Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Oddeutu'r Odinas.

News
Cite
Share

Oddeutu'r Odinas. Nos Iau nesaf, fel y gwelir, y cynhelir Eisteddfod Gerddorol Stratford, ac y mae rhaglen atdyniadol wedi ei threfnu gogyfer a'r amgylchiad. < Mae argoelion calonogol iawn am gwrdd llwyddianus o dan nawdd Undeb y Cym- deithasau Diwylliadol nos Sadwrn nesaf. Dylai ein pobl ieuainc fyned iddo yn llu, oherwydd byddant yn sicr o gael rhywbeth gwerth ei glywed gan y Barnwr Vaughan Williams. Deallwn y bydd amryw urddasolion ereill yno hefyd, os caniata eu galwadau iddynt. Da genym glywed ddarfod i gyfeillion ieu- ainc Cymdeithif Wilton Square ddangos eu hedmygedd o weithgarwch eu llywydd poblog- aidd mewn modd sylweddol yn nghyfarfod olaf y tymhor. Nid oes neb wedi gweithio mwy dros y Cyfundeb a thros bobl ieuainc Wilton Square na Mr. L. H. Roberts, Canon- cury, a'r teulu. Hyfryd, felly, oedd eu gweled yn dangos eu teimladau parchus tuag ato ef a'i briod serchog. Cyflwynasant iddo book- case hardd ynghyd ag ugain o gyfrolau gwerthfawr, a chan i'r cyfan gael ei wneyd mor ddistaw ni freuddwydiodd Mr. Roberts fod y cwrdd olaf i gynwys y fath item ar y rhaglen. Cydnabyddodd y rhoddion yn gynes a dymunai bob llwydd i'r gymdeithas yn y dyfodol. Diweddwyd swperau coffi Clapham Junction am y tymhor, nos Fercher cyn y diweddaf, ac yr oedd y cwrdd olaf yn un o'r rhai goreu a gafwyd yn y lie er agoriad y capel. Cafwyd cadeirydd rha.gorol yn mherson Mr. Jenkins, Clerkenwell, yr hwn a roddodd y swm an- rhydeddus o bum' gini tuagat yr achos yn y lie. Dyma engraifft o beth all Cardis a masnachwyr llwyddianus wneyd tuagat yr achosion gweiniaid yn LIundain. Hir oes iddo ef a'i anwyl briod i wasanaethu eu cenedl a'u crefydd. Dyma fel y canodd Gwilym Pennant iddo :— Cadeirydd gafwyd o wir werth, Mae ef wrth fodd ein calon Bu'n llond y gadair yn y Berth Y sydd gerllaw Tregaron; Mae'n Gymro eywir coeh o waed, I Lundain daeth i'w fasnach, I'w anwyl genedl dyn ni chaed A'i gariad yn rhagorach. Efe ymdrecha yn mhob man Yn achos mawr y Ceidwad, Fel cristion cywir gwna ei ran Mewn ffydd yn llawn o gariad Hir oes i Jenkins lwyddo'n iawn Yn nghyd a'i briod ddedwydd, Mae'r ddau yn meddu yr un ddawn I wasanaethu'r Arglwydd. Nid oes gwell rhai yn Llundain fawr Am gofio yr anghenus, At Gymry welant hwy ar lawr Ymddygant yn gariadus; Ein diolchgarwch rhown mewn clod I Jenkins yma heno [Road Am ddod i'r cwrdd yn Beauchamp Yn ddewrwych i gadeirio. 0 Yi- oedd y eantorion a'r cantoresau yn eu hwyliau goreu,-y Misses Ethel a Alice Wil- liams, Miss Sally James, a Miss Davies (Shir- land Road), Mr. D. J. Lewis a'r Brodyr Jones (Stewart's Road) a chafwyd can gan y cerddor adnabyddus Mr. Edward Owen, a gorfu iddo ail-ganu. Cafwyd unawd ar y berdoneg yn fedrus iawn gan Miss Blodwen Edwards (The Chase). Yn cyfeilio yr oedd Miss Sally Jenkins (o Gapel y Boro), a gwnaeth ei gwaith yn rhagorol. » • Beirniad y canu ydoedd Mr. W. H. Davies, Catford, a gwnaeth gyfiawnder a phob canwr; clorianwyr yr amrywiaeth, Parch. J. Bowen, Mr. J. Jones, a