Hide Articles List

3 articles on this Page

Y SABOTH YNG NGHYMRU.!

News
Cite
Share

Y SABOTH YNG NGHYMRU. o dipyn i beth, y mae Cymru yn cyflym ddynwared y Sais yn ei dibrisiad o gysegred- igrwydd y Sabotb. Y mae'r awydd am chwareuon yn cael mwy o ddylanwad o byd ar ei phlant, ac nid oes ond odid i dref na phentref nad yw yn ystod misoedd yr haf yn cael ei llenwi ag ymwelwyr a phleserdeithwyr diwedd yr wythnos. Mor anioddefol yw'r pla wedi bod yn y blynyddau diweddaf hyn fel y caed cynhadledd fawr yn Llandudno y dydd o'r blaen gyda'r amcan o greu barn gy- boeddus o du cadwraeth tawelwch a gor- phwysdra ar Ddydd yr Arglwydd. Nid yn unig gyda'r teithio a'r myn'd par- baus y mae'r pla yn dod i fewn, eithr llusgir ef i'n gwlad hefyd o dan yr esgus o wneyd lies i'r cyhoedd, a hyny mewn ffurf o redeg y trams yn y trefi mawrion ar y Saboth ond da genym weled fod pobl Caerdydd wedi penderfynu pwy ddyddâtrwy fwyafrif o un, y mae'n wir-i atal y cerbydau hyn ar y Sul. Mae'r ataliad wedi creu cyffro, ond y mae'n amlwg fod yna ran helaeth eto o'n pobl nad ydynt yn barod i daflu o'r neilldu bob rhin- wedd perthynol i neullduolrwydd y Saboth Cymreig. Dyma fel y traetha Idriswyn ar y pen hwn, ac y mae efe yn selog iawn bob amser 4ros gadwraeth pob peth da yng nghymeriad y genedl:â Y mae hawliau y Saboth ar ddyn o natur uwch na deddfau nac arferiad na barn gwlad y mae wedi ei wneyd er mwyn ei gorph yn gystal a'i natur foesol ac ysbrydol; y mae iechyd corph a meddwl y rhai sy'n ei gadw yn profi fod rhywbeth yn natur dyn yn galw am dano; ac y mae llwyddiant pob gwlad sydd yn talu parchedigaeth iddo yn dangos ei fod yn angenrhaid ym mhob cylch o gymdeithas. Dyna'r rheswm am fawredd a chadernid a dylanwad a chyfoeth Prydain Fawr, a dyra sydd wedi gwneyd Cymru yr hyn ydyw-wedi ei chodi hyd y nefoedd mewn breintiau, a'r Nefoedd a'r ddaear yn gwenu arni mewn edmygedd. Ond os disgyn person neu genedl neu wlad i gadw y Saboth o ofn cyfraith neu rhag tynu gwg eu cymydogion, nid yn unig y maent yn difreinio eu hunain o'i holl fendith- ion a'i freintiau, ond hefyd yn parotoi llwybr i'w bolafiaid yn yr oes nesaf i'w anwybyddu yn hollol-i fyn'd yn ddigon gwargaled i fyn'd ar draws barn a theimlad Eglwys Dduw ac yn ddigon hyf i herio cyfraith y wlad. Ie, bydd pob olion o'r Saboth Cymreig wedi ei ddileu, a gwanc un dosbarth o bobl am wneyd arian a thueddfryd dosbarth arall at bleserau fel Hifeiriant wedi ei ordoi a'i guddio o'r golwg, a dim ond rialtwch ac oferedd a champau yn ymsymud ar wyneb y tryblith. Y mae'r dar- lun yn un pruddaidd a thorcalonus; yn un tywyll ofnadwy ond y mae gogwydd yr oes yn sicr yn ei gyfreithloni; a dyma'r trychineb mwyaf all ddigwydd i'n gwlad ac i Gristion- ogaeth-colli y Saboth yn ei gysegredigrwydd ⢠ac fel sefydliad Dwyfol; ac os cyll Cymru ei Saboth fe gyll pobpeth o werth sydd ar ei belw. YR YSPEILWYR YN YMHYFHAU. Y mae torwyr Saboth Duw ac yspeilwyr etifeddiaeth y gweithwyr yn ymhyfhau bob blwyddyn, a cheir dynion ym mhob tref ac ardal yn gwneyd eu goreu, yn defnyddio pob ystrywiau ac esgusodion, i gael cyfleusderau i wneyd masnach arno. Y maent wedi myn'd mor haerllug fy] ag i herio cyfraith y wlad profir hyny gan y lluaws siopau sy'n agored a'r achosion a ddygir o flaen yr ynadon yn feunyddiol o doriad y deddfau trwyddedol y maent wedi colli pob parch i draddodiadau eu tadau a'u mamau ac i farn dynion goreu y byd a dysgeidiaeth yr Hen Lyfr," a throant y dydd i gyflawni pobpeth yn ol eu mympwyon a7u tueddfryd eu hunain. Gwir fod y prif fasnachdai yng nghau a'r gweithfeydd wedi sefyll; ond y mae'r ysfa sydd wedi ymaflyd mewn dosbarth neillduol o bobl i ymblesera ar y Saboth yn demtasiwn i fasnachwyr agcr j ar y Sul ac yn gosod angenrhaid