Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

• SWPER FLYNYDDOL SWYDDFA…

News
Cite
Share

• SWPER FLYNYDDOL SWYDDFA Y 1 "GWLADGARWR." Nos Iau diweddaf, y 4ydd cyfisol, y cymer- odd y wledd flynyddol hon le yn ein swydd- fa. Y mae yn arferiad er's blynyddoedd lawer gan deulu caredig y GWLADGARWR i roddi gwledd i staff y swyddfa a'u teuluoedjd, heb anghofio hyd yn nod d—1 y wasg. Am wyth o'r gloch eisteddodd rhyw 26 oddeutu y ford, yr hon oedd wedi cael ei harlwyd a danteithion goreu y tymor. Yn ychwanegol at staff y swyddfa, cawsom y pleser eleni o gwmni ein gohebydd o L'erpwl, yr hwn a ychwanegodd yn fawr at ddyddordeb y wledd. Wedi i bawb gael eu gwala a'u gweddill o'r gwyddau, y beef, y plum-pudding, &c., sym- udwyd y ford er cael myned yn mlaen a'r rhan arall o'r wledd. Cymerwyd y gadair gan Mr. Llwyd, y meistr, ei hun, yr hwn yn ei anerchiad a wnaeth sylwadau dyddorol ar gylch bychan y staff, gan fyned rhagddo a chymeryd golwg ar sefyllfa gymdeithasol y wlad a'r byd yn y flwyddyn a aeth heibio. Oni buasai fod arnom ofn gormesu ar ofod y GWLADGAKWB., rhoddasem i'n darllenwyr grynhodeb o'i anerchiad, ond boddlonwn ar roddi un sylw yn unig o'i eiddo, yr hwn a wnaeth yn ei gyfeiriad at sefyllfa grefyddol y byd. Pan yn sylwi ar Babyddiaeth, dywedodd fod yr hen grefydd hono wedi cael ei siglo hyd ei sylfaeni. Fod yr hen Bab yn y blyn- yddoedd a aethant heibio wedi rhoddi ei fen- dithion goreu ar benau coronog Spain, Ffrainc, a Mexico, tra yr oedd wedi cyhoeddi ei fell- dithion trymaf yn erbyn Victor Emmanuel; ond ei bod yn amlwg erbyn heddyw mai MIdldithion y Nefoedd oedd yn canlyn ben- dithion y Pab, a bendithion y Goruchaf yn di- lyn melldithion ei Santeiddrwydd o Rufain. Fod Maximilian o Mexico, yn fuan wedi der- byn y fendith o Rufain, wedi cael eilofruddio gan y gwrthryfelwyr penadures orthrymus Spain wedi gorfod dianc am ei heinioes i Ffrainc, tra y mae Amerawdwr Ffrainc, yntau druan, wedi ffoi am noddfa i'r wlad hon ond am Victor o Itali, ei fod wedi llwyddo i gyfuno ei deyrnas, ei fab wedi ei ddewis i orsedd wag Spain, a'i ferch wedi cael ei gwneud yn frenhines Portugal, tra yr oedd yr Hen Dad Anffaeledig yn garcharor yn ei dy ei hun yn Rhufain. Cafwyd anerchiad priodol i'r amgylchiad gan y Cymro Gwyllt, a chan un neu ddau o staff y swyddfa. Cawsom ein hanrhegu hefyd ag amryw ganeuon yn ystod yr hwyr, a rhai a roddasant foddlonrwydd mawr; ond yr hyn fin synodd fwyaf o ddim oedd clywed d-l gcyglyd y wasg, dan effaith saim gwyddau Penderyn, yn canu mor eosaidd Wedi talu diolchgarwch i'n meistr a'n meistres am eu caredigrwydd a'u teimladau da, ac hefyd i'n gohebydd a'n cyfaill ffyddlon, Preswylydd y Gareg, am ofalu am wyddau ieuainc a bwyt- adwy, diweddwyd y wledd hon ychydig cyn haner nos trwy ganti "Duw gadwo'r Fren- hines." Ar ddiwedd anerchiad Ossian Dyfed, yr hwn sydd yn perthyn i'r swyddfa, cafwyd y penillion canlynol :— 0 Wynfa diayyned bendithion yn Ilu I deulu Llwyd siriol a'i gydmar tra chn, Boed cysur yn eiste d ar i.rsedd eu bryd, A llwyddiant yn goron eu gwetthiau i gyd. rr lan a'r Gw ADGAKWR, a b 'dded yn ben Papyrau hen Walla-tra haul yn y nen Ymladded yn wrol dros ryddid eln gwlad, Gwrths fel f 1 Hector bob gormes a brad! Yn barchus bo teulu'r GWLADGARWK 0 hyd— Yn barchtis tra'r Cynon yn suo'n ei chr d- Yn enwog tra careg yn nghrombil y graig— Yn glodfawr tra gwendon ar fonwes yr aig! A phan y radawont y ddaear ar ol, O! dyged en Ceidwad hwy'n ddlogel i'w gol, I chwyddo y fawl-gerdd berseiniol i'r Duw A'n eadwodd tra yma'n yr aniai yn byw. Hir oes apharch a llwydd i bawb drwy'n gwledd, A dwyfol nodder Cymro"* hyd ei fedd A llawer "blwyddyn newydd" lawn o swyn A gaffom oll-nes glanió'n Nghànaanfwyn. Cymro Gwyllt.

EISTEDDFOD YR ALFFREDIAID,…

BRYNAMAN A DIRWEST.

[No title]

Advertising

[No title]

AT GLEIFION ABERDAR, MERTHYR.…