Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

LLITH Y CRWYDRYN.

News
Cite
Share

LLITH Y CRWYDRYN. x. 0 LANRYSTYD I ABERYSTWYTH, CEREDIGION. Heb fod yn nepell o Lanrhystyd yn nghraig y mor, y mae ogof brydferth a elwir H Twll Twrw," yn yr hon y dywedir ddarfod i lawer o fynachod yn yr oseau gynt fod yn byw. Mae yr olygfa o honi yn arddunol, a'r unig- edd distaw yn dra manteisiol i fyfyrdcd sanctaidd. Diau fod crefydd y ddinas fawr, brysur, yn uwch a dwyfolach na chrefydd yr ogof; eto, buasai yn dda i bobl y ddinas brysur gael ychydig seibiant hamddenol, tawel, yr ogof ambell i waith i fyfyrio ar gwestiynau mawrion bywyd. Ni cheir cryfder moesol ac ysbrydol yn y bywyd dinesig heb unigedd y mynydd. Cedwir gwaed a bywyd dinasoedd mawrion yn iach drwy fod ardaloedd gwledig yn taflu i fewn iddynt eu gwaed goreu yn barhaus. Difa nerth ei phreswylwyr wna y ddinas gan lygru ei thrigolion nes yw eu dryg- sawr yn heintus i wledydd o'i chylch. Da fuasai i ymfudwyr o'r wlad i'r dref weled y perygl mewn pryd ac i ochelyd rhag cael eu llygru yn anwiredd y ddinas. Gwelsom lawer o bobl yn nodedig o grefyddol yn y wlad, ond wedi symud i dref fawr i fyw-yn myned yn nodedig o anghrefyddol. Mewn pant dwfn gor-is y brif-ffordd, y mae amaethdy Ffospilcorn. Tarawodd yr enw fi fel un rhyfedd. Mae y rhan gyntaf o'r enw-Ffos-yn nodweddiadol iawn gan fod y ty mewn pantle dwfn, yr hyn yw ystyr y gair ffos. Gair cyfystyr yw y Gymraeg ffos i'r Lladin fossa, o fodio, i gloddio; Ffrancaeg, fosse; Seisnaeg, fosse; Hebraeg, phadad; Sanscrit, pat, i dori, i aredig, i gloddio. Pilcom, neu yn fwy cywir peelcorn, yw grawn wedi tynu eu plisgyn allanol oddiarnynt. Silio y gelwir yr oruwchwyliaeth hon yn Nghered- igion. Eisin sil y gelwir codau y ceirch, ac y mae y peelcorn yn debyg iawn i rynion. Ychydig iawn o fwyd ceirch ddefnyddir yn Nghymru yn awr, y mae yr uwd blawd ceirch, yr uwd sucan, y bwdram, picws malu, bara ceirch, cawl llaeth, bara haidd, &c., wedi darfod bron o'r ardaloedd hyn te sydd yn awr i frecwast, te i ginio, te i de, a the i swper. Bu y meusydd o amgylch yma bob haf yn tyfu ceirch du a gwyn, haidd, gwenith, a rhyg. Diau fod meusydd breision Ffospeelcorn yn nodedig am godi ceirch i wneyd peelcorn na cheid ei debyg yn yr holl ardaloedd, ac i hyny roi yr enw Ffospeelcorn ar y lie. Hon yw Eglwys Plwyf Llanddeiniol. Carog fuasai enw yr ardal ar y cyntaf, oddiwrth enw yr afonig fechan Carog, lifa heibio gan aberu yn afon Gwyrai gerllaw. Ystyr yr enw Carog yw ffrydlif neu genllif o car, mynediad; Galaeg car, cuir, ffrydlif. Ceir nifer o nentydd o'r enw car a carog yn Nghymru; abera un o'r enw yn y Wysg rhwng Abercamlais ac Abersenni. Galwyd y lie yn Llanddeiniol drwy i'r Eglwysdy gael ei gysegru i goffadwriaeth Deiniol, neu Daniel Wyn, mab Dunawd Fyr, yr hwn a sylfaenodd eglwysdy yn Mangor, Arfon. Blodeuodd yn nechreu y seithfed ganrif, a sylfaenodd am- ryw eglwysdai; ac erys ei enw hyd heddyw ar Llanddaniel Fab yn M6n, Llanddeiniolen yn Arfon, a Llanddeiniol yn Ngheredigion. Saif yr eglwysdy hwn ar fryn prydferth, ac y mae mewn cadwraeth dda. Pentref bychan, tlws, ar