Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Y TEULU GORTHRYMEDIG. i

News
Cite
Share

Y TEULU GORTHRYMEDIG. i < PENOD XVII. Hopcyn, cyn sibrwd y ffarwel olaf wrth ei gydymaith, yn ei ateb nad oedd neb wedi clywed siw na miw am yr hen gerbydwr ffoedig, er fod Wilson wedi anfon allan ;gwmni o gwnstabli i chwilio am dano. Gadawn y gwedclill o helynt yr angladd, gan roddi tro tua'r Ynys, cyn dychwelyd eto at ddygwyddiadau ereillperthynol i'r Hafod. Eilnos wedi'r angladd bu Dafydd Jones, o'r Hafod, ar ymweliad yn yr Ynys, ac yn hysbysu i Mari am haiarneiddiwch yr hen Wilson yn yr angladd, a'r erlyniad a dde- chreuai yn erbyn yr hen gerbydwr anffodus; ond cyn ymadael datguddiodd iddi gyfrin- ach arall mwy pwysig. Dywedodd fy nhad wrthyf am eich hys- bysu yn gyfrinachol am un weithred arall o eiddo yr hen Wilson, neu dric melldithiol a gyflawnodd pan oedd Miss Annie dan ei chrwys;" ond cyn fod Dafydd wedi cael hamdden i orphen y chwedl, gofynai Mari yn ddiamynedd gwyllt,— 0! Dafydd, ai rhywbeth am Llewelyn yw'r ystori?" "Ie, Mari, (hithau yn gwylltu mwy, gan ddal ei hanadl yn ofnus), dywedodd Mary Ann fod Wilson wedi cael llythyr oddiwrth Llewelyn wedi ei gyfeirio i fy nhad, a'i fod wedi ei gadw yn ddirgelaidd ac anghyfiawn." O! 'r bradwr mawr, cadw llythyr Llew- elyn. Beth a wnawn i'r fath anghenfil uffernol a hwn ? Byddai ei hyrddio allan o fodolaeth yn gospedigaeth llawer rhy ysgafn iddo!" Do, Mari, daeth llythyr yn letter bag y Plascoch, a dywedai Mari Ann wrth fy nhad fod rhyw secret neillduol ynddo; ond nis gwyr Mrs. Wilson na Johnny ddim am dano, a gorfu ar fy nhad fyned ar ei lw i Mari Ann, y forwyn, na fyddai iddo ef byth amlygu y peth i Wilson, rhag iddi gael ei hesgymuno a'i herlid o'r herwydd." Mari Davies yn rhodio yn haner gwall- gofus oddiamgylch yr ystafell, ac yn gwasgu ei dwylaw yn mhleth, a gofyn,- "Beth i wneud o hyn? O! rhoddwn y bydysawd am gael un golwg eto ar Llewelyn, ac am gael ysgwyd llaw ag ef. Nid oes dim o'r bai ar Llewelyn ffyddlawn. Y mae efe yn rhy onest ei galon i wneud twyll na ffugio cariad! Fel y mae byw yr Arglwydd, a byw fy enaid inau, mynaf eto ddial cam Llewelyn ar yr hen gnaf o'r Plascoch! Er nad ydwyf ond merch, yn perthyn i'r ystlen wanaf, y mae genyf galon o fy mewn, ie, calon sydd yn medru cam ac anwylo y dyn ffyddlawn fel fy enaid fy hun, ond a fedr ddial cam ar y gorthrymydd anghyfiawn, a sefyll yn nghanol peryglon angeu ei hun er melldigo erlidwyr fy anwyl Llewelyn!" "O! Mari, y mae yndrueni mawr fod dau mor anwyl a chwi wedi cael eu hysgaru oddi- wrth eu gilydd. Y nefoedd fawr a dosturio wrth eich sefyllfa, ac a ddygo Llewelyn adref. Bachgen ardderchog oedd Llewelyn. Ni sangodd cywirach mab y ddaear erioed. Mari anwyl, y mae fy enaid yn glynu wrth bawb o hoffwyr fy ffyddlawn frawd." Rachel Davies ei mam yn dyfod i'r ystafell i gymhell Mari i'r gwely, ac yn cynyg llety i Dafydd os ewyllysiai ynteu aros; ond Dafydd yn hysbysu fod gwaith y Cwm yn dechreu yn foreu, a bod rhaid iddo ynteu fod gartref y noson hono, er gallu cyd-ddechreu a'r gweith- wyr ereill tranoeth. Dafydd yn ymadael, a Mari yn brysio idd ei hystafell wely; ond