ar rywrai i weithio er eu boddhad hwy; gyda'r canlyniad nad oes ond ychydig iawn o wahaniaeth rhyngddo a dyddiau ereill yr wythnos, heblaw fed mwy o alw ar ambell i nwydd a mwy o fyn'd ar ambell i fasnach a bod mwy o segura ar hyd yr heolydd. Ac os gorfodir rhai dos- barthiadau o weithwyr i weithio ar y Sul, fe gynydda y galwad a'r gwanc o flwyddyn i flwyddyn, nes o'r diwedd y bydd pawb o dan yr un orfodaeth, a'r Saboth wedi ei ddifodi a'r gweithiwr heb gael dim yn gyfnewid am dano. MYN'D YN WARADWYDD. Os na ddaw rhywbeth i roddi atalfa ar y dirywiad sy'n myn'd ymlaen yn meddyliau y genedl am gysegredigrwydd y Saboth os y caiff ei amharchwyr eu ffordd eu hunain am ychydig flwyddi yn hwy, fe fydd pob gwrth- glawdd wedi ei agenu a phob atalfa wedi ei thynu i lawr a'r Saboth yn sathrfa o dan draed. Dydd i chwareu fydd ac i foddio anghenion mwyaf anianol dyn, ac fe a ei dwrw a'i rialtwch yn faich, ie, yn waradwydd ar y wlad, ac yn rhwystr ar ffordd cyflawniad gwasanaeth addoliad y dydd. Y mae a fyno amgylchoedd dyn a'i ysbryd a'i galon a'i deimiadau, a bydd yn amhosibl cario ymlaen wasanaeth y cysegr ynghanol dwndwr Saboth y dyfodol yn ol fel yr ymddengys i ni o'r presenol a'r difaterwch a ddangosir o'i dyng- hed. Y mae ei dawelwch yn cyflym ddiflanu a'i gysegredigrwydd bron wedi ei golli yn hollol, ac yn fuan iawn fe dderfydd a bod yn Saboth ac yn uchel-wyl yr Eglwys Gristion- ogol. Ni bydd yn ddydd o orphwysdra mwy- ach ond i ddosbarth neillduol o weithwyr, ac fe fydd hwnw yn gwneyd y fath gam-ddefn- ydd o hono nes ei droi yn waradwydd cenedl- aethol, a'i gri gyffredinol fydd-yr Eglwys yn uno-am ei ddiddymu'n hollol ac i bob gwaith gael ei gario ymlaen ar y dydd cyntaf o'r wythnos yn gystal a dyddiau ereill. Y GOLLED I GYMRU. Gan mai cenedl o weithwyr ydyw Cymru, galanastra ofnadwy fydd hwnw iddi-colli ei Saboth-y galanas mwyaf difrifol ac alaethus a all ddigwydd byth iddi. Gwlad wedi ei dyrchafu yn arbenig trwy ddylanwad y Saboth ydyw Cymru. Dyma ddydd ei hadenedigaeth -neu ei hadgenedliad o'r newydd i fywyd uwch yn gymdeithasol a chrefyddol. Cym- eryd mantais ar ei gyfleusderau gadwodd ein hiaith a'n llenyddiaeth yn fyw; yma y dysg- wyd y werin i ddarllen a meddwl, i ganu a gweddio a phregethu ar y Saboth y mag- odd ddigon o nerth a gwroldeb i benderfynu gweithio allan ei hiachawdwriaeth ei hunan mewn ystyr genedlaethol a chrefyddol. Oni bae am y Sul, ni fuasai gan Gymru heddyw ddim gwerth ymffrostio ynddo; a phan gyll ei Sul, fe gyll ei phobpeth ar yr un pryd. Y mae gweithwyr y dyddiau presenol yn afradloni etifeddiaeth deg a gogoneddus a enillwyd iddynt gan eu henafiaid trwy lafur a lludded, trwy barch ac amharch; ie, trwy gystudd a dioddefiadau ac-angeu. Ystad y dyn tylawd ar y ddaear yw y Saboth cafodd hi yn ddi- ddyled heb ddimai wedi ei benthyca ami; ac y mae'n drueni ei weled ef, o bawb, yn yr oes hon yn gosod cymaint o ddyled arni ac yn ei beichio mor drwm-mor drwm, fel na bydd yn y man o un gwerth iddo-bydd wedi gweithio ei Saboth allan ar chwareu ac ofer- edd. Bydd y canlyniadau yr un mor andwyol i'r Eglwys Gristionogol; nis gall gyflawni ei dyledswydd a chyhoeddi ei chenadwri i'r byd heb ei Saboth; a pha beth a wna hebddo ? Onid yw'n hen bryd i bob Cristion a dyngarwr a gwladgarwr i ddod allan i ymlid ymaith halogwyr ac yspeilwyr y Saboth; a'u bwrw allan fel y gwnaeth y Prophwyd o Nazareth gynt a'r newidwyr arian hyny a halogent y deml yn Jerusalem ac os bydd raid, gwneler fflangell o fan-reffynau, a fflangeller hwy allan a'u byrddau yn ddymchweledig wrth eu sodlau, a gwarthnoder hwy hyd byth fel rhai oedd wedi troi dydd yr Arglwydd yn ddydd diafol a phechod ac yn farchnadfa lladron.

Y "LLYFRBRYF" YN LLUNDAIN.

"CYDYMDEIMLAD"