Ian afon Ystwyth, yw Llanilar, rhyw chwech i saith milldir o Aberystwyth. Rheda cledrffordd Aberdau- gleddyf a Manceinion heibio, ac y mae gorsaf iddi yn y pentref. Daw i'r lie nifer o bysgod- wyr bob haf. Pentrefllyn y gelwir nifer o dai cyfagos. Mae gan y Methodistiaid Calfinaidd gapel ac eglwys ragorol yn y lie, er nad ydyw poblogaeth y parthau gwledig amaethyddol mor lluosog ag y buont. Eglwys Loegr y He sydd wedi rhoddi enw i'r pentref. Tybia rhai mai ei ystyr yw Llan, eglwys; ill, dau; âr, tir neu ranbarth-LJanilla, sef Llanillar, sef Xilan-y-ddwy-drefgordd. Cynwysa y plwyf ddwy drefgcrdd, sef Llanilar-Uwchaf, a Llan- ilar-Isaf. Ond gwell genyf gredu mai Llan- y hillary yw enw y lie yn gywir, gan mai i Hillary Sant y mae yr eglwysdy wedi ei gysegru. Cawn eglwysdy arall gerllaw Pont- yfon, yn mro Morganwg, wedi ei chysegru i Hillary, yr hwn a flodeuodd yn y chweched ganrif. Ceir yn y plwyf nifer o waddolicn er budd y tylodion. Gadawcdd Richard Jones, o St. Clement Danes, Strand, Llundain, 3cop at gynhal chwech 0 fechgyn a chwech o en- ethod mewn ysgol Seisnig yn y plwyf hwr. Prif dai y gymydcgaeth hon yw Birch Grove, lie y preswyliai y Fychaniaid, a Castle HiU, lie y cartrefai y Williamsiaid. Mae llawer o siarad yma yn awr am gael port newydd i arwain y brif-ffordd dros yr afcn. Y mae ei heisieu yn ddirfawr, oherwydd nid yw yr un bresenol yn ddiogel i deithwyr oblegid y tro byr sydd ynddi. Diau y gofala awdurdodau Cyngor y Sir am wneyd yma bont fydd yn addurn i'r lie. Claddwyd yma, yn Ionawr, y chwaer, Mrs. Margaret Evans, Penparc. Gen- edigol o'r ardal hon ydoedd Mrs. Evans, ac yma y treuliodd oes faith mewn parch cyff- redinol gan yr holl ardalwyr. Merched iddi hi ydyw y chwiorydd Misses Charlotte ac Annie Evans, o fasnachdy Timothy Morgan, Ysw., Chapel Street, Islington. Dyma Pen- pentref, cartref Miss Hughes, yr hon sydd mewn masnachdy yn Upper Street, Islington. Brodor o'r gymydogaeth hon, hefyd, yw Mr. Edwards, Jamaica Street, Mile End, yr hwn sydd frawd galluog a chymeradwy yn mysg lluaws ei frodyr. Ceir rhai enwau lleoedd yn y cymydog- aethau rhwng Llanrhystyd ac Aberystwyth ydynt hynod. Dyma le a elwir Chancery. Pa beth all fod tarddiad yr enw ? Rhanodd yr Ymherawdwyr Rhufeinig Brydain yn adranau i lywodraethwyr danynt, dilynwyd yr arferiad gan y teyrniaid ddaethant ar eu holau ac yr oedd gan yr is-lywiawdwyr hyn bob un eu cancillarius neu Ganghellydd. Hwn a feddai awdurdod i groesi allan frawddegau ac ad- ranau o lythyrau a deddfau ffurfid gan y teyrn ceddynt yn groes i ddeddfau y wlad cyn eu hanfon allan i'r is-swyddogion i'w gosod mewn grym ac arferiad yn y wiadwr- iaeth. Rhenid y llys lie yr ysgrifenid y cyf- reithiau hyn i adranau gan gysgodleni; deuai y werinos i'r llys, eithr gwahenid y swyddog- ion oddiwrthynt gan fangledrau (lattice-work) yr hyn a elwid yn cancelli, a'r lie a gauid i fewn yn cancellaria. Estynid y llythyrau a'r deddfau allan i'r bobl drwy y rhydyllwaith a elwid yn cancelli. Felly, tarddiad y gair Chancery yw y Llandinaeg cancellare, to make lattice-work. Perthynai i bob llywodraeth drwy Ewrop yn gystal