Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

Advertising

"CYDYMDEIMLAD"

News
Cite
Share

Siriola'r fron, a gwrid orohuddia'r llwydni :By'n gwywo'r wedd drwy erchyll ddwfn galedi; Mae gair o gydymdeimlad yn rho'i bywyd Yng nghalon dyn, ac adnewyddol ysbryd A'i owyd i'r lan o waelod pydew alaeth I Iwyfan deg llanerohau tlysion gobaith. Cryfhau ei ffydd a gloewi ei gymeriad, Yw uohaf nod llaw dyner cydymdeimlad Gwna'r byd yn hardd fel gwen yr hafaidd rosyn Ar fynwes der y bur hudolus flwyddyn, Mae cydymdeimlad gwir yn Ddwyfol enw, A Duw mewn cariad yn ei berffaith lanw Saif yn oleudy claer ar graig y Bywyd I arwain enaid 0 ystormydd adfyd I'r afan glyd, ddymunol, ddiofidiau,- JLfle nad oes poen na galar ar ei glanau. Y weddw dlawd mewn bwthyn llwyd, Heb dan na bwyd, galara Adgofion fyrdd i'w bron a gwyd, Ar aelwyd rhew ao eira. Tydi foneddwr ar dy sedd, Ai bedd yw'th gydymdeimlad ? Y weddw gu,-adlona'i gwedd Mewn llesgedd o'th esgyniad. Y milwr dewr ar faes y gad, Mewn brad gelynion syrthia Rhydd hwn ei fywyd dros ei wlad,- A'i enw ma'd ni chcfia I Ei deulu hoff amddifad yw 0 gysur gwiw a chariad; Eu gwlad yn hy' a'u try at Dduw Byw ffynon cydymdeimlad. Y morwr lion ar war y Hi, Yr heli yw ei elf en Uwch dyfrllyd fedd yr eigion hy', Iach Gymru yw ei Eden. ck. Mae'i galon dderch yn serch y byd, A'r byd yn ei weithrediad Boed iddo gael yn hael o hyd Wen hyfryd cydymdeimlad. Mae cydymdeimlad dwfn yn mhob creadur A greodd Daw, ar dir, mewn dwfr, ac awyr Cawn ef mor bur o fewn yr aelwyd lleiaf A mynwes hyf y dewr anifail oryfaf. Mae'n hyfryd wledd i wledydd daear helaeth Dan Ddwyfol haf, ymlyna'r greadigaeth. Ei wên a dry y drom alaethua galon O'r lleddf i'r lion gwasgara ddnau eigion Mawr enaid dyn yn 'stormydd eroh anialwoh Daearol fyd, a'i wybren yn dywyllwoh. O Dadol gydymdeimlad nefoledig, Duw'n rhoddi'n rhad drugaredd i'r oolledig, Ar ddibyn dwfn bydewau erchyll Anwn, A oheulan mor anobaith. Yma gwelwn Anfeidrol Gydymdeimlad a gelynion, Drwy lan dosturi fawr Ei dyner galon. Maddeuant Duw yn rhad i wael abwydyn, A'i ddwyn yn ol i'w gartref, nefol blentyn. Mae serch Ei fron yn for Anfeidrol Gariad, A'i donnau'n fyw o ddynol gydymdeimlad. O destyn hoff, mae'r cariad sy'n dy lanw Yn uno'rNef a'r dda^ar yn dy enw. Wyt hen, ac eto'n ieuanc, dlwa anwylyn, Fel lili der ar fynwes werdd y gwanwyn, Edmygir di dros wyneb y ddaearen Gan wareiddiedig lwytbau tra b'o heulwen Ar ael y nef yn taflu ei oleuni, A lloer a ser uwch ben y byd yn gwenu. Estyner llaw, wen, dyner, Cydymdeimlad 0 for i for drwy holl ororau'r cread, Ac aed Efengyl bur ar edyn angel At holl dylwythau'r byd i'w dwyn yn ddyogel 0 afael gwarth ac isel-chwaeth gymeriad 1 safle dyn, a chyfaill Cydymdeimlad. Willesden. LLINOS WYRE.