Hide Articles List

5 articles on this Page

MYNED I GAETHIWED.

YMREOLAETH I GYMRU.

News
Cite
Share

YMREOLAETH I GYMRU. Cwyna'r Senedd byth a hefyd nad oes ganddi ddigon o amser i ymdrin a materion lleol y wlad, ac fod gormod o fan fesurau yn cael eu gwthio ger bron o hyd ar draul rhwystro materion o fudd ymherodrol i'n pobl. Dygir yr hen gwyn yn mlaen ar ddiwedd pob tymbor fel math o esgusawd paham na fuasid wedi cyflawni mwy o waith, a chredwn fod llawer o wirionedd yn y dy- wediad hefyd. Ond y syndod yw na wna'r Ty ddim dros symud ymaith y gwyn. Rhoddwyd cyfleustra arbenig iddo wneyd hyny yr wyth- nos hon pan ddygwyd ger bron fesur arbenig ynglyn ag uniad y Cynghorau Sirol Cymreig, fel ag i roddi mwy o awdurdod yn eu dwylaw ynglyn a materion Ileol, ac o ddyddordeb Ileol yn unig. Gosodwyd cais Cymru yn glir ac an-wrthwynebiadol gan Mr Ffrank Edwards ac ereill, ond nis caniatawyd y cais. Nis gall- asai y Llywodraeth weled dim yn afresymol yn y cais, er hyny i gyd, nid oeddent yn fodd- lawn i'w ganiatau; am, mae'n debyg, mai'r Cymry oedd yn ei ddwyn ger bron. Y mae'n eglur oddiwrth hyn nas ceir yr un mesur rhyddfrydol oddiar fwrdd y blaid ryfelgar I bresenol; a thra y pery y blaid Gymreig mor dawel, diau na cheir yr un cyfnewidiad yn ein deddfau gorthrymus chwaith. I

Advertising

Y Dyfodoi.

Advertising