Hide Articles List

13 articles on this Page

..--,-.-....... AT EIN DARLLEN…

COLOFN Y BEIRDD.

Y CONFFRENS.

PWY DDARGANFYDDODD AMERICA?

News
Cite
Share

PWY DDARGANFYDDODD AMERICA? [GAN MR. J. D. WALTERS, MERTHTR]. Dyma brif faes ymchwiliad diflino y blynyddoedd diweddaf, a hyny gan lenorion a dyspawdwyr mwyaf goleuedig ac uwch-raddol a fedd gwahanol genedloedd gwar yr oes bresenol. Nid oes fesur na therfyn braidd ar ysgrifenu, areithio, dadleu a'r cyffelybam y person ar ameer y darganfyddwyd Cyfandir y Gorllewin gyntaf. Fel y mae yn hysbys i'r darllenydd, gosodir dau ddyddiad i'r adeg y gwelodd Christopher Columbus Gyfandir y Gorllewin, aef Hydref 15ea a'r 21ain 400 blynedd yn ol i'r Hydref diweddaf. Yr oedd newyddiaduron dyddiol ac wythnosol, yn nghyda'r cylchgronau misol a thri-misol drwy yr Unol Daleithau, wedi cymeryd i fyny amgylchiad rhyfedd darganfyddiad y cyfandir, er cael sicrwydd gwirionedd y ffaith nad hanes ffugiol a chaddug o dywyllwch o'i hamgylch, na thraddodiad benchwiban y Babaeth oedd wrth wraidd y siarad cynhyrfus oedd fel gorlif yn gorcbuddio y gwledydd. Yn yr adeg nwyfus a tbrydanol hon, i geisio pentyru mynyddoedd o ogoniant canmoliaethau ar lienau eu gilydd, er moli yr baner-dduw Pabaidd Ch. Columbus, penderfynodd y Cymro dewrfrydig, a'r lienor uwchraadol, yr Anrh. Thomas L. Jamas, cyn-Bostfeistr eyffredinol yr Unol Dalaethau, Dinas New York, yn bresenol, wneyd ymchwiliad manwl a thrwyadl i ddarganfyddiad y cyfandir Americanaidd. Yr oedd Mr. James yn ymwybodol fod y gwledydd, gydag unfrydedd mawr, yn rhodd i yr holl anrhydedd fel coron o berlau ar ben Columbus. Hefyd, yr oedd yn hysbys i Mr. James fod y lienor clasurol a'r beirniad craff, y diweddar Mr. Thomas Stephens, Merthyr Tydfil, wedi gwadu yn benderfynol, drwy ymJhwiliad maith, nad oedd un prawf diymwad a sicr i Madoc ap Owen Gwynedd tyned allan a deg o longau tua'r gorllewin, ac iddo ddarganfod y cyfandir. Ni ddigalonodd ac ni wany- chodd yr holl bethau hyn ffydd Mr. Jam&? er ei rwystro i ymaflyd yn y gwaith gorchestol o gael allan wirionedd y ffaith mai Madoc ap Owen Gwynedd oedd y cyntaf i ddarganfod Cyfandir mawr y Gor- llewlll. Penderfynodd yr ysgrifenydd redeg talfyriad o banes ei ymchwiliad drwy y felin Gymreig fel y canlyn :â Un o'r enw Haklwyt, Said oedd yn byw yn yr Unol Dalaethau, yn ei lyfr a'r "Hanes Mordeithiau" yr hwn lyfr a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1589, a ddywed am Madoc ap Owen Gwynedd iddo hwylio o lanau gogleddol yr Iwerddon tua'r gorllewin, nes iddo ddyfodatgyfandirnadoeddarddaiar-leni y byd yr adeg hono, ac iddo weled lluaws o bethau rhyfedd yno a sicrha yr un awdwr ni mai dyma y cyfandir yr ymffrostia yr Ysbaeniaid mai Columbus a'i dargan- fyddodd gyntaf, gydag eithrio darganfyddwr Carthingaidd yn y flwyddyn 450 cyn Crist. Y mae Haklwyt yn dweyd