Mr. D. Jones. Enill- wyd y fedal aur am yr unawd, gan Mr. D. Jones (Llew Caron). Yr ail wobr gan Mr. D. Vaughan, Falmouth Road. Yn yr ad- ranau ereill, enillwyr y gwobrwyon oeddent Mr. E. Bowen, Falmouth Road; Miss Wil- liams, Park Road; Miss Hamlet, Clapham Junction Miss A. Jones, Clapham Junction, a Mr. D. Jones, Oxford. Dyddorol ydoedd cystadleuaeth y parti meibion. Daeth tri parti ymlaen, a gwobrwyd Mr. Rees a'i gyf- eillion. # » Nos Sadwrn diweddaf, cawd swper goffi yn Gothic Hall. Rhoddwyd y wledd gan y cyfeillion caredig canlynol:—Miss M. Evans, Old Burlington Mrs. Gordon, Bayswater; Miss Smith, Kennington, a Miss Lloydil Wil- iams, Paddington Infirmary ac fel y gellid disgwyl, yr oedd y lie yn orlawn. Ar ol i bawb gael eu digoni wrth fwrdd y swper aed at wledd gerddorol. Cymerodd y rhai canlynol ran yn y cyng- herdd Madam Juanita Jones, Mr. Thomas Thomas, Miss J Gordon, Miss Harvey, Master H. Evans (mab y diweddar Barch John Evans, Eglwysbach), ac ereill. Adroddai Master Evans yn nodedig o effeithiol, a phawb a ad- waent ei anwyl dad a ddywedent mai u Eg- lwysbach" yr ail oedd efe. Cynghorwr Hughes, Baldwin Street, oedd yn cadeirio. Casglwyd 14P yn y swper. Da iawn wir. Nos Wener, y i8fed, bu Cymdeithas Ddiw- ylliadol jewin yn cynhal ei chyngherdd olaf am y tyrrhor, pryd y daeth cynulliad gweddol dda ynghyd. Cadeiriwyd mewn modd pur ddeheuig gan un o aelodau mwyaf parchus yr eglwys yn Jewin, sef Rees Williams, Ysw. Gellir ychwanegu fod y cyngherdd hwn yn un dyddorol iawn, oblegid yn cymeryd rhan ynddo yr oedd nifer o dalentau ieuainc gob- eithiol. Mr. Hopkin Evans oedd yu gwasan- aethu wrth y berdoneg. Fel hyn yr oedd y rhaglen:—Unawd ar y berdoneg, Miss Grace Joel; dwy gan gan Miss Agnes Davies, a chafodd ail-alwad; dwy gan gan Miss Gwladys Roberts, a chafodd hithau ail-alwad hefyd. Canodd Mr. Harold Jones ddwywaith yn bur ddymunol; a chaf- wyd tair can gan y baritone, Mr David Evans, a bu raid iddo yntau ail-ganu. Mae eglwys Falmouth Road, ar ol y llwydd- iant anarferol gyda'i Heisteddfod yn Exeter Hall-pryd y gwnawd elw o dros I02p-wedi penderfynu cynhal Eisteddfod eto ar y 18fed o Chwefror 1903. Deallwn mai yn y Queen's Hall y bwriedir ei chynal, a'u bod yn bwriadu rhoddi 50p yn brif wobr i gorau meibion. Mr. D. R. Hughes fydd yr ysgrifenydd, yr hwn a wnaeth ei waith mor rhagorol gyda'r ddiweddaf. Yn y rhifyn am y mis hwn o'r Temperance Caterer ceir darlun rhagorol o'n cydwladwr llwyddianus Mr. D. R. Evans, o Farringdon Street, ynghyd a bywgraffiad edmygol o'i yrfa yn Llundain. Fel y gwyddis, brodor o ardal Conwil yw Mr. Evans, a daeth i'r ddinas yma yn lied ieuanc, dros ugain mlynedd yn ol, ac y mae wedi Ilwyddo yn rhagorol yn ei fasnach. Ystyrir ef heddyw yn un o arwein- weinwyr yn mysg groceriaid y dref. Yr wythnos ddiweddaf yr oedd Mrs. Timothy Davies, maeres Fulham, ar ymweliad j a thref Pwllheli, ac yn agor bazaar fawr a gynhelid yno er clirio dyled Capel Presbyter- aidd Seisnig y Ile. Dywedai Mrs. Davies wrth agor y nodachfa mai parch ac edmygedd i weinidog y capel a barodd iddi