Hide Articles List

2 articles on this Page

RHYS AP GRUFFYDD.

News
Cite
Share

RHYS AP GRUFFYDD. ARWR Y DE. BRASLUN 0 BAPYR A DRADDODWYD GAN Y PROFF. LLOYD, M.A., BANGOR, 0 FLAEN CYMREIG- YDDION MACHYNLLETH. Mynych y clywir cwyno gan wyr y De fod y Gogledd yn cael mwy na'i ran yn mywyd cyffredinol Cymru. Dywed yr Hwntw fod gorfaeliaeth y Gogledd wedi dyrchafu iaith y Gogleddwyr i ffurfafenau uchelaf clod, tra mae cathlau melusion Gwent a Morganwg wedi eu llwyr anghofio. Er fod llawer o sail i'r achwyniad, eto, geill y Gogleddwyr ateb a gofyn pa fodd y ciigwthiwyd y fo o iaith ysgrifenedig y Cymry. Pa fodd y daeth Dewi Sant yn noddwr-saint holl Gymru, a pha fodd y mabwysiadwyd y geninen yn arwyddlun cenedlaethol-planhigyn persawrus na wyddis am dano yn y rhan fwyaf o erddi Powys a Gwynedd. Er hyn i gyd m?e yn rhaid addef nad yw arwyr y De hyd yn hyn wedi cael eu lie priodol yn hanes y genedl. Y chydig sydd yn gwybod dim am Rhys ap Gruffydd tra molir Glyndwr, Llewelyn, Gruff- ydd ap Llewelyn, Gruffydd ap Cynan, Owen Gwynedd, ac ereill o arwyr y gogledd o for Hafren i draethau y Ddyfrdwy. Yr oedd tywysogion y Gogledd a chanddynt fantais enfawr ar dywysogion y De-yn Ngwynedd yr oedd creigiau a mynyddoedd Eryri yn fagwyr cedyrn i fyddinoedd ei thywysogion, ac heb law hyny, yr oedd ganddynt Ynys Mon, yr hon a gynyrchai ddtgonedd o yd i borthi eu milwyr. Mae'n wir fod fforestydd y Cantref Mawr o Landeilo i Lanbedr Pont Stephan yn lie mor anhygyrch nes credu o rai stori yr offeiriad hwnw a fynegodd i frenhin Lloegr fod y rhanbarth hwnw o'r wiad yn difa y preswylwyr, ac mai ar laswellt yr ymborthai ei drigolion, ond nid oedd gan wyr y Deheu- dir yr un Ynys Mon yn fam iddynt i ofalu am yd. Wyr ydoedd Rhys i Rhys ap Tewdwr, ty- wysog galluocaf ei ddydd, arglwydd Ceredig- ion, Ystrad Tywi a gwlad Gwyr. Bu farw Rhys ab Tewdwr, ac yr oedd Harri I, gyfrwysgall gadarn yn eistedd ar orsedd- fainc Lloegr ac felly bu raid i'r Cymry ddwyn yr iau dan y brenin Normanaidd a'i arglwyddi tramor. Cymerwyd y bachgen Hywel yn garcharor, a bu Gruffydd am ysbaid blynydd- oedd-yn alltud yn yr Iwerddon, ond pan oedd y llanciau yn nesu at oedran gwr rhyddhawyd Hywel, dychwelodd Gruffydd, a ymunodd llawer o'r gwyr ieuainc a hwy-ynfydion ieu- ainc y galwai henafgwyr y dyddiau blin hwy. Yr oedd yr arweinwyr Cymreig yn ofni y Brenin Harri canys ni allai neb ymladd ag ef ond Duw, yr hwn a roddes y meddiant iddo. Ysgytiwyd y De gan boethder chwyldroad, a phan ddaeth cyfieusdra i'r Cymry-unwaith am byth-i ysgwyd ymaith orthrwm yr Ar- glwydd Normanaidd, gwelodd Gruffydd ap Rhys yr anhrefn oedd ar ddyfod ar Loegr o dan afreolaeth