wrando arno, ac yr oedd yn dra liwyddianus; a pharodd y fath lwyddiant gyffro, ac hwyrach ofid gwirioneddol, oherwydd fod pobl yn myned o'r hen eglwys i'r eglwys newydd. Ond nid oedd hyn yn cyfiawnhau neb i ddy- weyd dim nad oedd yn wir yn erbyn yr achwynydd. Darfu i'r amddiffynydd, Mr. Owen E. Owen, a Mr. William Evans (yr hwn nad oedd yn amddiffynydd, er ei fod wedi cymysgu a'r achos, ac a wyddai gryn lawer o'r hyn a gymerodd le), alw gyda'r teulu Williams ar yr 2ofed o Ragfyr, a gwelsant bedair geneth ieuainc yn gyntaf, oedran y rhai a amrywient o 14 i 17 mlwydd. Gofynodd Mr. Owen gwestiynau iddynt ynghylch gadael yr hen gapel, a chan nad oedd yn cael rhes- ymau digonol, ebai Mr. Owen: ",Y mae yna lawer o bethau nad ydynt yn werth s)lw," yr oedd hyn ynghglch yr achwynydd, meddai y bargyfreithiwr, ond cymerwch hyn er eng- raifft. Nid wyf yn credu fod Mr. Evans wedi clywed hyn o'r blaen. Tybiwch fy mod i yn eich cymeryd chwi, neu ryw eneth arall am dro ac ar y ffordd i mi dynu allan o'm poced ddarlun o honof fy hun yn noethlymun, a'i ddangos i chwi, a ydych chwi yn meddwl fod dyn fel yna yn gymhwys i bregethu ?" Tra y dywedid hyn aeth un o'r genethod o'r ys- tafell, a thybiodd y bargyfreithiwr i fam a chwaer henach ymddangos, ac i'r ddiweddaf ofyn beth a ddywedodd Owen. Atebodd Owen y gallai brofi yr hyn a ddywedodd. Dyna oedd yr athrod y cwynai yr achwynydd o'i herwydd, ac yn fwy felly oherwydd yr hyn y bu drwyddo. Mewn cymdeithas Geltig yr oedd mynegiadau o'r fath yn lled- aenu fel tan gwyllt, ac yr oedd yr achwynydd wedi ei wthio i ddwyn yr achos ymlaen i le y gellid rhcddi atalfa ar eiriau o'r fath. Yr oedd yr amddiffynydd yn Pledio" privilege," ond tybiai efe (y bargyfreithiwr) y byddai i'r rheithwyr, ar ol clywed yr achos, gael eu boddloni nad oedd sail o gwbl i'r mynegiad am y darlun. Gofynai yr achwynydd am i'r ystaen ar ei gymeriad gael ei dynu ymaith. Yna galwyd ar yr achwynydd ac ar nifer o dystion, ac ar ol gwrandawiad maith dyfarn- odd y rheithwyr haner can' punt o iawn i Mr. Jones.

n Byd y Gan.