Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

r BYO A'R BETTWS.

News
Cite
Share

r BYO A'R BETTWS. Rhodes wedi marw Dyna newydd mawr yr wythnos ddiweddaf. Druan o hono, aeth ef i'w fedd cyn gweled diwedd y rhyfel. Daw'r newyddion eto o Ddeheudir Affrica fed Argoelion am heddwch. Gobeithio y daw rhyw ddaioni o'r ymdrafodaeth presenol rhwng y pieidiau. Nid yw Mesur Addysg y Llywodraeth yn cael derbyniad gwresog iawn gan y wlad. Dia u y ceir dadleuon poeth cyn ei gosodir ar ddeddf-lyfrau y deyrnas. Mae Arglwydd Rosebery wedi myned am dro i'r cyfandir. Feallai y cyferfydd a Kruger mewn rhyw dafarndy gwledig cyn y daw yn ol i'r wlad hon. Bu Mr. Lloyd George yn anerch ei ethol- wyr yn Mhwllheli dydd Iau cyn y Pasc, a chafodd dderbyniad croesawus iawn. Yr oedd yn dioddef o dan anwyd trwm, a siaradai o dan anfantais dirfawr. Collodd Bryste un o'i masnachwyr mwyaf cyfrifol yr wythnos ddiweddaf yn marwolaeth Mr. Edwards, un o berchencgion y ffirm Edwards Ringer, y gneuthurwyr myglys enwog. Nid yw pobl sir Benfro mor bwl eu golygon ag y myn Mr. Terrell, K.C., eu bod. Anogai ef hwy y dydd o'r blaen i ymuno a Rosebery a'i blaid, ond gwell gan bobl Penfro yw rhyddfrydiaeth Gymreig onest a heddychol. Hyderwn y gwna gwyr Penfro roddi good bye i Mr. Terrell ar ol hyn, ac edrych allan am ymgeisydd mwy cydnaws a daliadau synwyrlawn y trigolion. Ceisia pobl Bangor i gael gan Andrew Carnegie ddod yno un diwrnod i lywyddu yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Y llywydd- ion ereill fyddant Arglwydd Mostyn, Dr. Isambard Owen, Mr. D. Lloyd George, Syr A. L. Jones, a Due Westminster. Oherwydd henaint nis gall Mr. George Meredith fyned i Gymru i dderbyn y gradd "R gyflwynir iddo gan y Brifysgol yn Mai nesaf. Diau y caiff yr anrhydedd er hyny, oherwydd nid yw y Brifysgol yn gorfodi y graddolion hyn i fod yn bresenol bob amser. Fel y cofir gwnaed eithriad dro yn ol a'r hyglod Silfan Evans. Gofynir deg punt am fenthyg cae i gynal Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor eleni, a chwjna y pwyllgor o'r herwydd. Maent hwy am gynyg pum' punt! Yr oedd pobl Ponty- pridd yn talu £70 am Ie, a hyny yn ddirwg- nach. Mae Cymdeithas Rhyddhad Crefydd wedi cyhoeddi yr araeth a draddodwyd gan Mr. William Jones yn Nhy'r Cyffredin ar Fesur Dadgysylltiad. Gwna bamphledyn amserol, a dylai pob Cymro ei darllen yn ofalus. Myn rhai pobl nad yw'r Gymraeg yn iaith fasnachol, a gellid meddwl hyny wrth weled y fath hysbysiad a hwn mewn ffenestr yn un o brif heolydd tref Caerfyrddin,- TE A COFFEE AR LLAW YN BAROD GWELYIAU CAMPUS OLL Y TEMPRIS. Os na all tref henafol Myrddin wneyd yn well na hynyna, gwell iddi droi yn Saesneg ar unwaith. Aeth tyrfaoedd mawrion i Gymru o Loegr yn ystod gwyliau y Pasg, ac ar y cyfan cawsant wyliau llawen. Yr oedd trefniadau y rheil- ffyrdd yn weddol gyfleus, ond y mae angen am lawer o gyfnewidiad. Wele engreifftiau nodedig o hirhoedledd yng Ngheredigion. Dydd Mawrth diweddaf claddwyd yn y Glynarthen weddillion Mr. Griffith Morris, Sarnau Park, yn 96 oed. Bu farw Gwener y Groglith. Mab iddo yw y Parch. I. G. Morris, Trefdraeth, Penfro. Claddwyd cymydog iddo ychydig amser yn ol, Thomas Evans, Pantteg, yn 95 oed. Mewn dosbarth yn ysgol Sabbothol y Methodistiaid yn Talybont Aoerteifi y mae yr athraw yn 93, a thri o'i ddisgyblion yn 91, 84, ac 80 oed. Gwelais un yn 112 oed yn myned i'r bedd. Peth ardderchog yw byw yn hen os byddir byw yn dda. Y gwladgar Michael D. Jones, o'r Bala, oedd y gwr penaf i anfon y Cymry i Patagonia rhaig rhaib a thrais y Saeson Cymreig; a'i fab ef, Mr. Llwyd ab Iwan, oedd y blaenaf i symud er anfon y Cymry o Patagonia rhag trais yr Hispaeniaid. Ar ddydd ffwl Ebrill bu'r papyr dimeu The Sun o dan olygiaeth dau ffwl enwog yn y byd Seisnig. Credai'r cyhoeddwyr fod hyn yn newydd-beth, ond nid oedd eu cynyrchion yn wahanol i'r hyn a welwyd droion yn y Daily Mail, pan yn son am ddal De Wet, neu'r Ilofruddiaethau yn China, &c. Rhaid cael mwy o newydd-deb, wir fobl mae digon o bapyrau Seisnig yn cael eu golygu gan ffyl- iaid yn barod!