er myned i orphwys, a chynyg ei hun i fynwes cwsg, yr oedd cwsg wedi cymeryd ei aden i ffwrdd, a hithau yn cael hamdden flinderus i adfyfyrio ar helynt- ion y dydd a dygwyddiadau ei hoes. Codai yn ei heistedd, edrychai o gwmpas, ac ymsoniai yn bruddglwyfus,— "I beth yr wyf yn ceisio byw i ymboeni yn adfydus fy nghyflwr fel hyn? Nid wyf yn ymofyn byw wedi colli fy Llewelyn. Croesawn genad angeu fel fy nghymwynasydd tosturiol! Ond os marw wnawn, i ba le yr ehedai fy ysbryd cystuddiedig ? Os na fyddai iddo gael gwneud ei drigfa gerllaw Llewelyn, byddwn drachefn yn annedwydd, ie, anned- wydd am byth! Marw! Beth yw marw? Newid sefyllfa-nid peidio byw; ond dywed rhai mai peidio bod, neu ddiflanu allan o fodolaeth ydyw marw. Pe na chawn weled Llewelyn, carwn gael fy hyrddio allan o fodolaeth, a suddo i for ebargofiant tragy- wyddol!" Y ci yn udo allan-udo bron yn ddidaw, a Mari hithau yn clustfeinio ac ymson,- Gelert bach, beth sydd yn dy flino dithau fel hyn? Pa ryfedd fod dyn yn ofidus ac annedwydd ei gyflwr pan y mae yr anifail felly? Gallwn dybio fod gofid a blinder yn cyd-deyrnasu yn oruchaf dros bob dyn ac anifal dros wyneb y ddaear; ond cofiwyf i mi fod unwaith yn rhydd o lyfetheiriau gofid a siomedigaeth, pan y medrwn ymbrancio mor hoenus ag oen y gwanwyn pan yn mwyn- hau ei hun ar un o lethrau porfaog a chys- godol y Mynydd Du!" Mari yn ceisio taflu ei hun eto i freichiau cwsg, ond yn aflwyddianus, gan fod cwsg, yn debyg i'r hen Wilson, wedi troiyn ei herbyn, syrthiodd drachefn i'w hymson, arferiad ag .sydd mor dueddol i bersonau yn cael eu blino gan ymweliadau y pruddglwyf. "Gelert, a wyt tithau yn galaru ar ol Llewelyn fel finau? Yr oeddech yn ffrynd- iau mawr gynt; ond a ydyw yr athrawiaeth hono a ddywed fod cwn a cheiliogod yn gweled drychiolaethau angladdol yn wir'? Dyna'r ceiliog eto yn canu. Rhyw noswaith ryfedd yw hon; nid oes taw ar y creaduriaid gwirion. Beth os mai rhyw arddangosiad o'm blaen i yw hyn oil? Ni fyddaf byw yn hir heb gael gweled Llewelyn. Nis gallaf Eyw heb gael ei weled ef, y ffyddlawn fab :md mynaf fyw ychydig amser er cael gorphen dial cam Llewelyn, er cynorthwyo i lanw cwpan digofaint yr Arglwydd yn erbyn yr hen Wilson." Yr eneth drallodus yn hepian dros rai mynydau, ac yna yn deffro yn wyllt drachefn, a gofyn yn bryderus,- Ai Llewelyn, fy anwylyd, a glywaf yn agor y drws, ac yn dyfod i fewn ? Llewelyn anwyl, tyred i fewn yn fentrus y mae yma roesaw calon i'th dderbyn. Na, na, nid efe sydd yn dyfod. Y gwynt a glywaf yn ys- twrio! Nid oes gobaith am gael gweled ei wyneb siriol ef tra bydd byw y cnaf o'r Plas- coch. Y mae efe fel rhyw ellyll daneddog rhyngwyf a Llewelyn; ydyw, neu yn gyff- elyb i sugndraeth llongddrylliog rhyngddo ef a chyrhaedd yr Y nys Ail godai yn ei heistedd gyda bwriad o gyneu y ganwyll, ond anghofiodd ei bwriad. Yn ei myfyrdodau dwfndreiddiol, gofynai,- Ai gwir fod ysbrydoedd y meirw yn gallu aflonyddu ar y byw? Ie,' meddai rhai; ond gwir ai peidio, os yw ysbryd y byw yn gallu aflonyddu yn oriau cwsg ar ryw hen gymeriadau aflan fel Wilson, Plascoch, boed i fy ysbryd inau heno dros y gweddill o'r nos i fod fel ellyll dialgar