Hide Articles List

3 articles on this Page

HYN A'R LLALL.

News
Cite
Share

HYN A'R LLALL. Bu ymgodymu tyn rbwng masnachwyr blaenaf Llundain am fasnachdy mawr y di- weddar Mr. T. J. Harries, Oxford Street, a hysbysir mai Mr. J. T. Lewis, y cyfreithiwr, a Mr. J. Griffiths, Bond Street, ynghyd a rhai o aelodau y teulu sydd wedi Ilwyddo i'w sicrhau. Deallwn fod yn eu bwriad i ffurfio cwmni i gario y fasnach ymlaen, ac feallai y cynygir rhai o'r cyfraniadau (shares) i'r cyhoedd. Y mae'r masnachdy wedi bod yn eithriadol o Iwyddianus hyd yn awr. 'Roedd y wledd Gymreig a roddwyd i Gor yr Wyl Genedlaethol-Dewi Sant-nos Lun yr wythnos ddiweddaf, yn Anderton's Hotel, yn berffaith Iwyddianus. Daeth torf barchus ynghyd o dan lywyddiaeth Syr John Pulestou, a threuliwyd noson hynod o foddhaus. Yr oedd gwledd gampus wedi ei pharotoi i ael- odau y cor, fel math o gydnabyddiaeth fechan iddynt am eu ffyddlondeb yn ystod y blyn- yddau, a mawr oedd eu mwynhad hwythau o'r parotoadau. Ar ol y wledd caed nifer o lwncdestynau tarawiadol ar y rhai y siaradwyd yn hwyliog, a chaed caneuon gan amryw aelodau o'r cor er mawr foddhad y gwrandawyr. Wrth gynyg y llwncdestynau brenhinol cyfeiriodd y Ilywydd at ymweliad dyfodol y Tywysog a Chymru, a derbyniwyd ei eiriau gyda chymeradwyaeth. Caed ychydig o hanes y mudiad o blaid yr Wyl Genedlaethol yn Sant Paul gan Mr. Abel Simner, un o flaenoriaid y mudiad o'r cychwyn, a diolchwyd yn wresog i ddeon a phwyllgor y lie am roddi benthyg yr Eglwys Gadeiriol gan Syr John Puleston a'r Prifathraw Thomas o Gray's Inn Road. Diolchai Mr. Thomas Jones (y cenhadwr) i'r cor am ei lafur diflino, a chydnabyddodd yr arweinydd (Mr. T. Vin- cent Davies) yngh) d a'r organydd (Mr. D. J. Thomas) hyny mewn areithiau byrion. Ymysg llwncdestynau ereill, yr oedd rhai i'r boneddigesau, i'r ymwelwyr, ac i aelodau y pwyllgor; a diangenrhaid yw sylwi eu bod yn fyr a blasus. Y mae clod arbenig yn ddyledus i Mr. R. A. Lloyd am y dull campus yr oedd wedi trefnu y cynulliad. Cafodd Anibynwyr Cymreig Llundain nod- achfa lwyddianus yn y Tabernacl, King's Cross, yn ystod yr wythnos ddiweddaf. Amcan y cynulliad oedd cael cronfa i gynorthwyo yr achosion gweiniaid yn Woolwich ac East Ham er eu galluogi i gael bugail, a deallwn fod yr elw wedi cyrhaedd yn agos i dri chant o bunau. Ceir y manylion yn ein rhifyn nesaf. Lleihau yn raddol y mae pla'r frech wen yn Llundain, ond deil yr awdurdodau ar eu heithaf i geisio ei ysgubo yn llwyr o'r dref a'r cyffiniau. Trwy eu hymdrechion hwy a'r parotoadau enfawr a wnaed ganddynt rai misoedd yn ol y mae i ni briodoli y lleihad presenol, gan yr ofnid un amser y buasai yr achosion ar yr adeg hon yn rhifo rhai canoedd yn ddyddiol. Da genym ddeall fod ein hen gyfaill, Mr. Rees Williams, Bethnal Green, nid yn unig wedi llanw y gadair yng nghyfarfod olaf y Gymdeithas Ddiwylliadol yn Jewin Newydd, ond ei fod hefyd wedi llanw pob gwagle arall ag oedd eiseu eu llenwi, oblegid efe a'i briod garedig roddodd y wledd o de, a'i anhebgor- ion, lie y cafodd pawb eu gwala a'u gweddill; a chyfarfyddodd ei galon hael a'i logell a'u gilydd mewn cynorthwy sylweddol i god y Gymdeithas. Mae cael cynorthwy a nawdd- ogaeth personau fel Mr. Williams yn galondid mawr i ieuenctyd y ddinas i ddwyn ymlaen y cynulliadau diwylliadol a chymdeithasol hyn. Mae Mr. Carnegie wedi