Stephan wan, anwadal, a gwel- odd seren ei dy ei hun yn dringo yn araf i entrych nen, ond ow I ei obeithion a chwal- wyd. Cyn pen dwy flynedd cymerwyd ef a'i wraig Gwenllian, yn garcharorion. Yna syrth- iodd y gorchwyl o ryddhau Cymru ar ei feibion. Er marw ac er carcharu y tywysogion yr oedd y waedd ar ledâ" Deffro, mae'n ddvdd" a gwnaeth Anarawd a Chadell, a meibion Gruffydd ap Cynan, waith dirfawr gan erlid y Normaniaid o gastell i gastell hyd ymylon y mor. Bu farw Anarawd a chludodd Cadell ei gorphyn ysig i Rufain, ac am Mer- edydd y dywedwyd, o'i oriau boreu ei bwr- iwyd ac nid oedd yn aros i arwain gwyr y De ond Rhys ab Gruffydd. Tra fu Stephan yn frenin Lloegr bu Rhys yn ddiwyd yn casglu nerth-eiddo ef ydoedd bedwar cantref Cer- edigion, y Cantref Mawr, y Cantref Bychan, hyd Fannau Brycheiniog, a llawer o dir yn Nyfed megis bro Caerfyrddin a'i chastell a'i phriordy, a thref Emlyn a'i chastell cadarn, a Chemmes yn nghwr Penfro. Cyn hir daeth tro ar fyd. Os mai helygen oedd y Brenin Stephan, dilynwyd ef gan dderwen o ddyn- Harri'r II.-Etifeddodd Loegr a Normandy oddiwrth ei fam, Anjou oddiwrth ei dad, ym- briododd ag aeres yr etifeddiaethau o'r Loire i fynyddoedd y Pyrenees. Yn Ffrainc yr oedd yn gryfach na brenin Ffrainc ei hun, ond yn ei wlad ef ni feiddiai nac esgob, na barwn, na thywysog ei wrthsefyll. Am ddwy neu dair blynedd bu gan Harri lonaid ei gol o waith yn Lloegr ac ar y Cyfandir, ond nid dros byth y lluddiwyd ef rhag ymweled a Chymru. Ar- weiniodd ei fyddin i Gaer ac oddiyno i Fflint; ac er mai i'r Cymry a'u harweinwyr Rhys ap Gruffydd ac Owen Gwynedd y perthyn holl glod milwrol yr ymgyrch hono, eto ilwyddodd Harri i adenill Fflint, a thybiodd na chodai yr un Cymro yn ei erbyn ef am y rhawg. Dyg- asai Rhys gantrefi Ceredigion oddiar Clare, a'r Cantref Bychan oddiar deulu Clifford, ac feiJy edrychai Harri arno fel cribddeiliwr heb gofio y cribddail mawr drwy yr hwn y collasai y Cymry ran mor helaeth o'u gwlad. Arwein- iodd Harri fyddin i diriogaethau Rhys-cil- iodd ynte a'i gyfoeth, ei anifeiliaid, ei arfau, ei dlysau, i goedydd Ystrad Tywi. Dywedai y goelcerth a'i chan tafod o dan fod y gelyn ar y goror end prynasai Owen Gwynedd heddwch gan y brenin, ac roedd Powys erioed yn bleidiol i'r Sais. Felly, Rhys a gymerodd gyngor gan ei wyr da, ac a aeth i wersyll y brenin, a gorfu iddo heddychu ag ef gan ymfod ii ^ni bod yn arglwydd distadl cymydau y Cantref Mawr a chaniatau i Clare rodio yn rhydd hyd draethau Ceredigion ac edrych ar Clifford yn cyhwfanu ei faner yn Llanym- ddyfri. Er nad oedd Rhys yn awr ond arglwydd gwlad ddiffaeth y Cantref Mawr pan aeth Harri i Ffrainc