Hide Articles List

5 articles on this Page

LLYFRAU NEWYDDION.I

News
Cite
Share

LLYFRAU NEWYDDION. THE UNITARIAN STUDFNTS AT THE PRESBYTER- IAN COLLEGE, CARMARTHEN (1796-1901) [by Rees Jerkin Jones, Aberdare.] Dyma lyfr bychan dyddorol iawn. Cynwysa fywgrsffiadau o'r myfyrw) r Undodaidd a fuont yn Ngholeg Caerfyrddin yn ystod y ganrif ddiweddaf. Yn eu plitb, ceir Timothy Davies, Evesham Thomas Rees, awdwr Beauties of South Wales"; John Jones, Aberdâr tad awdwr y gyfrol; Dr. Davies, Ffrwdfal; W. D. Jeremy, Gray's Inn; B. T. Williams, A.S.; Gwilym Maries; George Evans, M.A., a Dr. Gwenogfryn Evans. Y mae 124 o fyw- graffiadau yn y llyfr, a rhaid cyfaddef fod cyfartaledd uchel o honynt wedi cyrhaedd enwogrwydd. Rhaid cofio, hefyd, fod y mwy- afrif mawr wedi codi o un gongl o sir Aberteifi, ac ynglyn â hyn fe welir fod llawer iawn o honynt yn perthyn i'w gilydd. Fe ddichon y dylid priodoli llwyddiant y gwyr hyn, yn benaf, i ddylanwad Ysgol David Davies, Castell- Hywel. Y mae'n syndod meddwl fod un gwr wedi gadael cymaint o'i 61 ar genedlaethau o fyfyrwyr. Ond yn y llyfr hwn, y mae yn eglur ddigon mai David Davis-trwy ei feibion a'r rhai dan ei athrawiaeth-a roddodd gychwyn- iad i ddegau o fechgyn, a fuasent yn y cwrs naturiol yn dilyn eu tadau a'u teidiau rhwng dau gorn yr aradr. Pe buasai rhywun yn ymgymeryd a dwyn allan lyfr cyffelyb i hwn am fyfyrwyr Ystrad Meurig, gwnai waith buddiol dros ben. Gellid, yn wir, olrhain y cynydd mewn dysgeidiaeth a'r awydd am wybodaeth sydd yn meddianu rhieni a phlant Cymru yn ein dyddiau ni, yn ol i'w gychwyniad yn Ysgolion Ystrad Meurig a Chastell Hywel. Wrth gwrs, ni welir yn y Uyfr sydd o'n blaen ond un o'r ffrydiau a darddodd o Gastell Hywel, a hono yn un fechan iawn. Rhaid fod Mr. Jones wedi gweithio yn galed i barotoi'r llyfr, gan fod ynddo ganoedd o ddyddiadau, heb son am achau a chysylltiadau teuluaidd. Mae Mr. Jones yn cael ei gydnabod er's amser bellach fel un o'r prif awdurdodau ar fywgraffiaeth yn Nghymru, ac efe, ynghyd k Mr. Lleufer Thomas a Proffeswr Lloyd, sydd wedi ysgrif- enu bywgraffiadau y Cymry yn y Dictionary of National Biography. Y tebyg yw, felly, fod y nodiadau yn y llyfr yn lied gywir, ond ceir yma a thraw rai dywediadau sydd yn amheus. Dywedir fod Lewis Rees-tad Dr. Abraham Rees-wedi priodi merch un Abra- ham Penry, yr hwn oedd yn disgyn o'r merthyr John Penry. Ein tyb ni yw, mai merched yn unig adawodd John Penry ar ei ol, a'u bod wedi ymfudo i Holland yn fuan wedi dienydd- iad eu tad. Hefyd, fe ddywedir am un gwr ieuanc, ei fod yn disgyn, trwy ochr ei dad, o'r Parch. Evan Evans (leuan Brydydd Hir). Ond rhaid fod rhyw gamgymeriad, canys ni phriododd Ieuan erioed. Ond, feallai y ceir y gwall pwysicaf yn hanes Mr. Rees Jenkin Jones ei hun ac, yn sicr, dylai efe ofalu fod ei fywgraffiad ei hunan yn gywir. Dywedir fod tadcu Mr. Jones-sef Rees Rees, Cilgell Isaf, Llanbedr-yn fab i Elizabeth, merch Jenkin Jones, Llwynrhys; tra dengys y dydd- iadau yn y llyfr fod Jenkin Jones wedi marw 23 o flynyddoedd cyn geni Elizabeth, gwraig Rees. Dywedir, hefyd, fod John Jones, Llwyn- rbys-cychwynydd Anghydffurfiaeth yn sir Aberteill-wedi marw yn 1709, tra, mewn gwirionedd, bu efe farw yn 1722; a bu farw Elizabeth, merch Jenkin ei fab, yn lodes ieu- anc heb briodi. Prysured Mr. Jones a chasgliad arall o hen Undodwyr Aberteifi a Chaerfyrddin.

[No title]

WESLEYAID CYMREIG LLUNDAIN.

SEISNIGEIDDIWCH YR EISTEDDFOD,

"GOLEUNI Y BYD."