Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

GWAWR HEDDWCH.

[No title]

!SALMYDDIAETH YR ALMAEN.

News
Cite
Share

SALMYDDIAETH YR ALMAEN. (Dyfyniadau 0 Bapyr a ddarllenwyd gan Mr. W. H. Roberts, Cecil Court, yn Lewisham, Mawrth 20fed). Prin y mae angen dweyd mai yr hyn yr ydys yn ei feddwl wrth Salmyddiaeth ydyw Cerddoriaeth Gynulleidfaol, ac mai arall-eir- iad o'm testyn a fyddai" Coralau, neu Donau Ellmynig." Testyn ydyw, mi a gredaf, ag a duedda i eangu ein gwybodaeth am gerddor- iaeth addoliadol, i buro a dyrchafu em chwaeth, i ddiwyllio ein barn, ac i greu ynom fwy o awydd i gyflawni yn deilwng y rhan arbenig hon o'r gwasanaeth Dwyfol. Y mae i Salmyddiaeth unrhyw wlad, fel ag i'w Hemynyddiaeth, ei hanes neillduol hi ei hun, ac y mae'r hanes hwnw, oherwydd y cysylltiad anwahanol sydd rhyngddo a hanes crefydd, yn rhwym o fod yn ddyddorol. Yn wir, penod, a phenod bwysig, yn hanes eg- lwysig pob gwlad ydyw hanes ei Salmydd- iaeth hi. Ffaith i ryfeddu ati a gofidio o'i herwydd ydyw nad oes genym ni yn Nghymru, hyd yn hyn, ddim hanes cysylltiol a chyflawn o'n cerddoriaeth eglwysig: ffaith i ryfeddu, ati, meddaf, wrth feddwl am wyr fel Morris Davies, John Mills a Ieuan Gwyllt, y tri yn llenorion yn gystal ag yn gerddorion, yn cymeryd y dyddordeb dyfnaf yn Salmydd- iaeth eu gwlad a ffaith i ofidio o'i herwydd am fod y gorchwyl o ysgrifenu y cyfryw hanes yn myned yn fwy-fwy anhawdd po hwyaf yr ydys yn ei ohirio. Fe ysgrifenodd Mr. Morris Davies gyfres werthfawr o erth- yglau ar Emynyddiaeth Gymreig i'r Traeth- odydd, ac y mae yn resyn na roddodd efe ini hefyd gynyrch ei wybodaeth helaeth o'n Salm- yddiaeth, gan y buasai hyny yn sylfaen rag- orol i adolygiad mwy manwl o'r un testyn gan ryw hanesydd diweddarach. Defnyddiau lawer sydd ar gael tuagat y fath hanes mewn ysgrifau cerddorol a bywgraffiadol, ond y maent mor guddiedig ac ar gymaint gwasgar yn ein cylchgronau hen a diweddar, yn y Gioyddoniadur a gweithiau ereill, fel mai eofn a fyddai'r hanesydd a anturiai ar y llafur o geisio eu crynhoi at eu gilydd a'u cyfleu yn un cyfanwaith mewn trefn olynol. Eto, mwy gobeithiol wyf fi, nag y bum, y cyfyd rhyw Gymro yn y dyfodol agos a ymeifl gyda phenderfyniad yn y gwaith hwn, oherwydd un o nodweddion amlycaf ein Henyddiaeth ddi- weddar ydyw'r cynydd yn ein gweithiau ym- chwiliadol. Nid yw y Saeson hwythau nemawr ar y blaen ini yn hyn o beth ond yn yr Almaen y mae hi yn dra gwahanol. Nid yn ei babandod, fel gyda ni yn Nghymru, y mae'r duedd at ymchwil drylwyr i darddiad a hanes unrhyw beth ymhlith yr Ellmynwyr; yn hytrach y mae hi wedi tyfu nes dyfod yn gelfyddyd fawr ac aeddfed. Y mae ganddynt hwy nid yn unig eu gweithiau pwysig ar hanes cerdd- oriaeth yn gyffredinol ac ar hanes ei gwa- hanol ganghenau. Y mae ganddynt hefyd gyfrolau maintiolus a gwerthfawr ar hanes eu cerddoriaeth gynulleidfaol. Ond nid a hanes Salmyddiaeth Ellmynig y mae a fynof fi yn awr. Anichonadwy, yn wir, a fyddai i neb gyfleu o fewn terfynau papyr fel hwn hanes cysylltiol ac olynol o ganiadaeth eglwysig yr Almaen. Mor eang yw'r testyn fel y byddai yn rhaid cael cyfres o bapyrau i draethu arno. Fy mwriad i ynte, yn hytrach na hyny, ac na hir fanylu ychwaith ar nod- weddion Salmyddiaeth Ellmynig, ydyw, trwy garedigrwydd y cor, rhoddi detholiad o gor- alau crybwyll rhai o'u teithi amlycaf sylwi yn fyr ar eu hawduriaeth; a chymeryd man- tais oddiwrthynt hwy a'r emynau i wneuthur ambell sylw ar Salmyddiaeth yn gyffredinol. Ond cyn ymaflyd ohonom yn y prif orchwyl o gyflwyno i'ch sylw yr engreifftiau corawl hyn o gerddoriaeth eglwysig yr Almaen, mi a