Hide Articles List

4 articles on this Page

[No title]

CHWAREUON CWSG.

Advertising

!SALMYDDIAETH YR ALMAEN.

News
Cite
Share

roddaf ychydig o eglurhad ar gynwys y llyfr- -yn o emynau a barotoais er eich cynyrthwyo i ddilyn a deall ein gweithrediadau yn well, os nad hefyd i'w mwynhau a'u gwerthfawrogi. 'Yn niffyg cyfieithiadau Cymreig o'r emynau Ellmynig hyn, fe orfu imi fabwysiadu rhai Seisnig, gan mwyaf o waith awdures enwog y < £ Lyra Germanica a llyfrau eraill, sef Miss 'Catherine Winkworth. I dair o'r tonau a -ddewiswyd genyf i'w canu, pa fodd bynag, nid oedd na chyfierthiadau Seisnig na Chymreig" i'w cael nes y darfu i'm hen gyfaill, y diwedd- ,ar Barch. Owen Jones, y pryd hwnw o Lerpwl, yn dra charedig, ar fy nghais, ymgymeryd a'r gfwaith o droi eu hemynau priod i'r Gym- raeg. Uwchben yr emynau yr ydys wedi gosod teitlau y tonau y bwriedir eu canu arnynt. Adwaenir ton yn yr Almaen wrth linell flaenaf yr emyn a pha un y'i cysylltwyd hi ar y cyn- taf ac er i fri llawer ton beri i feirdd ysgrif- .enu emynau newydd ar ei chyfer, fe barheid i'w hadnabod wrth ei theitl cyntefig. Mi a iynais wrth yr arferiad hon ymron yn ddieithr- aad er dewis o honof ddau o emynau a ys- grifenwyd i'r tonau wedi iddynt fyned yn bob- logaidd. Teimlais gryn anhawsder i ddewis 'tonau i fod yn engreifftiau o Salmyddiaeth Ellmynig gan faint y doraeth o ddefnyddiau oedd wrth fy ngalwad. Bu raid imi, yn an- ewyllysgar iawn, wrthod lie i lawer ton gym- eradwy; ond hyderaf fod y detholiad yn cyn- rychioli yn lied deg y dosbarth o donau y ceisir ei ddarlunio. Yr hyn yr ymgyrhaeddwn ato ydoedd amrywiaeth yn nodwedd ac ar- ,ddull y gerddoriaeth yn y mydrau ac yn arbenig yn y cynghaneddiadau- Gwnaethum <ddefnydd o rai o drefniadau meistrolgar Bach a Mendelssohn, at y rhai y cyfeirir eto yn eu iro. I gyfranu yr amrywiaeth a nodwyd i'n gweithrediadau ar yr achlysur hwn, yn hytrach \nag i'w cymhell i sylw cynulleidfaoedd y mab- wysiedais y rhai hyn. Yn wir, nid amcanwyd hwynt ar y dechreu i'w harfer yn gynulleid- faol, ond gan gorau dysgybledig a galluog. Y mae yr un tonau i'w cael mewn diwyg mwy syml a chyfaddas ar gyfer yr addoliad cy- tioeddus. Pwysig ydyw ini ddeall fod yr Ellmyn yn bur wahanol i ni yn eu dull o ganu mawl. Yn mlaenaf, y maent hwy yn canu yn llawer arafach na ni; yn ail, hwy a orphwysant ar y siodyn olaf yn mhob llinell; a rhwng y gor- phwysiad hwn a'r nodyn blaenaf yn y Ilinell ddiiynol fe chwery'r organydd ychydig 0 g"ordiau a elwir yn interlude, yn drydydd, cenir yr alaw yn unsain gan yr holl gynulleidfa, tra y cyflenwir y gynghanedd gan yr organ, yn .cael ei chynorthwyo weithiau gan gor. Fe welir mai un o gyfieithiadau y Parch Owen -Jones, y cyfeiriwyd atynt eisoes, ydyw yr eil- fed-emyn-ar-bymtheg. Pan ddarllenais bapyr ar y testyn hwn 16 mlynedd yn ol yn Sea- combe, swydd Gaerlleon, un o'r rhai cyntaf a welwn o'm blaen oedd y gwr da ac anwyl Siwnw, a weinidogaethai ar y pryd yn Chatham Street, Lerpwl, ac a ddaethai gryn bellder o -fiordd i'r cyfarfod a phrudd-dyner bellach yw yr adgof am yr amgylchiad hwnw, pan ieddyhwyf am fy nghyfaill a'm cydweithiwr ymadawedig. Yr oedd Mr. Jones yn gerddor ,ac yn fardd, ac efe a ganodd yn dda ac yn felus i'w Arglwydd tra yma ar y ddaear ond erbyn heddyw llawer perffeithiach yw ei gan, oherwydd y mae efe bellach, a defnyddio ei >elnau ef ei hun, wrth ddesgrifio'r Cristion, yn yr emyn yr ydym ar fedr ei ganu, yn Cael gweled Iesu fel y mae Yr etifeddiaeth wedi dod i'w feddiant ,Cartrefu gyda'r Arglwydd uwch pcb gwae, A chael i'w ran dragwyddol bwys gogoniant; Yntau yn sanctaidd, dysglaer, hardd ei lun Fel Duw Ei Hun. Mi a gymeraf fantais oddiwrth gymwynas Jones yn cyfieithu emynau o'r Ellmynaeg I*11' i gyff wrdd a mater tra theilwng o ystyr- aaeth, sef tylodi emynol Cymru yn yr oes hon. j Pa fodd y gellir rhoddi cyfrif am brinder presenol emynwyr ac emynau ? Cam â'n