Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Y BYD A'R BETTWS.

News
Cite
Share

Y BYD A'R BETTWS. Wythnos bwysig fydd yr wythnos ddyfodol yn hanes addysg Cymru. Mae'r Brifysgol bellach yn codi ei phen. Mae'r trefniadau ynglyn a chyflwyno'r graddau a gorseddu'r Canghellydd ddydd Gwener nesaf wedi eu cwbihau, a daw holl flaenorion y genedl i'r amgylchiad hwn. Dyddorol fydd cael "Tywysog Cymru eto o fewn muriau Castell Caernarfon ar amgylchiad mor bwysig yn ein hanes, a dylai'r beirdd gyweirio eu tannau i ganu can addas i'r amgylchiad. Mae Mr. Albert Spicer wedi bod ar daith drwy Gymru yn ddiweddar er ceisio cael allan sut y mae'r achos Rhyddfrydol yn y tir. Er fod ei adroddiadau yn ffafriol, mae'n eglur nad yw cystal ag y disgwyliai. Nid yw hyny yn syndod, oherwydd ar hyn o bryd y mae Rhyddfrydiaeth yng Nghymru wedi myned yn isel iawn. 0 ran hyny, pa ryfedd wrth weled y fath blaid ddiallu sydd genym yn Nhy'r Cyffredin. Oni bae am ddau neu dri o honynt, ni chlywid cymaint ag enwi gwlad Cymru yn y lie. Ar un adeg yn ei fywyd yr oedd Mr. Chamberlain yn wrthwynebol iawn i roddi cynorthwy i ysglion yr Eglwyswyr, ond yn y Mesur presenol o flaen y Ty, dyna un o brif symudiadau y Weinyddiaeth, ac y mae Mr. Chamberlain mewn llythyr at gyfaill yn ddi- weddar yn ceisio profi mai dyna'r ffordd oreu wedi'r cyfan. Hawdd fydd credu yr athraw- iaeth cwymp oddiwrth ras ar ol hyn. Daw'r newyddion o Ddeheudir Affrica fod yr arweinwyr Boeraidd mewn cyngbrair, ac mai'r teimlad cyffredin yw, y ceir heddwch. Ni ddaw'r pleidiau at eu gilydd eto am rai dyddiau; ond, yn sicr, os na cheir cytundeb yn awr, bydd y rhagolygon yn eithafol o dywyll. Bydd raid i Brydain ar unwaith anfon rhai miloedd o filwyr ailan cyn cadw yr ym- gyrch ymlaen yn llwyddianus. Tra y mae LJoegr mewn helynt mawr ynglyn a gwaith yr Americanwyr yn prynu i fyny ein llongau, da genym ddeall nad yw'r fasnach alcan wedi ei llwyr ddifodi, oherwydd y tollau a osodwyd ar y gwneuthurwyr gan 'Newyrth Sam. Deallwn fod mwy o fywiog- rwydd yn y fasnach yn Neheudir Cymru ar hyn o bryd nag a welwyd er's amryw flyn- yddau. Mae hyn yn argoel er daioni yn y dyfodol. Tarawyd dyffrynoedd y Rhondda a braw ddechreu yr wythnos hon pan hysbyswyd fod corph y plentyn bach colledig, Willie Llewelyn, wedi ei gael. Cafwyd hyd iddo ar ben bryn Caer Maesau, rhyw ddeng milldir o'r fan lie y gwelodd ei fam ef ddiweddaf, a thybir iddo grwydro i'r mynydd-dir a cholli ei ffordd. Yr oedd yn gorwedd mewn man tawel fel pe wedi gosod ei hun i gysgu. Nos Wener diweddaf, bu farw'r Parch Samuel Evans, Liandegla, yn ei 85 mlwydd o'i oedran. Efe oedd y gweinidog Anibynol hynaf yng Nghymru. Dechreuodd bregethu dan Williams o'r Wern, ac ordeiniwyd ef yn 1843. Yr oedd yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yn ei enwad am dros haner canrif. Yr oedd wedi ymneillduo o ofal eglwysig er's yn agos i ugain mlynedd.