iddo gael yr hanes gan un o'r enw Gytyn Owen, sef ei ddyddiadur, yr hwn oedd wedi gweled amryw law-ysgrifau oedd yn cael eu cadw yn guddiedig a dirgelaidd yn y mynachdai a Uyfr-gelloedd er dyogelwch, fel y byddent yn arfer yr amseroedd hyny.. Yn amser teyrnasiad y Frenines Elizabeth, yr hon a esgynodd i orsedd Prydain Fawr yn y flwyddyn 1558, yr oedd yn ddeaHedig yn holl gylchoedd lien a'r werin gyffredin, mai Madoc ddarganfyddodd America gyntaf; a Madoc oeddid yn anrhydeddu. Dywed yr hanesydd Ffrancaidd, "Hornius" yn ei Dt Orittinibus Americans: "Nid oes eisieu ond taflu golwg frysiog ar ffurf-gyflead y ddaear, na bydd i'r ymchwilyda gael ei lwyr argyhoeddi, mai ar y Cyfandir Ameri- canaidd y tirodd Madoc gyntaf, gan nad oedd tir wedi ei nodi allan ar fap y byd, tu draw i'r Ynya Werdd, ond Bermuda yn unig yn y flwyddyn 1650, a rhaid mai y Cyfandir Gorllewinol oedd y tir y gosododd y Oymro dewr-glodus ei draed arno, ac iddo ddewis naill a'i Virginia neuLloegr Newydd i ymsefydlu." Y mae yr un awdwr vn dweyd fod hen draddodiad yn rnhlith trigianwyr Virginia heddyw fod y bobl gyn- tefig yn addoli rhyw Madoc fel y penaf o'r gwroniaid. Peter Martyr, ysgrifenydd Llya Ferdinand, Brenin Spain, a gofnoda ar ddychweliad Columbus o'i daith orllewinol, i Columbus wrth dirio ar y cyfandir gael hyd i bobl dawel eu harferion, oeddent yn rhoddi anrhydedd anghyffredin i rhyw berson o'r enw Madoc. Y mae llyfr ar gael o'r enw Letters written bu a Turkish Splf. Awdwr hwn oedd ysgrifenydd y Llys Turkaidd yn amser Charles yr Ail, Brenin Lloegr. Dywed nad oedd terfyn ar diriogaethau Prydain yn America, a bod y Cyfandir mawr hwnw yn cael ei breswylio gan bobl yn siarad yr iaith Gymraeg. Hefyd, pan orchfygodd yr Ysbaeniaid Mexico, dywed iddynt gael eu synu yn fawr glywed am bobl oedd wedi bod ar ymweliad a hwy, sef y Mexicaniaid; fod y bobl hyny yn dysgu gwybodaeth am Dduw, a byd tragwyddol ac anfarwol! A'u bod yn hynod ddi- frifol gyda'u ffurfiau crefyddol; ac mae yr iaith Gymraeg oedd iaith gyffredin y bobl hyn; enwau Cyroreig oedd ar eu pentrefi, afonydd, mynyddoedd, a pliob math o greaduriad. Dywed y teithiwr a'r hanesydd, Syr Thomas Herbert o Loegr, yr hwn a deithiodd holl wledydd adnabyddus y byd tua'r flwyddyn 1626, fod Madoc ap Owen Gwynedd wedi tirio ar Ynysoedd Newfound- land yn y flwyddyn 1170, ac iddo hwylio yn ei flaen oddi yno nes cael hyd i'r Cyfandir Amercanaidd. Ac ychwanega mai Tywysog Gwynedd oeddyn haeddu yr anrhydedd o ddarganfod y Cyfandir Gorllewinol ac nid Columbus. Yn y flwyddyn 1740 ceir gohebiaeth yn y Gentle- man's Magazine, Llundaiu, am offeiriad o'r enw Morgan Jones, Cymro oedd wedi uiyned i'r America fel cenhadwr dan nawdd yr Eglwys Sefydledig, ac i Dalaeth Virginia yr aetb a bu yn gweithio yno fel cenhadwr o'r flwyddyn 1660 hyd y flwyddyn 1685. Ymhen tyinhor meddyliodd am roddi