Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Oddeuiu'r Ddinas.

News
Cite
Share

Oddeuiu'r Ddinas. Mae tymhor y swperu ar ddarfod yn ardal Clapham Junction, a nos Fercher nesaf fydd noson fawr" olaf y cyfeillion yn y He. Gwelir y manylion mewn colofn arall. Nos Iau nesaf y cynhelir Eisteddfod y cyfeillion yng nghapel y M.C. Sussex Road, Holloway. Fel rheol, cyfarfod poblogaidd yw hwn gan Gymry ardal y gogleddbarth. # Mae'r Anibynwyr yn trefnu i gael olynydd i'r Parch. D. Harries yn ardal East Ham a Woolwich, a chan fod y lleoedd yn myned ar gynydd, y mae gobaith y ceir eglwysi Cymreig cryfion yn y cylch heb fod yn hir. Da oedd gan hen gyfeillion y Parch. Robert Parry, Llanrug-gynt o Stratford-ei weled yn edrych mor dda, a chael y cyfle o'i glywed unwaith eto yn mysg cewri 'i cyfundeb yn Nghymanfa'r Pasg. Dydd Sul diweddaf ymwelwyd ag eglwys y Tabernacl, King's Cross, gan Americanwr enwog, Mr. Lloyd o Dalaeth Maine. Ar ei daith adref o wlad Canaan yr oedd Mr. Lloyd, ac erys yn Nghymru am rai wythnosau cyn myned yn ol i'r America. Ysgrifena hanesion dyddorol i'r Drych ar achlysuron am ei daith, ac maent yn ddarllenadwy iawn. < < Ceir nodion edmygol am y diweddar Mr. Hugh Edwards yn y Cerddor am y mis hwn. Nid oedd neb yn adwaen Mr. Edwards yn well na dau olygydd y cylchgrawn hwn. Llongyfarchwn Miss Margaret Mary Thomas o'r Borough ar ei llwyddiant yn enill y wobr yn Eisteddfod Llanarth dydd Gwener y Groglith gyda cor merched Llanon. Yr oedd tri chor arall yn chystadlu, ond cor Llanon dan arweiniad Miss Thomas enillodd y gamp. Mae Miss Thomas yn gantores ragorol. <t Yn Mountain Ash y cynhaliwyd un o Eisteddfodau mwyaf y deheudir ar ddydd Llun y Pasc, a chaed cystadlu brwd yno yn yr adran gerddorol. Un o brif feirniaid yr wyl oedd Mr. Merlin Morgan, R.A.M., o'r ddinas hon. Cydymdeimlir a'r boneddwr Mr. Jones, New Cross Road, S.E., yn ei waeledd presenol yn y London Hospital. Bydd ei gyfeillion lluosog yn falch i glywed ei fod yn araf wella. » Ni chlywsom yr Hybarch Thomas Levi yn bregethu erioed mor nerthol a galluog ag y gwnaeth bore Llun diweddaf yn Jewin ar u Ddyfodiad Mab y Dyn." Buasai yn iechyd i bawb i'w glywed. Bravo y Cymro Iuddewig, tyfa gyda ei oes, ac y mae yn hollol rydd o gulni anwybodaeth. » Mae Mr. a Mrs. W. Jones Watkins, Hither Green, wedi symud o'r dref i Dublin i fyw. Bydd colled fawr ar eu hol yn eglwys y Borough ac ym mysg Cymry y ddinas yn gyffredinol. Pob cysur iddynt yn yr Ynys Werdd. Chwith oedd gan gyfeillion ac edmygwyr. y Parch. J. Machreth Rees yng Nghymru na chawsant ei glywed yn pregethu yn Llan- fachreth a'r cylchoedd ar adeg y Pasc fel y trefnid. Yr oedd efe ac Elfed a'r daith yn y cylch, ond bu raid i Machreth dewi ar ddech- reu y gwaith oherwydd yr anhwyldeb yn ei wddf. Boed iddo gael gwellhad buan o'r dolur poenus. Yn ein rhifyn diweddaf dywedasom fod H Elphin" wedi tori ei gysylltiad a'r Daily News, ond nid yw hyny yn gywir. Deallwn fod Mr. Griffith yn parhau ei gysylltiadau llenyddol a'r newyddiadur rhyddfrydol, ac yn ysgrifenu iddo yn barhaus. Mae rhai o'r adolygiadau ar Farddoniaeth Seisnig diweddar o'i eiddo yn ddarllenadwy iawn, ond pa ryfedd, onid yw "Elphin" yn ben