yn ei wylio oddiam- gylch i'w wely. Poeraf yn ei wyneb mewn dygasedd, ysgyrnygaf yn hyll o flaen ei wyneb, ac adgofiaf ef o'i fam fileinig a fy anwyl Llewelyn! Dichon fy mod yn myned yn rhy bell, ond maddeuer i mi os felly, gan nad oes unrhyw gosbedigaeth yn ormod i'r hen ellyll o'r Plascoch am ei droseddiadau gwaedfawr!" Yna gydag ochenaid brudd, ymollyngodd i freichiau caredig cwsg, yr hwn a frysiodd yn mlaen i'w derbyn. Nos dranoeth wedi i Hopcyn ddychwelyd adref o fod yn gweithio ger y palas, dywedai yn frysiog wrth Gwenllian a'r teulu,- "Y mae yr hen Wilson, er ei holl ystranc- iau, yn methu a chael fawr lonyddwch yn ystod oriau cwsg. Dywedai Tom y valet wrthyf boreu heddyw fod rhywbeth ofnadwy yn aflonyddu ar ei feistr neithiwr-ei fod yn credu fod rhywun gydag ef yn yr ystafell y rhan fwyaf o'r nos. Canodd y gloch ar Tom am ddau o'r gloch yn y boreu, yr hwn a frysiodd i mewn ato er chwilio yr ystafell; ond cafwyd fod y drysau yn gloedig, a phob peth yn all right. Galwodd Wilson arno drachefn cyn tri o'r gloch ond er chwilio yr ystafell eilwaith, cafwyd fod pob peth yn ddyogel. Gwenllian yn gofyn gyda gwen bryderus,- Beth allasai fod yn blino yr hen gnaf? Rhaid mai ei hen gydwybod euog oedd wedi deffroi am unwaith yn ei fywyd. Pe caffai ei aflonyddu [bob noswaith yr un fath, dichon na chaffai gymaint o hamdden i astudio ei gynlluniau drygionus yn erbyn ei gymydog- ion." Credai Wilson fod yr ail ddialydd wedi talu ymweliad ag ef. Ymddangosai yn ddrychiolaeth frawychus o'i flaen, a phan amcanai efe i gau ei lygaid yr oedd yn ei aflonyddu trwy ei ysgwyd, a choffai iddo ei ystranciau direidus," atebai Hopcyn. Nid yw Wilson, er ei holl fawredd, yn mwynhau ond ychydig o hawddfyd. Ond pa ryfedd, canys dywed y gyfrol santaidd, Ffordd y troseddwr sydd galed." Pe caffai gormeswyr drygionus fwynhau eu pleserau yn ddirwystr, a chael yr oil yn eu ffordd eu hunain, ni fyddai terfyn ar eu gweithredoedd ystranciog yn erbyn y bobl dlodion," meddai Dafydd yr Hafod. "I'r gwely, fechgyn," gwaeddai Gwenllian; "cofiwch fod yn rhaid codi yn foreu; rhaid cael arian o rywle, gan fod genymfills trym- ion i'w talu. Yn wir, mam," atebai Dafydd, "er codi yn foreu a gweithio yn hwyr, bach yw'r enill wedi'r cyfan; maent yn son am ostwng pris yn ngwaith y Cwm, er fod fy nhad yn darllen yn y Cambrian fod pris y glo yn codi. "Y mae Roberts, glofa'r Cwm, yn ym- ddangos bron cymaint o ormeswr a Wilson ei hun; nid oes modd digoni ei raib am arian," sylwai Hopcyn mewn teimlad cyn- hyrfus. 0, ie, Hopcyn, yn awr y cofiais i fod Mr. Jones wedi anfon bill am ysgol Rhys a Gwilym. Yr oeddwn i yn meddwl fod Wilson yn talu fel yr addawodd." Gwenllian yn estyn y bill idd ei phriod, ac ynteu yn ei hateb,- "Do, addawodd dalu am eu hysgol eu dau, ond dyma'r ysgolfeistr yn gofyn y ddau chwarter yn llawn oddiwrthym ni; dyma sylw yn y godreu fod yn rhaid talu yn fuan. Och! Wilson, twyllwr a gormeswr yw efe o hyd." Curo wrth y drws, a mab Richard, Ty- mawr, yn estyn papyr i mewn, a Hopcyn yn cydio ynddo yn grynedig.

Advertising

YSGOL FRYTANAIDD Y PUMP HEOL,

TEITHIAU YR HEN BACMAN. :

Advertising

BRYNFERCH A BEIRDD LLANELL