Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

CYMRU YN HEPIAN.

! Ty'r Gfeber.

News
Cite
Share

Ty'r Gfeber. Wedi gwthio drwodd y trethi newyddion, y mae Ty'r Cyffredin y dyddiau hyn yn prysur drefnu ei reolau. Pwnc dyrys yw hwn i'r Seneddwyr eu hunain, ond o fawr dyddordeb i'r byd o'r tuallan. Cred yr arweinwyr fod gormod o amser yn cael ei wastraffu yn awr, ac ond cael y cynllun priodol y gellir gwneyd agos gymaint arall o waith mewn haner yr amser. Ymhlith llawer o gyfnewidiadau, trefnir i eisteddiadau Ilawn drwy yr wythnos ond nos Wener. Rhydd hyny fantais i fobl fynheddig i fyned i'r wlad dros y Sul; ond y mae nifer o gyfnewidiadau yn cael eu gwneyd ynglyn ag oriau yr ho'i cwestiynau, ynghyd a'r oriatt a ganiateir at wasanaeth aelodau preifat, fel y bydd y Ty newydd yn un dieithr iawn yn y man, yn enwedig i'r hen aelodau. Osllwyddir i gael mwy o waith drwy y cyfnewidiadau hyn, goreu oil, ond os mai esgus fyddant dros guddio gwendid y Llywodraeth, wel, rhaid i'r wlad eu talu yn ol yr herwydd. Pwnc sydd wedi creu cryn lawer o siarad yw y dreth ychwanegol a fwriedir osod ar cheques. Fel yr hysbyswyd dro yn ol, gan y Canghellydd, yr oedd y Llywodraeth yn myn'd i osod toll o ddwy geiniog ar bob taleb o hyn allan yn lie ceiniog. Fel y gwyddis, mae miloedd o fan dalebau yn cael eu gyru drwy y banciau, a chwynid fod yn rhaid i'r rhai hyny ddwyn treth o ddwy geiniog hyd yn oed pe ond am swllt neu ddau. Dygwyd y gwyn o flaen y Canghellydd, ac y mae yntau wedi dyfeisio y ffordd hynotaf a ellid feddwl er cyfarfod a'r camwri hwn. Ei gynllun yw gosod treth o ddwy geiniog ar bob taleb, ac yna ar ol i'r rhai hyn gael eu gyru drwy y banc a'u dychwelyd i'r hwn a'u tynodd allan ar y cyntaf, ac os o dan ddwy bunt, caniateir iddo fyned a hwy i'r Postfeistr agosaf a gall hwnw roddi ceiniog yn ol am bob taleb sydd islaw y ddwy bunt. Y mae'r peth mor wrthun fel y mae'r Toriaid eu hunain wedi gorfod addef ei wendid. Ar ol h/n, ni synem na fydd raid gohirio y doll hon yn gyfangwbl ac y caniateir i'r byd masnachol fyned ymlaert fel cynt. Da genym ddeall mai cynyddu y mae'r gwrthwynebiad i Fesur Addysg y blaid. Rhaid dyweyd y bydd hwn yn ergyd trwm i Gymrll os caniateir iddo basio yn ei gynllun presenol. Bydd rheolaeth yr ysgolion enwadol yn hollol yn nwylaw y bobl eu hunain a chan berchen- ogion yr ysgol fydd yr hawl i benodi y meistri a phob peth arall, a'r oil a gaiff y werin fydd talu rhan o'r dreth tuagat eu cynhal a bodd- loni ar adroddiad yr arolygydd cyffredinol fod pob peth er daioni. Os caniata Cymru i'r gwaddoliad yma o'r ysgolion hyn, bydd yn ergyd trwm yn erbyn Dadgysylltiad, tra o'r n. arali rhydd fywyd adnewyddol mewn llawer i ysgol fechan sydd wedi bod yn warth i rai on, hardaloedd cyn hyn.