Hide Articles List

3 articles on this Page

Gohebiaethau.

News
Cite
Share

Gohebiaethau. CRWYDRYN Y "CELT" A GEIRIAU LLEOL. At Olygydd CELT LLUNDAIN. SYR,âDa iawn genyf weled" Y Crwydryn"yn sanlyn yn mlaen gyda'i deithiau. ,Er fod y rhan iLwyaf o lawer o'r lleoedd yr ymwel a hwynt yn ddieitht i mi, y mae y desgrifiad yn flasus, ac y mae to peth yn ei lithoedd yn hynod 0 ddyddorol i mi, ac 1 r rhan fwyaf o'ch darllenwyr mi goeliaf, sef ei aglurhad meistrolgar ar enwau lleoedd. Mae hyny yn sicr o fwyhau y pleser i bawb sy'n caru darllen fcanes hen lanerchi, cestyll, eglwysi, a ffermdai hen- afol ein gwlad. Y mae adran arall mewn cysylltiad a'n hiaith, sydd lru tyb i, yn llawn dyddordeb a phwysigrwydd y carwn i yn fawr weled Y Crwydryn yn ymgymeryd A hi, sef ystyr y geiriau lleol; hyny yw, geiriau a ar- ferir ar dafodiaith gyffredin y werin mewn rhanbarth o Wlad, y rhai nad arferir mewn un rhan arall, ac na cheir mo honynt yn ein Cymraeg clasurol, fel y dy- wedir. Mae yn ddilys genyf fod llawer o'r geiriau »yn yn mhob parth o Gymru yn gystal Oymraeg a dim a ellid gael, ond y rhai a edrychir arnynt yn gyffredin fel bastardiaid, a hyny y mae yn debyg iawn 0 achos ein diffyg gwybodaeth ni o wreidd- rnau y Gymraeg. Fel engraifft, gallwn nodi allan fod yn y rhanbarth lie yr oedd Y Crwydryn yn wampio yn ddiweddar, gyflawnder o eiriau i'w cael am ystumiau y wynebpryd ac ystuiniau y corpb, bob Un ar wahan, tra nad oes genym yn y Gymraeg ys- grifenedig ond un gair, sef ystumiau (oddigerth pan arferir munudiau, a hyny yn fynych iawn) ar a wn i i wneyd y tro am yr holl amrywâa'r gwahaniaeth sydd yn ystum y wyneb rhagor ystum y corph. Paham y rhaid i dylodi o'r fath barhau yn ein hiaith ? Nis gaUaf gofio yr holl eiriau, ond sylwais ar un mwy hynod na.'r lleill, a diwyg fwy Cymreig arno, sef smachde. Buaswn i yn tybied ei fod yn eithaf Cymro, a bu'm yn treio olrhain ei achau, ond yn aflwydd- ianus. Pe buasai "Y Crwydryn wrth iy mhenelin yrwan, cawswn eglurhacl boddhaol mi warantaf. A ydych chwi ddim yn meddwl pa baem ni eill dau yn myn'd ar y tramp 0 Ban Oaergybi i Ben Caerdydl i gasglu y gamau geiryddol ymi sydd megis yn cael eu sarnu yn y llaid, na fa.se ni yn dod ya ol gydag ysgcepan lawn o berlau wadi eu codi o'r tyrau 11 well a'u caboli nes bod yn gymwys addurniadau i'r hen Gymraeg am oes y ddaear ? 'Does dim dadl na buasem; mae canoedd o'r fath eiriau i'w cael pe chwilid pob cwmwd trwy Gymru. Oild y mae yn beth lied ddigrif i mi son am fyn'd ar y tramp trwy Gymru a minau broa mor ddiymadferth a jumping frog Mark Twain a gafodd lenwi ei fol a haels plwm. Ond.pe buaswn i yn filiwnydd mi f'aswn yn prynu motor car, a chael footman bychan o'r tu ol; a phe bai y Gymiiirodorion dipyn bach yn wladgarol, mi fasan yn anfon yr hat o gwmpas, er mwyu i ni brynu un, a chael y fraint o wneyd y cyfryw ymgeledd i'r hen iaith. Ond rhag meithder, a rhag ofn i rywun ddyweyd fy mod yn myned yn rhy ysgafn gyda phwnc pwysig, terfynaf trwy ddyweyd y buasai yn dda genyf weled y Crwydryn yn ysgrifenu i'r CELT ar y mater tra dyddorol hwn, a goreu oil pa c'ai ei gynorthwyo gan amryw ereill trwy Dde a Gogledd Cymru. Nid digon dal i waeddi Oes y byd i'r iaith Gymraeg "ây mae eisieu rhoddi bwyd ac ymgeledd iddi, os ydym am iddi fyw. Yr eiddoch, &c., GWYSFRYN.

Advertising

EISTEDDFOD CAPEL HOLLOWAY.