Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

SPAIN.

News
Cite
Share

SPAIN. Y mae y Cadfridog Prim, mewn atebiad 5 gynrychiolaeth a ddaeth ato, wedi hys- 'bysu nad ydyw Llywodraeth Spain wedi myned i unrhyw gytundeb gyda unrhyw Tint o'r ymgeiswyr am goron Spain, ac nad ydys hvd yn hyn wedi cymeryd y pwnc dan ystyriacth bwysig. Dysgwylir y bydd i Gyn-frenhines Spain gyracdd Paris ar yr 8fed neu y 10fed cy- fisol. Yr ydys wedi cymeryd dau dy yn barod iddi, y rhai a berchenogir gan hen foneddiges ryfedd. Y mae wedi bod yn ymddangos fel pe yn barod i osod y tai allan, end y mae ei phris bob amser mor uchel, fellJud oedd neb byth yn eu cymer- yd. Modd bynag, y maent yn awr wedi cael eu cymeryd gan oruchwylwyr y cyn- Frenhines am y swm o J6440 y mis. Nid ydyw crefydd yn Spain, er ei bod wedi colli cryn lawer o'i gofalwyr gwryw- aidd, yn debyg o golli ei boll gynorthwy mewn awr o gyfyngder. Y mae dros 500 o foneddigcsau wedi deisebu Llywydd y Cyngor i gadw i fyny yr holl sefydliadau a'r eglwysi, y rbai oeddynt wedi eu neill- duo i ddinystr. Nid oes ambeuaeth nad oes yno allu crefyddol Pabaidd cryf, ac er Bad ydyw wedi dangos ei hun yn amlwg hyd yn hyn, y mae hyny yn dangos nad ydyw ond yn dysgwyl am adeg gyfleus i "Wneud hyny. Mewn canlyniad i esiampl Lloegr a Efrainc, y mae Prwssia ac Italy wedi cyd- aabod Hywodraeth chwyldroadol Yspaen. Y mae llysgenhadon y llywodraethau hyn a Sen or Lorenza, yr Isgnienydcl lramor. Y mae y cynrychiolydd Pabaidd hefyd wedi awgrymu y bydd i lys Rhufain gyd- uabod y llywodraeth newydd yn ddioed. Y mae yr "hen lane" yn ddigon call yn ei genedlaeth-y mae bob amser yn hoffi bod gyda y blaid fyddo yn enill. Y dydd o'r blaen yr oedd Isabella oil yn oil ganddo, ac anrhegodd hi ag arwydd neillduol o'i barch tuag ati; ond erbyn heddyw, y mae Isabella wedi colli ei choron, ac y mae Pio Nono am gymeryd mantais ar y cyfleusdra cyntaf i gydnabod ei gelyn yn llywodraeth gyfreith- lawn. Dyna arfer y byd erioed, ac ym- ddengys nad yw yr "hen lane" o Rufain ddim yn eithriad i'r rheol.

AMERICA.

INDIA.

RHUFAIN".

— ETHOLWYR SIR GAERFYRDDIN.

Advertising