beirdd a fyddai awgrymu fod ysgrifenu hym- nau yn orchwyl rhy ddistadl yn eu golwg; neu, ynte, eu bod yn ystyried nad oes eisieu chwan- egu at yr hyn sydd genym. Ond pa beth bynag a all fod y rheswm, da fyddai gallu eu cyffroi i weithgarwch adnewyddol yn y cyfeir- iad yma. Efallai mai llwybr effeithiol a fyddai i'n cerddorion eu cymell i ysgrifenu mewn mesurau sydd hyd yn hyn yn ddieithr i ni yn Nghymru. Yn yr Almaen, ac yn wir yn Lloegr hefyd, y mae llawer mwy o amryw- iaeth mesurau nag yn Nghymru; ac am hyny y mae Salmyddiaeth y ddwy wlad hono yn llai undonog. Nis gallai ein beirdd duwiol- frydig wasanaethu eu crefydd a'u gwlad yn well ar hyn o bryd na thrwy gyfieithu, neu, o'r hyn lleiaf, efelychu, emynau ardderchog yr Almaenwyr. 0 ddiffyg hymnau ar lawer o fesurau neillduol iddynt hwy, y mae tonau goreu Siermani yn eu dull cynhenid allan o'n cyrhaedd ni. Nid digonol fu yr ystyriaeth hon, fodd bynag, i atal rhai o'n cerddorion rhag ymyryd a hafen y coralau, fel y dengys eu ton-lyfrau. Bu y difrodwyr hyn wrthi yn ddyfal yn eu "cyfaddasu" i'n mesurau tra gwahanol ni; ac y mae y tocio, y darnio, yr anrheithio a'r dieneidio yn ngolwg cerddorion llednais yn fath o greulonderau Bwlgaraidd' cerddorol, neu angherddorol yn hytrach, ag a barant anfri i'w henwau tra y byddo coffa am danynt. Yr hyn a chwanega at faint eu hysgelerder ydyw y broffes uchel a wneir ganddynt o barch a hoffder tuagat wrthrychau eu hanfadwaith tra yr ysgydwant eu twcaon uwch eu penau. Ac ychwaneg na hyny, dyma rai o'r gwyr na fynent er dim i neb newid sill o'r emynau Cymreig, hyd yn nod pan y g-or- fyddid iddynt fod ynddynt feiau amlwg a gwrthun. Yr hyn a'n tery ar unwaith yn ein hesiamplau nesaf ydyw eu hynodrwydd mesurol. Mor ddieithr ydynt yn yr ystyr hon i lygaid Cymro, fel, ar yr olwg gyntaf, y parant i rai o honoch, fe ddichon, gymysgedd o syndod a difyrwch. Ond credu yr wyf fi ein bod ni fel y Saeson yn rhy dueddol i ddiystyru yr hyn na byddom wedi hir gynefino ag ef. Ein dyledswydd ydyw ymgydnabyddu a gwahanol ffurfiau o fyneg- iad mewn barddoniaeth a cherddoriaeth ym- gymodi yn rhwyddach a hwynt; ac ymrydd- hau oddiwrth syniadau cyfyng o'r natur yma. Ar yr un pryd ymogelwn, wrth geisio osgoi y culni a'r yspryd ceidwadol hwn, rhag rhuthro yn fyrbwyll i'r eithaf arall trwy dderbyn a chofleidio pob newydd-deb a ddygir i'n sylw yn unig am ei fod yn newydd. » Alaw o waith un Andreas Hammerschmidt ydyw yr unfed-coral-ar-ddeg, wedi ei chyng- haneddu gyda medr dihafal gan Bach. Gwnaeth y cerddor mawr rai newidiadau yn yr alaw hon yn gystal ag ereill yn ein dethol- iad. Ond dynered a chywreinied y cyffyrdd- iadau hyn! Nid ydyw Bach byth yn newid cyn gymaint a nodyn na bydd o trwy hyny yn enill naill er mwyn ystwythder alawol neu mewn effeithiolrwydd cynghaneddol, neu ynte yn y ddau ynghyd. Yr ydys eisoes wedi cy- feirio at ei amcan wrth gynghaneddu y Cor- alau. Fel hyn yr ysgrifena golygydd argraffiad cyflawn o'i drefniadau:â"Nid ysgrifenodd Bach mo'r gorchest-weithiau bychain hyn i gael eu harfer yn gynulleidfaol. Ni ddarfu iddo erioed ddymuno iddynt gael eu hargraffu o gwbl. Efe a'u hysgrifenodd o dro i dro, mewn rhan i'r rhai a addysgid ganddo mewn cyfansoddi, fel esiamplau a chynlluniau iddynt; mewn rhan i gor Eglwys St. Thomas, yn Leipzig, i'w canu ar achlysuron anghyhoedd mewn rhan fel cerddoriaeth gyfyngol (inter- val music) yn ei gantawdau. Ymhell ar ol ei farwolaeth y cyhoeddwyd hwynt gan ei fab- Emanuel Bach." Wrth ystyried hyn 011, y rhyfeddod ydyw ddarfod iddo lynu mor fanwl wrth yr alawon fel y'u cenid yn nghynulleidfaoedd yr Almaen. Os ydyw meistrolaeth y dyn mawr hwn ar adnoddau diderfyn cynghanedd yn dyfod i'r amlwg yng ngodidogrwydd ei waith yn trefnu i wahanol leisiau, yn ddilys y mae ei dduwiol- frydedd yn cael ei ddatguddio yr un mor eglur yn y modd tyner a pharchus yn yr hwn y mae efe yn trin alawon y cysegr.