Hide Articles List

5 articles on this Page

LLYFRAU NEWYDDION.I

[No title]

WESLEYAID CYMREIG LLUNDAIN.

SEISNIGEIDDIWCH YR EISTEDDFOD,

News
Cite
Share

SEISNIGEIDDIWCH YR EISTEDDFOD, Dydd Llun y Pasg yr oedd Mr. William Evans, Birmingham, yn gadeirydd Eisteddfod. y 'Bermo'; ac yn ei araeth syrthiodd yndrwm? ar y dull y mae yr Eisteddfod yn cael ei chario ymlaen y dyddiau byn. Dywedodd â" Mae wedi myned yn ormod o'r dydd i neb wastraffu nag amser na dim arall i gyf- iawnhau bodolaeth yr Eisteddfod. Mae hyd yn oed y Saeson fu am hir amser yn ceisic taflu ar ei phen gymaint o wawd erbyn hyn wedi dyfod i gredu ynddi, ac i'w chefnogi yn y modd mwyaf gwresog. Ond y drwg ydyw mai nid mantais i'r Eisteddfod ydyw hyny,. am y rheswm fod elfenau wedi dyfod i fewn, ydynt yn graddol ladd nodweddion Cymreig" yr Eisteddfod. Erbyn hyn, hyd yn oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol, rhaid i'r hen iaitfe Gymraeg gymeryd yr ail Ie. Saesneg a siaredir, Saesneg a genir, a Saeson, y rhan amlaf, fydd y beirniaid a'r dadganwyr. Nid- ydwyf yn dadleu dros gyfyngu pobpeth i'r Cymry ac i'r Gymraeg, ond yn sicr nid ydyw yn iawn i bwyllgorau drefnu fod tair rhan a,, bedair o waith yr Eisteddfod yn cael ei garia, yn mlaen yn Saesneg. Un amcan mawr yr Eisteddfod oedd bod yn fagwrfa a meithrinfac, i bopeth Cymreig-Iaith, LIenyddiaeth, Cerdd- oriaeth. Hi fu drwy'r oesau'n Brif Athrofa y genedl; a phan gyll ei nodweddion cenedl- aethol yna cyll y prif reswm dros ei pharhad. Mae'n ddyledswydd ar bob Cymro i wneyd a allo o blaid yr Eisteddfod, nid fel y caiff ei chario yn mlaen yn ami y blynyddoedd hyn; ond fel yr oedd yn yr hen amser gynt. Yr wyf yn teimlo yn gryf na ddylid Seisnigeiddio yr hen sefydliad cenedlaethol er mwyn enili' cefnogaeth rhyw ddosbarth o bobl. Parchwn ein hiaith. Parchwn ein traddodiadau. Dal-. iwn yn sicr wrth ein nodweddion cenedlaethol. Erbyn hyn, mae prif ddysgawdwyr a llenorion, Ewrop wedi dyfod i weled gwerth ein hanes, a'n nodweddion fel cenedl."

"GOLEUNI Y BYD."