bardd ei hun ? # Cafodd y cyfeillion yn y Boro gyngherdd llwyddianus at y Bazaar sydd i'w gynal yn King's Cross ar y 23am a'r 24ain o'r mis hwn. Mr. John Jones, Old Kent Road, oedd y cadeirydd, yr hwn a roddoddswmardderchog at y mudiad. Dadganodd Mrs. Causton, Misses Teify Davies, Gwen Williams, Agnes Davies, Gwendolin Thomas; Mri. Seth Hughes a W. Dan Richards. Gwnaeth pob un ei ran yn gampus. Chwareuodd Mr. J. Edward Jones ddetholiad o Alawon Ysgot- aidd ar y crwth yn ardderchog. Cyfeiliwyd gan Misses Maggie Ellis, Jennie Jones, a Lady Roxburgh. Teimlai pawb yn lion i weled y cadeirydd yn y lie yn cael ei gefnogi gan Mr. Causton, A.S., a Mr. W. R. Evans. Cynhaliwyd y cyngherdd blynyddol ynglyn a chapel Cymraeg Woolwich ar yr 2ofed o'r mis diweddaf yn Freemasons' Hall, Plumstead, o dan lywyddiaeth Maer y rhanbarth—sef J. J. Messent, Ysw., Y.H.; pryd y caed cynulliad o dros chwe' chant o wrandawyr i fwynhau noson o dan gerddorion Cymreig. Y cerddorion oeddent:—Merched cor enwog y Kymric, yn cael eu cynorthwyo gan Mr. B. Davies, R.C.M. (Tenor) D. Brazell, R.C.M. (Bass); R. J. Stephens (Crwth) Adroddiadau gan Mrs. Tudor Rhys, ac unawdau offerynol gan y cyfeilydd, Miss Deborah Rees. Yr oedd rhaglen faith wedi ei threfnu, a chaed canu rhagorol drwy yr holl gyngherdd. Yr oedd Cor y Merched yn hynod o felodus, a chanasant yn ardderchog o dan arweiniad Miss Rees, a bu raid iddynt ail ganu bob tro cyn rhoddi taw ar gymeradwyaeth y dorf. Yr un modd am Mri. Davies a BrazelI-y ddau leiswyr ieuainc addawol: rhoddasant foddhad digymysg. Mae Mrs. Tudor Rhys yn parhau mor boblogaidd ac atdyniadol ag erioed, ac anhawdd cael ei gwell i roddi ad- roddiadau deheuig a gafaelgar, a gwnaeth hyny yn y cwrdd hwn. Yr oedd nifer o'r merched yn rhoddi unawdau, megis Misses Bessie Lewis, Lilian Haynes ac ereill, a theimlai pobl Woolwich ar y diwedd nad oedd eisieu eu gwell. ° Cyn ymadael, rhoddwyd diolchgarwch i'r Maer am ei bresenoldeb gan y Cynghorwr W. J. Squires a Mr. W. H. Lewis (goruchwyl- wyr y London and Provincial Bank), ac wrth gydnabod y diolch, dywedai ei fod ef a'r Faeres wedi cael boddhad neillduol wrth wrando ar y fath engreifftiau o gerddoriaeth Gymreig. Hyderai y rhoddid iddynt gyfleus- tra buan eto i wrando ar y fath wledd, a diolchai yn garedig i'r cyfeillion yn y cylch am ei wahodd yno. Da genym ddeall i'r cyng- herdd dalu yn dda hefyd gan fod yr eglwys tuag ugain punt ar enill ar ol y noson gerdd- gar hon. » Addawa Mr. Nutt, y cyhoeddwr enwog, roddi i ni argraffiad rhad o'r Mabinogion o waith y ddiweddar Gwenynen Gwent. Mae y gyfrol hono, bellach, yn brin, ac allan o gyr- haedd y bobl gyffredin, a bydd cael argraff- iad rhad yn gynorthwy mawr i'r darllenwyr ieuainc ymgydnabyddu mwy a'r clasuron enwog hyn. # Rhoddir canmoliaeth mawr, medd y Genedl, i'r dull y triniodd Mr. Llewelyn Williams, y bargyfreithiwr a'r lienor Cymreig, achos I hynod y Cadben Evan Morris o Borthmadog, yn Llundain. Nid oedd y cyfreithwyr yn coelio, yn ol geiriad y gyfraith, y gallasai neb gael iawn yn y cyfryw achos, eto rhoddodd y rheithwyr 75p i'r Cadben. 