Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Oddeuttiyr Ddinas.
Oddeuttiyr Ddinas. Nis gall y dinasyddion fyw heb gyng- herddau, ac er iddynt gynhal dau neu dri yn ystod yr wythnos a aeth heibio, gwelir fod ereill eto i ddod cyn yr ymwahenir am wyliau yr haf. # Nos Iau nesaf bydd cyfeillion yr eglwys Gymraeg yn Holloway yn cynhal eu cwrdd cystadleuol blynyddol, a deallwn oddiwrth yr ysgrifenydd fod argoelion am gynulliad bodd- haol. Da genym weled fod mudiad ar droed i wneyd cyngherdd ar ran Mr. Davies, yr ad- roddwr. Mae ef, er's ilawer o flynyddau bellach, wedi dyddori Ilawer cynulliad o Gymry. Felly, pan geir cyfleustra fel hwn, boed i ni gofio y gall ychydig wasanaeth fod o les. Mae argoelion am bazaar llwyddianus iawn yn King's Cross, dyddiau Mercher a lau nesaf, Ebrill 23am a'r 24ain. Gwelsom rai o'r pethau sydd i'w gwerthu, ac y maent yn rhagorol. Gwahoddir pawb i'r ffair hon yn galonog. Nid oes tal am fyned i mewn. Ceir yno gerddoriaeth gan gorau ac unawdwyr, a bydd y lie yn ddyddorol i b'awb. Dechreuir bob prydnawn am dri o'r gloch, ond bydd y dyddordeb yn parhau hyd yn mhell yn yr hwyr. Deallwn fod y meddyg ieuanc addawol, Dr. W. J. E. Davies-mab hynaf W. Davies, Ysw., Y.H,, Battersea-wedi cael ei benodi gan Mr. Chamberlain i fod yn feddyg swydd- ogol o dan y Llywodraeth yn Hong Kong. Mae hon yn swydd bwysig, a deallwn fod yn mwriad Dr. Davies i symud yno yn mis Gor- phenaf nesaf. Dymunwn iddo bob llwydd yn ei faes newydd. t [ Yr wythnos hon cawsom nodyn oddiwrth ein cydwlad wrieuanc D. Peregrine, o Calcutta, yn hysbysu ddarfod i Gymry'r He hwnw gael gwledd ardderchog yno ar ddydd Gwyl Dewi. Cymerai Mr. Peregrine ran flaenllaw yn y symudiad, a bydd ei hen gyfeillion yn y Tabernacl yn falch o glywed ei fod yn llwyddo yn dda yn ei wlad newydd. jj Traddododd Mr. Marchant Williams araeth ragorol o fiaen Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion ar Ramant Addysg Cymru yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd yn grynhodeb campus o hanes y mudiadau Cymreig ar ran addysg y genedl, a cheir rhan o gynwys yr araeth yn ein rhifyn nesaf. # ft Yn y Drysorfa am y mis hwn rhoddir dar- lun campus a bywgraffiid byr o'r Parch. J. E. Davies, M.A., gweinidog parchus Jewin New- ydd. Mae Mr. Davies yn tin o wyr blaenaf y Cyfundeb Methodistaidd, yn ysgolor gwych ac yn bregethwr sylweddol. Efe yw Cymed- rolwr Cymanfa y Deheudir eleni, ac hefyd un j o ysgrifenyddion y Gymanfa Gyffredinol yn nglyn a'r enwad. • » Os am gael cyngherdd llwyddianus) wel, pobl Castle Street am dani. Mae eu hym- drechion ynglyn a'r cyngherdd brenhinol beth amser yn ol wedi troi allan yn llwyddiant arianol yn ogystal ag un cerddorol. Deallwn fod yr elw yn C212 3s 4c!! Rhagorol, yn wir. Os ceir dau neu dri chynulliad fel hwn bydd y capel yn ddiddyled yn y man. Mae'r aelodau Seneddol Cymreig yn selog iawn gyda'u gofynion gwladwriaethol y dydd- j iau hyn, a gwelir hwy yn Nhy'r Cyffredin bob | nos yn gwylio pob symudiad ar ran y Llyw- < odraeth. Y maent yn addaw gwrthwynebiad cryf i'r Mesur Addysg newydd sydd yn awr ger bron. Daeth Mr. William Jones yn ol o Ddeheu- dir-Ffrainc wedi cael gwyliau hapus iawn yn nghwmni Mr. Samuel Smith, A.S., a dywed fod yr aelod parchus dros Fflint yn gwella yn raddol ac ei gwelir yn ol cyn diwedd Mai. < Bu Eleanor Davies ag achos dyddorol o flaen yr Uchel Lys ddechreu yr wythnos hon. Merch ieuanc o ardal Aberaeron yw Miss Davies, ond ar hyn o bryd yn gogyddes yn Levesham. Trwy ddiofalwch pobl y relwe, cafodd ddamwain dro yn ol pan ar un o'i hymweliadau a Llundain, a dygodd gynghaws yn erbyn y cwmni. Gofalodd Mr J T Lewis, y cyfreithiwr, am ei hachos, a dadleuwyd drosti gan Arglwydd Coleridge, K.C., a Mr. Llew- elyn Williams, tra yr amddiffynid y relwe gan Mr. Kemp, K.C., a Mr. Lawless. Ar derfyn yr ornest bu raid i'r cwmni dalu iddi iawn o gop am y dolur. Yr ddechreu yr wythnos hon deuai son am heddwch o un ran o'r Transvaal, ond o ran arall deuai hanes am frwydr waedlyd rhwng y pleidiau.