taith dipyn allan i'r wlad o amgylch; ac ar ol iddo ef a'r rhai oedd gydag ef fyned allan ychydig, daeth lluaws o Indiatd ar eu gwarthaf, daliwyd hwy fel drwg-weith- redwyr, neu hwyrach eu bod yn ysbnvyr a chynllwyn ganddynt er niwed ar ol gwneyd prawf o lionynt, penderfynwyd eu rhoddi i farwolaeth; ac wedi cyrhaedd y dienyddle, penliniodd Mr. Jones, yr offeiriad, ar lawr, a dechreuodd gyflwyno ei linn a'i gyfeillion mewn gweddi i Dduw, Creawdwrpob path, a hvny yn y iaith Gymraeg, a'r Indiaid yn gwrando, er deall hwyrach beth a dd'wedai. Yn ddisymwth gwaeddodd y Penaeth Indiaidd "Cymro ydi o, rhydd- hewch ef mewn moment." Bu Mr. Jones am tiedwar mis yn eu plith yn dysgu a phregethu yr Efengyl iddynt yn yr iaith Gymraeg. Eto, ceir hanes mewn hen lyfrau yn y Taleithau, am Indiaid CymrClg yn oynorthwyo i adeiladau am- ddiffynfeydd a ffurnau o weithiau, er dyogelwch iddynt rhag gelynion yr un dull a chynlltin a r rhai a geir yn Mhrydain, fel yr adeilad hwnw Stonhenge. Un Benjamm Sutton (Sais), yn y flwyddyn 1573 yr hwn a fu am flynyddoedd yn garcharor gan yr Indiaid, a ddywed iddo gael caniatad unwaith i ymweled a phentref Indiaidd gerllaw New Orleans, Talaeth Louisana ac ar ol cyrhaedd yno, yr oedd yr non drigolion yn bobl wynton tebyg i Sei!!on neu Gymry ac er ei fawr syndod cafodd allan mai Cymry pur o "waed coch cyfa" oedd yr oIl o'r trigolion yr oeddent yn cau o amgylch eu tyddynod. yn aredig a llyfni, a chodi ydau o wahanol fathau, a magu gwenyn fel yn Ngbymru. Wrtn fyned drwy daleithau New York, Pennsyl- vania, Virginia, a'r ddwy Carolinas, mor bell a Thalaeth Mississipi, sicrheir yr ymchwilydd mae y Cymry sydd wedi adeiladu yr amddiffyn-gaerau a'r gwerthyroedd sydd i'w gweled ar hyd a Ilea y tal- eithau mawrion hyny y inae ffurf-ddulliau y cau- gloddiau sydd o amgylch mynwentydd yn (Ira gwahanol i'r dull y mae y llwythau Indiaidd a'r Americanaidd yn wneyd wrth gau o amgylch eu claddfeydd hwy. Eto, yn y Wyoming Valley, lIe bu ysgrifenydd y llinellau hyn yn byw am 28ain o flynyddau, eaed wedi tori i lawr dderwen anferth mewn maintioli, oedd agos i 700 can' mlwydd oed, o'r tufewn iddi amryw offerynau wedi eu gwneyd o haiarn, mewn ffurfiau y gallant fod o wasaijaeth at amryw bethau a chaed chwech o fotyniau yn y goeden, ac arnynt ddarluniau arf-beisiau ao art- arwyddion yr hen Gymry felly, wedi eu gosod yno er y flwyddyn 1193. Yn Nhalaeth Ohio a Kentucky caed llestri pridd o wneuthuriad na wyr yr Indiaid na'r Aniericaniaid ddim am danynt, ac arnynt bob ma.th o addurniadau arferedig gan yr hen Gymry. Yn agos i Ddinas Marietta, Ohio, caed hyd i lafnau arian a chopor, a cherf-luniau arnynt fel cleddyfau llafn-llydan oedd gan Gymry yr oesoedd gynt; yr hyn a sicrha yr ymchwilydd a'r darllenydd nad yw yn ngafael y ciefyd peryglus hwnw, rnag- farn," i gredu y ffaith fod ein cenedl ni