gwrthod dod i lywyddu yn ein Heisteddfod Genedlaethol, ac yn awr y mae'r pwyllgor yn myn'd i ofyn i Arglwydd Roberts, ac Assheton-Smith. Gan mai ardal filwrol yw Bangor wedi bod er's tro, buasai yn well i'r swyddogion dreio cael rhyw gadfridog o leiaf; ac os na ddaw Roberts, wel ceisier am Buller 1 Mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn ddi- weddar oddiwrth y Bauwyr ar faes y rhyfel, dywedant fod ganddynt ddigon o arfau at eu gwasanaeth, ac y bydd ganddynt ddigon hefyd tra y parhao Lloegr i anfon milwyr allan. Y syniad yw, eu bod yn llwyddo i ddal digon o'r Prydeinwyr yn awr ac yn y man fel ag i gyflenwi eu hunain a digon o offerynau tan at eu gwasanaeth. Yr ydym ni yn bostio am nifer ein carcharorion, ond y mae'n eglur fod y Bauwyr yn abl i dalu'r pwyth weithiau. Nid yw'r Aelodau Seneddol Cymreig mor dawel ag y myn rhai eu bod, oherwydd o'r dwsin goreu yn Nhy'r Cyffredin am chwareu gwyddbwyll (chess), mae chwech yn aelodau* Cymreig, sef Mr. Bryn Roberts, Mr. Osmond Williams, Cyrnol Pryce-Jones, Mr. D. A. Thomas, Mr. R. M'Kenna, a Syr George Newnes. Da yw eu gweled yn rhagori mewn rhywbeth-hyd yn oed mewn chwareu. Ar ol y cyntaf o Fai, gellir anfon llythyr i nifer o barthau yn China am geiniog fel yn y wlad hon. 0 dipyn i beth, mae gwlad y dyn melyn yn cael ei hagor i drafnidiaeth pobl y Gorllewin. Mae Mr. E. T. Jones (arlunydd), Cymro o'r Amwythig, yr hwn a fu hyd yn ddiweddar yn blismon yn Leeds, newydd gael ei hysbysu fod un o'i ddarluniau (yn dwyn y teitl Sum- mer") wedi ei dderbyn gan awdurdodau'r Royal Academy. Cynygiodd Mr. Jones o'r blaen, ond dyma'r tro cyntaf iddo lwyddo. 0 dipyn i beth y mae cronfeydd y ganrif a sefydlwyd gan y gwahanol enwadau yn cael eu cwblhau. Yr wythnos hon hysbysa'r Bed- yddwyr fod eu cronfa hwy o chwarter miliwn wedi ei chasglu. Argoel er daioni yw hyn. Mae Mrs. Ceiriog Hughes, gweddw yr an- farwol Ceiriog, newydd osod yn Eglwys Llan- armon, Dyff ryn Ceiriog (ei hen ardal ened- igol), d flen bres hardd, a'r argraph isod ami:â" Er serchus gof am John Ceiriog Hughes. Ganwyd, Medi 25, 1832. Bu farw Ebrill 25, 1887. Claddwyd ym Mynwent LIanwnog, sir Drefaldwyn. Cymwynas olaf ei weddw." Cymerodd gwrthdarawiad gofidus le ym Mau Penarth, ddydd Llun diweddaf. Aeth dau agerfad yn erbyn eu gilydd, a chollwyd un o honynt. Boddwyd y cadben a dau o'r dwylaw. Dydd Sul diweddaf, ail-agorwyd Eglwys L-lanbrynmair gan Esgob Bangor. Costiodd 8oop i'w hail-adeiladu, ac ymgymerwyd a'r gwaith ar wahoddiad Ymneillduwr-cadeirydd y Cynghor Plwyf. Gweithiodd Ymneillduwyr ac Eglwyswyr er dileu y ddyled ac nid oes yn awr ond can' punt yn aros. Cyhoeddir cyfrol fechan Mr. David Nutt ar y Mabinogion yr wythnos nesaf. Defnyddir gwaith Gwenynen Gwent fel sylfaen, ond bydd yr argraffiad presenol yn llawer Uai ei blyg na llyfr y foneddiges hono. Mae Tywysog Cymru wedi derbyn copi ar- benig o'r rhamant cyffrous newydd The Lord of Co:sygedol," gan Mr. E. R. Evans, Caernarfon, awdwr íI Morladron Meirion," nofel fuddugol Eisteddfod Lerpwl, a lluaws o nofelau buddugol ereill. Dyma'r llythyr a gafodd Mr. Evans oddiwrth Syr Arthur Bigge, ysgrifenydd y Tywysog :â" Syr, Dymunir arnaf gan Dywysog Cymru ddiolch i chwi am y copi o'ch llyfr The Lord of Corsygedol y buoch mor garedig a'i anfon i'w dderbyn gan ei Uchelder Brenhinol."

.Y Dyfodol.

Advertising