Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

AT ETHOLWYR ANNIBYNOL BWRDEISDREF…

News
Cite
Share

AT ETHOLWYR ANNIBYNOL BWR- DEISDREF UNEDIG MERTHYR TYDFIL, YAYNOR AC ABERDAR. FONEDDIGION .-Gan fod Ty y Cyffredin wedi cyduno yn unfrydol i roddi i'n Bwrdeisdref ail Gynrychiolydd, gellir ystyried fod y mesur cyfiawn hwn wedi ei sicrhau ac wedi'm cefnogi gan geisiadau mor foddhaol, y rhai a dderbyniais oddiwrth gyfranmor fawr a dylanwadol o'r etholiadaeth, anturiaf yn y modd mwyaf parchus i gynyg fy hun fel ym- geisydd i'ch cynrychioli yn y Senedd yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf. Goddefwch i mi, yn y dull mwyaf diffuant, i ddiolch i chwi am eich cynygion caredig o gynorthwy. Yr wyf wedi byw yn eich mysg er fy machgendod. Mae genym y fantais o adnabod ein gilydd yn bersonol; mae ein Iles lleol yr un ac y mae genym gydwelediad cyff- redinol mewn pethau gwleidyddol. Yn rhyddfrydig fel fy nheulu o'm blaen, mae ein hen arwydd-air o "Ryddid Gwladol a Chref- yddol" yn anwyl iawn i mi ac os dychwelir fi fel eich cynrychiolydd, bydd i mi gynorthwyo, ar feserau cyffredinol, y blaid fawr Ryddgaro], gan gadw i mi fy hun yr hawl i bleidleisio ar faterion neillduol, fel y byddo hawliau fy etholiadaeth yn galw. Nis gallaf o fewn cyleh yr anerchiad byr hwn, ond cyfeirio at ychydig o'r nifer luosog o'r gwelliantau sydd yn angenrheidiol er cadw ein gwlad yn mlaen-gad gwareiddiad, ond gan gyfeirio at fesurau o ddyddordeb amlwg, byd'd i mi gefnogi y TUGEL, fel moddion i amddifyn yr etholwyr hyny sydd yn sefyll mewn angen am y cyfryw wrth arfer eu hawl gyda y bleidlais. Bydd i mi gefnogi pob mesur o duedd i ryddhau masnach, a chwbl ddiddymiad y trethi ar holl angenrheidiau bywyd. o Gan fy mod yn teimlo dyddordeb union- gyrchol yn llwyddiant masnach yr holl wledydd gwareiddiedig, ystyriaf ddiogeliad heddwch, nid yn unig fel y fendith genedlaeth- 01 fwyaf, ond yn ffynonell cyfoeth naturiol a dedwyddwch teuluaidd. Bydd i mi, gan hyny bob amser, deimlo yn falch i gydweithredu a'r cyfryw a ddymunant i ymrafaelion rhwng cenedloedd gael eu penderfynu trwy gyf- lafareddiad. Gan ystyried gostyngiad y trethi, meddyl- iwyf y dylai ein sefydliadau milwrol a morwr- ol gael eu had-drefnu, fel ag i sicrhau y ifyniant mwyaf, yn gydweddol ag effeithiol- rwydd y gwasanaeth a dyogelweh yr hawliau Amherodrol. Gan edrych ar urddasolrwydd dynoliaeth, gobeithiwyf y bydd i'r Senedd, ar adeg agos, ddiddymu defnyddiad y ffrewyll i'r cyfryw, gwroldeb pa rai sydd wedi cadw an- halogrwydd ein gwlad, a sicrhau diogelwch in cartrefleoedd. Tra yn dal wrth wir egwyddorion yr Eglwys Sefydledig, yr wyfyn awyddus am y cyfnewid- iadau angenrheidiol hyny, pa rai, tra yn diogelu pob gwir hawl, a dueddant i gynyddu lies mawr y Sedydliad, ac felly ei wneud yn fwy derbyniol i bob dosparth o'n cyd-ddynion. Er hyny, tra yn penderfynu diogelu cyfiawn- der y Sefydliad, teimlwyf ei bod nid yn unig yn fraint ddylai gael ei chaniatau, ond mai hawl pob deiliad yn y Deyrnas hon yw mwynhau perffaith ryddid crefyddol. Yn gyson a'r egwyddorion hyn, meddyliwyf y mae llwyr ddiddymiad Y DRETH EGLWYS symudiad ymaith bob rhwystr oddiar lwybrau Anghydffurfwyr yn ein Prif-ysgolion, ac addysg leygol pob plentyn yn y deyrnas, yn rhydd oddiwrth ddysgeidiaeth egwyddorion sectaraidd. Rhydd hyfrydwch i mi gynorthwyo i ddyfeisio moddion priodol er symud beichiau a effeithiant ein cyd-ddeiliaid Gwyddelig, ac felly i ddwyn i'w cartrefleoedd lwyddiant, boddlonrwydd, a dedwyddwch. Bydd i mi gefnogi pob Diwygiad Cyfreithiol angenrheidiol, er symleiddio a gwellhau gweinyddiad cyfiawnder. Gan deimlo dyddordeb mawr yn ngweith- rediadau llaw-weithyddol a defnyddiad' Cyfalog (Capital), yr wyfyn rhwym o ddiogelu cyfanrwydd cyfoeth ond gan fod ein holl Iaw-weithfeydd yn ymddibynu ar y gweith- iwr, byddaf yn barod i sicrhau i lafurwaith bob hawl deg a chyfreithlon. Fel hyn, tra yn ofalus i ddiogelu egwyddor- ion y Cyfansoddiad, a'r holl ddaioni sydd yn- ddo, mi a symudwn ymaith yr hyn sydd ddrwg, gan ddwyn i mewn y fath welliantau ag a fyddont yn tueddu at ddeddwyddwch yr oil. Er cyhoeddiad yr Anerchiad uchod, mae rhai o'r mesurau Cyhoeddus, cyfeiriedig atynt fel yn cael fy nghefnogaeth, naill ai wedi eu cario neu wedi eu symud yn mlaen gan weithrediad Seneddql. Yn mhlith y cyfryw mae pwnc pwysig y DRETH EGLWYS. Ar ol hir wrthwynebiad, mae gelynion cynydd a gwelliant wedi eu hargyhoeddi i roddi i fyny yn ddiamodol y tolliad atgas hwn. Eto, mae blaenor y blaid Ryddfrydig wedi cynyg mesur er symud yr ormes gysylltiedig a'r Eglwys Sefydledig Wyddelig, ag sydd yn dderbyniol i gorff mawr y bobl yn yr Iwerdd- on ac i argyhoeddiadau yr holl ddynion pwyllog trwy y Deyrnas Gyfunol. Yr wyf fi yn galonog yn cyduno yn yr ymdrech bresenol i ryddhau miliwnau o ddeiliaid y Frenhines oddiwrth Sefydliad Gwladol, er pa mor deilwng bynag oedd dybenion ei gefnogwyr, sydd wedi dyfod yn atgas i'r genedl i ba un y cafodd ei fwriadu. Meddaf yr anrhydedd o arwyddo fy hun, eich ffyddlon a'ch ufydd was, RICHARD FOTHERGILL. Ty Abernant, Aberdar, Gor. 16, 1868.

AT ETHOLWYR SIR GAERFYRDDIN.

BWRDD Y GOLYGYDD.

TALIADAU.

[No title]

YSGRIW 0 FATH NEWYDD.

BEIRDD A BARDDONIAETH.

[No title]

CAN I R. FOTHERGILL, YSWAIN.