wedi dargan- fod a byw yn y wlad ganrifoedd cyn geni Columbus, yr hwn berson y pentyra holl genedloedd gwledydd gwar bob anrhydedd a fedd y bedwaredd-ganrif-ar- bymtheg i'w roddi arno. Yn y flwyddyn 1792, cawn hanes am un General Boweles, o dan Prydain, Penaeth Indiaidd, a fu ar ymweliad a Llundain ar ryw achos Indiaidd a holwyd ef yn fanwl gan amryw Gymry dysgedig a oedd ef yn gwybod am Indiaid oedd yn siarad yr iaith Gymraeg yn y wlad ? Atebodd yn gadarnhaol ei fod, ond fod yr enw Indiaid Cymreig wedi ei roddi iddynt o herwydd Iliw eu croen gan eu bod yn bobl wynion, Yna adroddasant iddo hanes Madoc a'i fordeithiau, pryd y d'wedodd gyda phwyslais, "Y mae yn sicr eu bod ar y Cyfandir Americanaidd, er ys canrifoedd, gan mor lluosog ydynt." D'wedodd am Gymro oedd wedi bod yn garcharor yn Mexico, iddo ddianc o'r carchar a chroesi y cyfandir nes iddo gyrhaedd lluaws o Indiaid oedd yn siarad yr iaith Gymraeg yn hyglyw Yn y flwyddyn 1764, ceir hanes am Gymro o'r enw Morris Griffith, oedd yn garcharor gryn amser gan y llwyth Indiaidd Shawanese; ac yn mhen amser gofynodd am ganiatad i fyned i fyny yr afon Missouri er cael allan ei tharddle. C'aniatawyd iddo ei gais, a rhoddwyd pump o wroniaid y llwyth i fyned gydag ef; ac ar ol ychydig ddyddiau o deithio, cyfarui a hwy dri o ddynion gvvyniou (coch-felyn ydyw iliw cyflfredin yr Indiaid) mewn gwisgoedd Indiaid, ond yn siarad yr iaith Gymraeg R l1, gdydd. Gan nad oedd ei gyfeillion yn deall dim am iaith yr Gymraeg, ni ddangosodd mai Cymro oo#c) ef i'r dynion gwynion. Aeth Morris Griffith a'i gyfeillion gyda'r ⢠tri dyn gwyn, nes iddynt ddod at bentrefi lawer yn llawn o bobl wynion. Yn union gyda bod Morris Giiftith a'i gyfeillion wedi dyfod iw plith, ofnwvd mai ysbiwyr oeddent yn bwriadu drwg, galwÿd holl swyddogion y llys yn nghyd er cael allan beth oedd bwriad y dieithriaid hyn yn dyfod trwy eu fwlad ac wedi cael yindriniaeth fanwl a theg ar vmddvgiad y bobl hyn, penderfynwyd eu rhoddi i farwolaeth gan eu bod wedi arfogi en hunain mor trvflym a clian fod Morris Griffith a'i gyfeillion yn t.resenol, cododd y Cymro ar ei draed a gofynodd, er ei mawr syndod, ganiatad .amddiffyn ei hun yn yr iaith Gymraeg, a rhoddodd eglurhad mor foddhaol iddynt beth oedd eu bwriad, nes y gorch mvnwyd eu rhyddhad yn union, a bod iddynt le yn eu mys^ hw y fel pobl ryddion cyhyd ag y myncnt. Bu y Cymro hwn a'i gyfeillion ddwy flynedd a haner cyn dychwelyd. Ar oj evrhaedd v He y daethant o hono. a rhoddi adrtKldia<l maitb a chynwysfawr, caTodd Morris Griflith ei rhyddhau, a chanddo ef y cafwyd jrr hanes. lf Ceir hanes ar hen Ivfrau yn Nhnlaeth Tenn^stt yu y flwyddyn 1782, fod y Cherokee Indians yn blino y sefydlwyr yn anghyffredin yu yr adeg hono, ap i Llywodr;K*tljwr Sevier^ w^di pnodj Cymraeis, henderfynu darostwng y llwyth gwrth- ( ryfelgar hwn a gorehfvgwyd