000 Mae Mr. J. R. Roberts, y draper enwog a Stratford, wedi rhoddi deng mil o bunau at adeiladu cartref i gleifion ynglyn a'r Woollen and Drapers' Institute, a deng mil arall er gwaddoli y cartref. Rhodd hael yw hon, ac yn arwydd dda o galon ddyngarol y Cymro llwyddianus hwn. w Dydd Llun y Pasg bu farw y wraig rin- weddol, Mrs. Howell Jones, anwyl briod Mr. Howell Jones, 47, Great Chart Street, Ea.st Road, yn ei 59 mlwydd o'i hoedran. Yr oedd yn foneddiges adnabyddus a charedig, ac wedi bod yn byw yn Llundain am tua 40 mlynedd. Claddwyd hi ddoe yn Ilford Cemetery, ac y mae cydymdeimlad llu o gyfeillion a'r teulu yn awr eu trallod. « Cynhaliodd Anibynwyr Llundain eu Cym- anfa Ganu Flynyddol yn y Tabernacl ar ddydd Gwener y Groglith fel arfer. Arweinid I eleni gan Mr. Harry Evans, Dowlais, a da genym ddeall i'r wyl droi allan yn llwyddianus iawn. Yn y prydnawn caed cyfarfod y plant o dan lywyddiaeth Mr. Hamer o'r Boro, a gwnaeth y rhai hyn eu gwaith yn fedrus iawn gan ddangos ol dysgyblaeth fanwl ar ran y gwahanol arweinyddion lleol. Cyflwynwyd i nifer luosog o honynt dystysgrifau a gwobr- wyon ynglyn a'r arholiad blynyddol a gaed yr wythnos flaenorol o dan nawdd yr Undeb. Yn yr hwyr llywyddwyd gan Mr. Benjamin Rees, Aldersgate, a chaed cyfarfod rhagorol a chanu canmoladwy iawn. Er fod amryw ugeiniau wedi myned tua'r wlad ar eu gwyliau caed ar y cyfan gynulliad boddhaol yn ystod yr wyl. Dydd Mercher wythnos i'r diweddaf unwyd mewn priodas yn King's Cross, Mr. Thomas Clarke a Miss Margaret Evans-y ddau o Llanrhystyd. Miss Clarke oedd y forwyn briodas, ac yr oedd y briodasferch a hithau wedi gwisgo yn nodedig o ddestlus. Gwenau haul fyddo ar lwybr Mr. a Mrs. Clarke dros oes faith yw dymuniad eu cyfeillion i gyd. 000 Dydd Gwener cyn y diweddaf caed priodas boblogaidd arall. Y partion oeddent Mr. Tom Jones, Wick Road, Homerton-Cardi o Llanilar—a Miss Margaret Evans, Half Moon Crescent, Barnsbury-merch hynaf Mrs. Evans, Elim Shop, Llandeiniol, Ceredigion. Ar ol rhoddi'r cwlwm, aed i'r Manchester Hotel, lie y caed y wledd briodas, a daeth nifer o gyfeillion ynghyd i ddymuno yn dda i'r par dedwyd ar ddechreu eu gyrfa. Yr oedd y rhoddion lluosog a drudfawr a gaed ganddynt yr arddangoseg o'u poblogrwydd. Ym mhlith gwahoddedigion y wledd gsvelsom y rhai canlynol: Mr. a M ss Evans, Half Moon Crescent; Mr. a Miss Edwards, Grafton Road; Mrs. Davies, City Mrs. Hughes, Clapham; Mr. a Mrs. Colling; Miss Edwards, Theobalds Road; Miss Watkins, Queen's Gate, Kensington, &c. 100 o Gohebydd ieuanc o ardal Oxford Street a enfyn ymholiad A oes liyfrgell Gymreig i gael yn Llundain lie y gallaf fenthyca rhai o glasuron ein cenedl." Na, nid oes genym yr un liyfrgell gyhoeddus, ond y mae nifer o rai bychain i'w cael yma ac acw ar hyd y ddinas. Y mae casgliad rhagorol i'w gael yn ystafell Cymdeithas y Cymmrodorion ond nid yw'n agored i neb ond yr aelodau. Mae y llyfrgell- oedd sydd ynglyn a'r Ysgolion Sul yn rhai on capelau yn hynod o wael. Ni cheir ynddynt ond pregethau a chofiantau ac ambell i es- poniad. Gellir gweled nifer luosog o lyfrau da yn y" British Museum," ond wrth gwrs, rhaid myned yno yn gynar yn y prydnawn i gael llyfr allan. Beth pe bae Mr. Roberts, Cecil Court, yn ychwaegu Lending Library' at ei fasnach gynyddol ?