Advertising
The Welsh Presbyterian dwell, Romford Road, Stratford. A GRAND MUSICAL EISTEDDFOD Will be held at the above Chapel, On Thursday Evening, May 1, 1902 COMMENCING AT 7.30 P.M. A MOST ATTRACTIVE PROGRAMME UNUSUALLY LIBERAL MONEY PRIZES WILL BE GIVEN. CONDITIONS AGREEABLE FOR ALL. All particulars from the Chapel Keepers at the various Welsh Chapels, or direct by enclosing stamped envelope from the General Secretary- D. RICHARDS, 31a, Maryland Park, Stratford, E. QgiWE OF'ADDRESS MR. HENRY MORGAN, oil Li SURGEON DENTIST HAS REMOVED FROM NO. 34 TO No. 10, TAVISTOCK PLACE, W.C SINGLE TEETH FROM 5/- A TOOTH. Complete Sets (Upper and Lower) from 94 EXTRACTIONS UNDER GAS AND ETHER SPRAY. CONSULTATIONS FREE. "Siaredir Cymraeg os yn fwy dymunol."
Byd y$=3=*=^ San. u
Byd y$=3=*=^ San. u Gan Pedr Alaw. Gallwn ddweyd am Eisteddfod Holloway, ei bod yn Ilwyddiant mewn ystyr gerddorol, a hyderwn mai felly yr oedd yn yr ystyr arianol. Yr oedd yn Ilawer gwell Eisteddfod na'r un y buom ynddi yn flaenorol yn yr un Ile-gwell o ran nifer a theilyngdod y cystadleuwyr; rhagorach hefyd o-ran safon y gerddoriaeth. Yn wir ni raid enwi mwy na un o'r darnau, sef u Eye hath not seen (" Holy City "), er profi fod yn yr Eisteddfod hon wledd deilwng o'r chwaeth oreu. Ac yr oedd ymddygiad y dorf hefyd yn beth i'w edmygu. Ar y Ddwyawd "Flow gently Deva," caf- wyd cystadleuaeth ragorol, ac anhawdd fuasai rhoddi dadganiad mwy gorphengar na'r eiddo y Meistri Tom Jones a Edwin Thomas, Jewin. Canodd tair merch yr Unawd "From mighty Kings," ac er nad oedd hon gystal cystadleuaeth a'r Dwyawd, yr oedd teilyngdod y fuddugol--Miss M. C. Robertson, Totteridge —yn bur amlwg ac i'w edmygu. Dangosai ol astudiaeth fanwl o'r darn, a meddai lais addfed. Gellir dweyd yr un peth am ddad- ganiad Miss Evelyn Brothers, Highbury, o'r Unawd i Contralto" Eye hath not seen." Yr oedd y foneddiges hon yn ddiamheuol oreu. Y mae yn amlwg fod yr Unawd i Denor Ii Even so let your Light shine yn gorwedd yn rhy uchel i leiswyr cyffredin, fel na chafwyd cystadleuaeth foddhaol. Gwir deilwng ydoedd yr un a wobrwywyd, modd bynag, a synwri os na chlywir am Mr. Dan Davies, Barnsbury, yn cipio ami i wobr ar ol hyn. Diau genym y ceir clywed The Windmill" mewn ilawer o'n Cystadleuaethau dyfodol! Y mae yn un o'r darnau mwyaf dyddorol a glyw- som erioed, a haedda bob cefnogaeth fel dernyn cystadleuol a chyngherddol. Y budd- ugwr ydoedd Mr. H. J. Perry, Hammersmith. Ni feddai lais cyflawn iawn, ond fe ganai gyda gofal, a dangosai 61 astudiaeth led fanwl o'r darn. Yr oedd y ddwy gystadleuaeth i rai ieuaingc yn bur ddyddorol, sef i enethod o dan 18 mlwydd oed, ar y gan Yn iach i ti Gymru," a "Can mewn gofid" i rai o dan I2eg. Enillodd Miss Gwenfron Williams, Clapham Junction, y brif wobr, a Miss Jennie Jones, Jewin, yr ail wobr, ar y gan gyntaf, a Miss Gladys Jones, Stoke Newington, y brif wobr ar yr olaf. A cbafodd Miss Jennie Jones, Jewin, a Gwenfron Williams, Clapham Junction, ddwy wobr fach am eu dadganiad o'r gan olaf a enwyd. Am chwareu darn ar y berdoneg, aeth Miss Nellie Davies, Barnsbury, a'r wobr gyntaf, a Miss Hilda Davies, Holloway, yr ail wobr, Er fod y chwareues gyntaf a enwyd yn deil- wng, cynghorwn hi y tro nesaf i chwareu y darn yn gyflymach: fe fydd felly yn fwy dyddorol fyth. Rhagorol ydoedd y Ddwyawd i Soprano a Contralto, sef u Where the trees are close and tall" ifioioen). Un parti ddaeth ymlaen, sef Miss Robertson, Totteridge, a Miss Evelyn Brothers, Highbury. Tlws odiaeth ydyw y gerddoriaeth, a theilynga y fath darn fwy o sylw nac a gafodd y tro hwn. Bu dau barti (12 mewn nifer) yn cystadlu ar y don Llangeithio a Carmel,"sef W.P.C. Clapham Junction (y buddugol), a'r Morley Hall Party Gyda mwy o ofal o'r myneg- iant yn y pedair llinell gyntaf o Llangeitho gallesid dweyd am y cor cyntaf mai dadgan- iad pur dda a gawsid ganddo. Yr oedd yma. gydbwysiad da yn y lleisiau. Broddegiad a