yn y flwyddyn 1158 dechreuodd yr awyr gynhyrfu rhwng bryniau cymydau y Cantref Mawr, a hwn oedd calon a man cychwyn y De. Ymroddodd Rhys i adenill ei diriogaethau ac am flynyddau ni aflonyddwyd arno gan y brenin, ond nid oedd neb yn mron o'r Cymry o'i du. Gorfu arno ymladd brwydr enbyd a thri o'r tywysogion Cymreig a phum' iarll Normanaidd. Daeth Harri ei hun heibio i Gasnewydd yn ei erbyn ac oherwydd v brophwydoliaeth ryfedd yn nghylch y gwr a'r brychni gwyneb yn croesi rhyd y Pencam, ni fu calon gan y Cymry i ryfela ag ef. Daeth y brenin hyd yn Mhen- cader, ac aeth Rhys i'w wersyll i dderbyn amodau heddwch. Dechreuodd y cymylau ymgasglu yn ffurfafen y brenin galluog na feiddiasai neb ei wrthsefyll ac am flynddoedd bu y cweryl rhwng Becket a'r brenin yn foddion gwaredigaeth i Gymru ac i Rhys ap Gruffydd. Unodd Gwynedd a Phowys a Dyfed i wrthsefyll y brenin yn 1165, ac wedi arwain o Harri ei fyddin i Gorwen a Chroesoswallt heb fawr o lwyddiant ni welodd Cymru Harri mwy yn arwain byddin yn ei herbyn. Aeth y cweryl rhwng Becket a'r brenin yn chwerw- ach, a chiliodd cyfeillion y brenin fel mai da oedd ganddo yn ei amddifadrwydd wneuthur cyfeillion hyd yn oed o'r tywysogion Cym- reig. Cynyddodd gallu Rhys, efe ac Owen Gwynedd oeddynt brif dywysogion Cymru, ac wedi marw Owen nid oedd dyw- ysog cyffelyb i Rhys yn yr holl wlad. Trywan- wyd Becket ar risiau allor Caergaint gan lofruddion, gweision y brenin, a da oedd gan Harri gael lie i gilio drwy Gymru i'r Iwerdd- on. Ar ei ffordd cyfarfyddwyd y brenin gan Rhys yn Fforest y Ddere lie y cydnabyddodd y brenin ef fel Rhys Arglwwydd y De-yr Arglwydd Rhys. Mor drwyadl ydoedd hedd- ychiad Rhys a'r brenin fel yr arweiniodd Rhys filwyr i'w gynorthwyo yn erbyn ei feibion a'i farwniaii ei hun i Tutbury, a dyddorol ydyw darllen cyfrifon y siryddion lie y rhoddir cyfrif am y bwyd a'r cwrw a brynwyd i'r milwyr pybyr o Gymru ar eu taith i gynhal breichiau y brenin Harri. Nid yn uriig yr oedd Rhys yn fllwr mawr ond yr oedd hefyd yn noddwr lien, fel y dengys Eisteddfod Aberteifi-prif lys iddo. Yr 02dd yn noddwr crefydd ei ddydd fel y tystiolaetha hanes y mynachdai Cistercaidd Ystrad Fflar Talyllychau, a Thy Gwyn ar Daf. Nid tywysog gwyIlt y mynydd ydoedd Arglwydd Castell Dinefwr fel y deng- ys ei ateb coeth i ganmoliaeth lawchwith Gerald Gymro gyda golwg ar ei berthynas a theulu Ciare-y teuiu disglaer eu clod. Ni sefydloid Rhys un deyrnas gref ond oidwodd y teimlad cenedlaethol yn fyw, ac onibai am Rhys ap Gruffydd â" pen a tharian a chad- ernid holl Gymru," ni futsai acenion y Gym- raeg i'w clywed ar lanau y Teifi a'r Tywi.- (Welsh Gazette).

Advertising