ag yn yr Ynysoedd Prydeinig ei Changhellydd. Onid dyna oedd yr Archdderwydd i'r Gwledig a'r Archoffeir- iad Iuddewig i'r Brenin ? Chancery i bwy oedd yn y fan hon wys? Gwelais yn fy nghrwydriadau leoedd a elwir Brenhinlle, ac yn ei ymyl Cabidwl, sef cyngbordy, glwysdy, convocation house, chapter house. Olion man- frenhiniaethau gwahanol ardaloedd ydyw y llysdai hyn welir yma ac acw ar hyd hen Gymru fynyddig. Fan acw mae ty a elwir yn Aberholwn, Aberllolwn, ac Abertholwn ar lafar gwlad. Ond Abercollwyn yw ei enw yn gywir oddi- wrth aberiad afonig Collwyn gerllaw iddo. Wel, yr anwyl! Dyma le o'r enw Figure Four" Af heibio Bryn-yr-Eithin ymlaen i Lanych- haiarn, yr hwn a godwyd yn gapel i rector- iaeth Llanbadarn Fawr. Cysegrwyd y ty i Llwch-haiarn mab Hygarfael, 'Sant Cym- reig, a flodeuodd yn v seithfed ganrif. Dywed Iolo Morganwg iddo sefydlu nifer o eglwysi yn y wlad. Prif addurn y fynwent yw cof- golofn y Cadfridog Davies, Tanybwlch, yr hwn a enwogodd ei hunan yn neillduol ar wastattir Salamanca yn y Peninsular War." Ar Ian ddwyreiniol i afon Ystwyth yn y plwyf hwn y safai gynt Gastell Llwch-ha'arn. Nid oes dim o'i olion na'i hanes braidd yn aros heddyw. Prif dy yr ardal hwn yw Tan-y- Bwlch, cartref Vaughan Davies, Ysw., A.S. dros Geredigion. Saif yn un o'r manau pryd- ferthaf yn y gymydogaeth dan gysgod bryn ar fin y mor. Mae Mrs. Vaughan Davies yn wleidyddes alluog, a thrwy ei hoes yn ffyddlon i'r achos Rhyddfrydol. Tyncdd canu y Methcdistiaid yn Nghapel Blaenplwyf fy sylw yn fawr. Ewch rhagcch, gyfeillion. Mewn bwthyn prydferth ar fin y brif-ffordd y preswylia Dafydd Ellis fu gynt yn masnach- dy y Marsh, Lambeth. Edrycha yn ei dy mor glydog a dryw bach yn ei nyth, er mai hen lane yw. Bced i awyr bur y mor a'r mynydd roi iechyd a hir ces iddo. Dyma fi ar Ben Dinas 1 0, lanerch bryd- ferth 1 Y ddinas hon ydyw un o'r hen am- ddiffynfeydd a godwyd gan y Cymry fu yn yr oesau gynt er rhwystro goresgynwyr i lanio o'r mor. "Uanbadarn Gaerog y gelwid y lie y pryd hwnw, ac nid Aberystwyth. Pan safwn ar y fan hon o'r blaen yr oedd y Cadben William Griffiths, 7, William Street, Aber- ystwyth, yn dod a'i long hardd, Wellington," i fewn i'r porthladd yn llwythog o goed. Mor fawreddog yw Hong dan ei hwyliau yn dod i fewn i'r hafan dawel ar ddiwrnod teg hafaidd Dangosir mwy o forwriaeth a medr wrth gario liong hwyliau nag a wneir wrth gario agerlong. Edrychai y Wellington y dydd hwnw yn brydferth. "Y llong a lithrai dros y glasfor tawel, A i gwynion hwyliau yn cofleidio'r awel; Y stormydd erch fu yn croch-floeddio drygfyd, A hunent yn 'stafelloeddy wybrenfyd Y tonau man gusanent fin y creigiau, Gan ddifyr chwarae ar dywodlyd draethau; Yr huan ter a wenai mewn boddineb Wrth weled anian yn y fath dlysineb Y morwyr dewr o'ent ar y Hong yn rhodio, A'u serch yn fflam wrth feddwl am gael glanio Yn Ngwalia deg, ar ol mordeithiau geirwon Nes ofni bedd dan ruthrawg donau'r eigion Diolchai gwraig y Cadben i Dduw'r nefoedd Am gadw'r llong a'r dwylaw mewn dryccin- oedd; A'u dwyn drwy stormydd blin heb unrhyw adwyth Yn iach i hafan dawel Aberystwyth." ———

Advertising