Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

LLOFFION 0 LANELLI.

News
Cite
Share

LLOFFION 0 LANELLI. Y Berw Etholiadol.-Y mae y byd Pry- deinig yn y berw hwn dros ei ben a'i glustiau Fe ddywed rhai, fod digon o'r lol yma wedi lleawi colofnau y newyddiaduron bellach. Y mae'n amheus genym hyny. Berwi wna'r crochan tra tan dano. Tyner y tan odditano, hwyrach y dderfydd y crochan a'i ferwi! Neu ynte, mewn geiriau ereill, symuder yr achos, yna fe dderfydd yr effaith. O'm rhan fy hun, nid wyf yn meddwl fod genym ham- dden i gysgu fynud awr, hyd onid el yr aflwydd hwn heibio. 0 bosibl, mai rhy ddifater yr ydym ni fel Rhyddfrydwyr—meddwl fod y fory fel heddyw, a gwell o lawer iawn. Nid felly yn gywir, oblegyd y mae ein gwrth- wynebwyr wrthi ddydd a nos-wrthi a'u holl egni. Tra yr ydym ni yn cysgu, fe ddaw y gelyn ddyn, ac fe haua efrau yn y maes Y mae sir Gaerfyrddin dros ei phen a'i chlustiau yn y dwymyn hon-yn ymladd a'i holl egni i gadw'r gelyn rhag dyfod i'r castell. Gwir fod y gelyn yn gwylied, ac yn ysbio yr oil o'r pyrth a gwae ni pe y cei un o'r pyrth yn agored, a dyfod i mewn ac enill tref man soul! Pa gyfrif a allem roddi am ein hym- ddygiad, ond ein bod wedi cymeryd nap- myned i gysgu. Y mae y gelyn allan yn y sir hon, yn taenu pob celwyddau, a llunio pob math o straeon y sydd yn ddichonadwy. Nid ydyw Llanelli ar ol yn ei gweithgarwch, a bywiogrwydd am ei rhyddid, i ereill o drefi Cymru. Y mae genym ymgeisydd wrth fodd ein calon, yn mherson Edward John Sartoris, Yaw. ond cofier gyda Haw, fod ei wrthwy- nebwyr yn ei ddiraddio, ac yn ceisio ei ddrwg- liwio ond ni'n dawr, daw i fewn fel tywysog -fe1 y Cymro aiddgar a gwladgarol Mr Henry Richard dros Ferthyr ac Aberdar. Onid yw yn resyn na allai ein gwrthwyneb- wyr ymladd eu brwydrau yn deg, heb amcanu niweidio eymeriadau a lladd dylanwad ? Ond gan na wneir pob peth yn ngwyneb haul a llygad goleuni-gan na chawn gyfiawn- der, a chwareu teg oddiar law y gelyn, dylem ei wylied yn ddifrifol, a chwythu yn yr ud- gyrn, nes y byddo ein baner yn cyhwfanu, ac yn chwifio ar y twr, yna, gallwn yn ddiberygl roddi hun i'n hamrantau. Y mae gwyr lien sir Gaerfyrddin yn ben- derfynol o arfer eu dawn a'u dylanwad, hyd yr 20fed o'r mis nesaf, pan ydym mewn gwir ddiogel obaith yn dysgwyl sefydliad Rhyddid yn y tir, a thrais a gormes wedi eu taflu fel maen melin i'r mor. Y mae yn ddifyr gweled dynion o ddysg a dawn yn ymostwng cyn iseled a cheisio prynu votes. Gwneir hyny gany Toriaid. Ni ddysgwylid hyn braidd oddiwrth y dyhirod mwyaf digymeriad yn ein gwlad, chwaethach dynion o ddygiad da i fyny. Yr ydym yn gobeithio y bydd i bob Ymneillduwr a Rhyddfrydwr sefyll, hyd yn nod y stanc, yn nydd y brofedigaeth hon a pheidio gwadu eu hegwyddorion er mwyn gwen neu lai na hyny. Y mae gan Mr Sar- toris ganoedd lawer o blumpers a safant yn ddigryn. Y mae y frwydr yn poethi bob dydd, fel y mae y ddwy fyddin yn nesu at eu gilydd. Mor.ogoneddus ydyw gweled cadfridogion y byddinoedd yn trefnu eu catiodau i ryfel-yn calonogieu gwyr wrth eu parotoi i'r gad Nid oes ond ychydig filldiroedd megys rhwng y byddinoedd a chyfarfod ond pan y deuant i olwg eu gilydd yn mhen oddeutu mis, bydd y cyflegrau yn cael eu gollwng-y bidog a'r cledd yn cael eu defnyddio o ganlyniad, y rhengau yn cael eu teneuo, a'r meusydd wedi eu lliwio a gwaed Y blaid s/n ymladd yn sir Gaer dros Mr Sartoris, byddwch wych,— ymwrolwch, a byddwch bybyr na lwfrhewch nes cael allan fam i fuddugoliaeth. Daeth rhyw beudefig ieuanc i'r dref hon heddyw i ymladd duel a'r hen Filwriad Step- ney, am y Bwrdeisdrefi. Tori eto Be gebyst y sydd ar y Toriaid ? Y maent fel Ahab, wedi pechu yn ngwinllan Naboth, ac y mae'n rhaid ymgais am dani drwy y tew a'r teneu. Nid oes debyg y gwel y brawd hwn winllan y Milwriad, a'r cyngor roddem ni iddo yw, myned tuagadref, yn lie gosod ei hun yn wawd heb raid nac achos. Hawddamor i Sartoris dros y sir, a'r Milwr- iad dros y bwrdeisdrefi. HEN LOFFWR.

ETHOLIAD MERTHYR.

EISTEDDFOD Y DRILL HALL, MERTHYR,…

" PRIF YSGOL CYMRU."

PWSIG I ETHOLWYR.

HELYNIION YR ETHOLIAD

ETHOLIAD MERTHYR.

Advertising

YR ETHOLIAD.