hwy, a daliwyd eu penaeth a llawer eraill. Yn mhen tymhor ymwelodd y llywodraethwr a'r carchar lie yr oedd y Pena«th Indiaidd, a gosododd o'i flaen amryw ofyniadau. A c.id ef yn gwybod am Indiaid Gwynion yn y wlad ? Ateboda iddo glywed ei dad yn adrodd beth oedd ei deidiau yn ddwevd am yr Indiaid Gwvnion, #u bod yn hynod gywrain fel adeilad wyr amadiffynfeydd a mnriau celyd a chryfion, ac yn bobl ddiwyd a hedd- ychol, ao yn siarad rhyw iaith oeddent yn alw Cymraeg arni; a'n bod wedi croesi y Dyfroodd Mawrion a thirio vn agos i wddf yr afon Alabama, ond wedi myned i ranau mewnol y wlad. Eto, ceir adroddiad gan y Llywodraethwr Din- widdie, oedd yn governor a'r Dalaeth Virginia yn y flwyddyn 1753, fod Llywodraethwr Canada yr adeg hono ar ymweliad ag ef wedi clywed wrtho fod llawer o bobl yn Canada oedd yn cael eu galw yn Indiaid Cymreig, y nifer luosocaf yn byw ar lanau afon Sant Lawrence; a'u bod yn siarad yr iaith Gymraeg, a chanddynt lawer o law-ysgrifau yn cynwys hanes y genedl a phethau eraill. Yn y flwyddyn 1759 cawn hanes arall gan un Morgan Lewis, Cymro a fu yn llywodraethwr Talaeth New York wedi hyny. Ei fod wedi ei gymeryd yn garcharor yn amser ryfel Ffraiuc a Llocgr yn Canada, a hod llawer o Indiaid yn garcharorion yno hefyd, ac i Mr. Lewis ddeall mai Cymry oeddent, a siaradodd lawer a hwy yn yr iaith Gymraeg er ei syudod, er eu hod wedi llygru ac Indianeiddio llawer ar eiriau Cymreig. Y mae yr hanesydd Indiaidd enwog, Mr. George Catlin, yr hwn sydid wedi gwneyd oes o aatudiaeth galed er cael allan darddiad neu ddechieuady llwythau Indiaidd a'r Gyfandir America, yn dweyd ei fod ef wedi cael y fath nifer o brofion amlwg wrth ymdroi yn mysg y dynion cochion, fel y mae ef yn 11 wyr gredu mai rhan o fintai Madoc ap Owen Gwynedd yw y llwyth Indiaidd a elwir Mandan Indians, sydd yn trigianu yn bresenol tua South Dakota a glanau uchaf yr afon Missouri y maent o fantioli cyffredin, vn fwy goleu eu croen, ac yn hynod foneddigaidd eu nymddygiad. Dywed yr un awdwr eto fod graddau o sicrwydd i longau Madoc, rai o honynt, dirio tua glanau Florida, pen isaf y Cyfandir, a'u bod yn cael eu blino yn ami gan rai oedd yn lladron ar y moroedd, nes peri iddynt fyned i ranau mewnol y wlad a chael llonyddwch. Eto, y mae Mr. Catlin yn dweyd mai llygriad o'r enw Madawgys yw yr enw Mandans ac mai Cymry a ymfudodd yno ar ol mintai Madoc, ddechreuodd eu galw yn Madawgys, o herwydd eu hod yn anrhydeddu cymaint aV Dywysog Gwynedd; y mae esgym uchaf boch-gernau y llwyth hwn fel eiddo y Sais a'r Cymro, nid fel y ceir yn yr holl Iwythau Indiaidd, yr esgyrn yn uchel. Dywed fod gwallt a llygaid y llwyth hwn yn amrywio mewn Iliw fel y mae eiddo y Cymry, ac nid fel gwallt yr Indiaid yn grych ddu; y maent yn hoff o gadw harfau hirion, nid eu tori a'u cyllell yn fyr fel y gwna y llwythau eraill. Adeiladant eu tai