ddod 'lawr —oherwydd g'wyddai yn dda am alluoedd a gweithgarwch Mr. Myrddin Rees, yr hwn a lafuriai mor llwyddianus yn y lie. Da genym fod y cynulliad wedi troi yn llwyddiant, a diolchai y bobl yno yn gynes iawn i Mrs. t Davies am ei charedigrwydd a'i pharodrwydd yn dod i'w cynorthwyo ar amgylchiad mor bwysig. < Er fod tymhor yr haf wrth y drws a thywydd poeth yn dechreu ymweled a ni, eto nid yw pobl City Road yn foddlawn rhoddi i fyny eu gwleddoedd o swper goffi: ond hys- bysir yn awr fod yr olaf" am y tymhor wedi ei drefnu. Boed iddo fod yn llwyddiant fel y lleill, oherwydd lie iawn am y cyfarfydd- iadau hyn yw City Road. Trefnir i gynhal cyfarfod neillduol ynglyn a'r Gymdeithas Ddirwestol yn Nghapel Beauchamp Road, Clapham Junction, nos Fercher nesaf. Disgwylir Mr. J. Herbert Lewis, A.S., a'i briod, yno i draddoddi anerchiad, ynghyd ag amryw o ddirwestwyr selog ereill. Rhoddir gwahoddiad a chroesaw i bawb fyned yno. » Nid yw Mr. Bonner, Salmon Lane, wedi bod yn rhyw lwyddianus iawn yn ei helyntion carwriaethol, nac yn anrhydeddus, fel y tyst- iwyd o flaen llys í, y carwyr siomedig" yr wythnos ddiweddaf yn Llundain. Dygwyd cwyn i'w erbyn gan ei gyfnither, Miss Bonnerr am beidio cyflawni ei addewid i'w phriodi; ac ar ol tystiolaeth ofidus, dyfarnodd y rheithwyr y dylai Mr. Bonner dalu iddi y swm o bedwar cant o bunau. Nid yw'r swm yr un ddimai yn rhy fawr ychwaith, oherwydd yn un path y mae Mr. Bonner yn fasnachwr cefnog, a chanddo saith gant o bunau ar log, meddir, ar Gapel Mile End, a pheth arall, yr oedd eisoes wedi cael dau o blant o'r achwynyddes, yr hon nid yw eto ond ychydig flwyddi dros ugain oed. Mae Cymdeithas Genhadol Llundain mewn tywydd blin y blynyddoedd hyn, oherwydd nad yw yn cael y gefnogaeth ddyladwy gan grefyddwyr y wlad hon. Hysbysir ei bod mewn dyled o tua 55,ooop, ac os eir ymlaen yn ol y cynllun presenol, bydd y ddyled yn llawer trymach yn mhen ychydig flynyddau eto. Yr oedd amryw yn ofni nos Lun diweddaf fod Capel Jewin mewn perygl dirfawr, oher- wydd ei agosrwydd i'r tan mawr fu yn Barbican. Yn ffodus, yr oedd yn noson dawel a Ilwyddwyd i gadw y goelcerth o fewn cylch arbenig, ond dinystriwyd degau o ystordai mawrion, a chyfrifir y gelled tua miliwn o bunau. Y mae heol Barbican wedi ei chau gan fod amryw o'r tai mewn perygl o syrthio. < < Cafwyd noson hwyliog yn nghwmni un o feirdd enwog y ddeunawfed ganrif yn Nghym- deithas y Brythonwyr nos fau cyny diweddaf. Arweiniwyd y cwrdd mewn modd galluog gan y Parch. J. Tudno Williams, Walham Green, a darllenodd bapyr cyfoethog ar ei bwnc. Fel y gwelir oddiwrth ein hysbysiadau, y mae Z!l dau gwrdd arall i'w cynhal cyn y gohiria y Gymdeithas hon ei gwaith am yr haf. Cafwyd nodachfa hwyliog yn y Tabernacl ganol yr wythnos hon. Yr oedd yr holl eglwysi Anibynol Cymreig wedi uno ar yr amgylchiad, a chaed cynulliadau rhagorol ynghyd a masnach fywiog. Mae eisieu amryw ganoedd o bunau arnynt at yr achosicn gwein- iaid yn Woolwich ac East Ham, a hydeir y gwneir elw da o'r cynllun presenol. Ceir adroddiad Hawn yr wythnos nesaf.

Advertising