o gerig a phriddfeini yn gyffredin, pan y mae yr holl Iwythau eraill yn byw mewn pebyll o canvas a phridd a'r cyffelyb; ac y mae hanes eu crefydd yn adiymwad brofi mai wedi llygru y maent, gan eu bod yn byw allan o'r byd gwaraidd; ac mae Crist'nogaeth, fel y gosodir hi allan yn y Beibl, oedd eu hunig ffurf-wedd grefyddol yn y dechreu. Hefyd, y mae holl seiniau iaith y llwyth hwn fel eiddo y Gymraeg, a thorfyna yr awdwr hwn, yn y iaith gryf%f, ei fod ef yn sicr yn ei feddwl ei hun mai disgynyddion Madoc ap Owen Gwynedd ydynt. Eilwaith, yn y flwyddyn 1820, ymweloddy dysgedig Dr. Morse, Ddinaa New York, n'r llwythau Indiaidd oedd yn y gorllewin, a chafodd gandiynt fel gwir- ionedd fod eu hen deidiau, oedd yn byw yn y flwyddyn 1781, wedi elywed y milwyr Cymreig oedd gan Prydain y pryd hwnw yn Amddiffynfa Chartres yn siarad Cymraeg a'r Mandan Indians, gan sicrhau y Doctor mai disgynyddion or genedl Gymreig ydoedd y Mandan Indians. Y mae miloodd o Americaniaid ac eraill sydd yn chwilio i mewn i deithi gwahanol ieithoedd y llwythau Indiaidd, yn dweyd fod olion mnlwg o ddylanwad seiniol a ffurf acenol yr iaith Gymraeg, fel gwaed byw drwy wythienau elfenol eu tafod- ieitheedd, fel enwau llwythan, personau, Ileoedd, afonydd, eof-arwyddion teuluaidd, cof-adeiladau, cof-feddrodau addurnol, a'r cyffelyb. Eto, yn y flwyddyn 1683, cyhoeddodd y teithiwr enwog, Syr Thomas Herbert, daflen faith o'r tebyg- eiriau sydd yn nhafod-ieithoedd Indiaid y Cyfanrlir- i eiriadaeth yr iaitb Gymraeg fel eu gwreiddiau a'u dechreuad. Y mae y daflen yn rhy faith i'w gosod ger bron yn bresenol, gyda ohrybwyll un dosbarth o enwau wedi eu IIygru, fel Mandans o'r enw Madawgys, Mattox o'r enw Mattoc, a Mattoc o'r enw gwreiddiol y gwir enw Madoc. Wrth edrych dros yr holl dystiolaeth a aodwyd, a hyny ar wahanol adegau a than wahanol amgylch- iadau, yr ydym yn hawlio, ar dir profion a ffeithiau, Bad oes anmheuaeth yn eu cylch, luaws o honynt na chafodd ein cyd-drefwr parchus a'r lienor dysgedig, y diweddar Mr. Thomas Stephens, un fantais i ddod o hyd gafael iddynt yn ei amser ef, ond sydd erbyn hyn wedi eu cael ar ol gorwedd yn guddiedig fel hynaf- iaethau, gan y naiil genedlaeth ar ol y Hall neu buasai Mr. Stephens nid yn gwadu y ffaitn fel gwirionedd wedi ei brofi, pe buasai wedi eu cael mown amser eyfaddas. Ac wrth derfynu yr ydym yn llwyr gredu mai y Tywysog Cymreig, Madoc ap Owen Gwynedd, a ddarganfyddodd y Cyfandir Americanaidd gyntaf, a hyny yn y flwyddyn 1170. A.D. a choroner coffad- wriaeth v Cymro gwrol-frydig hwnw, a'r anrhydedd sydd yn ddyledus iddo. Y gwir yn erbyn y byd."

ICHILDREN LEAVING SCHOOL.

ALLEGED LIBEL AT DOWLAIS.

IARTHUR LINTON.

,THE ROADS IN DOWLAISI COLLIERIES.I

A TREAT TO ABERDARE INDUSTRIAL…

THE •< RAILWAY REVIEW "…

MERTHYR LICENSED VICTUALLERS…

THE TREHARRIS COLLIERY CASE.…

Advertising