Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

LLYTHYR DYDDOROL 0 AMERICA.

News
Cite
Share

LLYTHYR DYDDOROL 0 AMERICA. Mr. Gol.—Y mae yn ddiamheu genyf y carai rhai o'ch lluaws ddarllenwyr gael ychydig o hanes gwlad y gorllewin ar yr adeg bresenol. Pan yr anfonais atoch o'r blaen yr oeddem yn mwynhau o awyr afiach gorllewinbarth Illin- ois, oddeutu wyth milldir oddiwrth yr afon Mississippi. Marwedd ydyw masnach wedi bod trwy yr haf, a thrais a gormesiaeth i'w ganfod yn mhob man. Yn Chwefror di- weddaf, cafodd y glowyr ostyngiad o cent y bwsel trwy y sir yn gyffredinol, a gorfu iddynt ei dderbyn yn ddiddig. Yn Mawrth, cafwyd haner cent arall o ostyngiad. Gweithiwyd arno yn ddirwgnach. Yn Ebrill yr oedd yn rhaid roddi dros y pwysau, sef rhoddi pedwar ar ddeg o fwseli, a chael ein talu ddim ond am ddeg, a chyfrif 87 pwys yn mbob bwsel. Aeth yr iau y pryd hwn yn rhy drwm i'w ddyoddef yn hwy, gan fod amryw o deluoedd yn dy- oddef eisieu yr hyn sydd angenrheidiol i gadw corff ac enaid mewn cysylltiad a'u gilydd, yn gymaint as i fod nwvddau mor ddrud. ac olwynion masnach mor araf. Y cyntaf o Fai daethom allan fel un gwr am ein hiawnderau, sef pwysau teg, a phedwar cent y bwsel yn lie tri cent a thros y pwysau. Ail ffurfiwyd yr undeb yn ein plith, a rhoddwyd tair banllef o hir oes iddi. Hon oedd y strike oreu a fu yn y sir hon erioed. Wedi bod allan am oddeutu tair wythnos, aeth rhai o'r pethau a elwir Black Legs i weithio dan bris, a thalwyd hwynt am eu compliments y noson gyntaf. Tywalltwyd ychydig o'r gwaed, a gwnaeth- pwyd hwy yn ddiartref. Drylliwyd eu tai, a chwythwyd pen y pwll i'r cymylau, a chy- merodd y lleill rhybudd. Apeliwyd y pryd hwn at yr awdurdodau, a chyhoeddwyd y gweithwyr yn gyffredinol yn dorwyr y gyf- raith. Galwyd arnom i amddiffyn ein hunain, a gwnaethom ein hymddangosiad yn mhrif ddinas y sir-oddeutu 800 o honom. Furf- iasom ein hunain yn orymdaith, yn cael ein blaenori gan seindorf pres, wedi ein harfogi yn barod i amddiifyn ein hunain—nid ag arfau tanllyd, na chyllyll miniog, ond a geiriau poethach a llymach na'r un o honynt am y trais a'r gormes oeddem yn gorfod ddyoddef. Wedi cael cyfarfod mawr yn ngnanol y dref am oddeutu tair awr o amser, a siarad poeth o bob ochr, daethom allan yn goncwerwyr, ac enillasom ddylanwad y werin yn gyfangwbl. Cawsom bob cynorthwy gan y siopwyr a'r ffermwyr, a phawb ereill, ond y gormeswyr, i wrthsefyll y meistri. Dewisiwyd tri o hedd- ynadon y sir o blaid y gweithwyr i wneud penderfyniadau a'r meistri; ac erbyn y cyntaf o Fehefin yr oedd y strike ar ben, a phob peth ag yr oeddem yn ofyn i'w gael. Cyflwynasom ein diolchgarwch i'r tri boneddwr am eu gos- tyngeiddrwydd a'u caredigrwydd o blaid y gweithiwr. Aeth pethau yn mlaen yn esmwyth am ychydig wythnosau—masnach yn adfywio, a rhagor o alwad am y gloyn du, a digon yn barod i'wdrosglwyddo allan o'r celloedd cudd- iedig yn wyneb pob anhawsdra, nes anghofio yr undeb, a phob peth perthynol iddi; ond yn Gorphenaf eawsom deimlo llaw haiarnaidd gormes yn drymach nag erioed. Rhywbeth tebyg i hyn ydyw^amgylchiadau pethau wedi bod yn swydd St. Clear, Illinois, yn ystod y misoedd diweddaf, a phenderfynais i a'm cyf- aill, Thomas John (gynt o Aberaman), ganu yn iach i Illinois, a chyfeirasom ein camrau gyda rheilffordd y Pasific, nes i ni ddyfod i'r lie hwn. Enwir y lie hwn yn ol hen Gymro genedigol o sir Gaerfyrddin, o'r enw Elias- Elston. Efe ydoedd un o sefydlwyr henaf y lie. Y mae amryw o'i blant a'i berthynasau yma yn awr yn berchen cryn lawer o'r tiroedd o gwmpas. Y maent yn hoff iawn o'r Cymry, er na fedrant siarad yr hen iaith. Tir gwyllt, mynyddig, cerigog, ydyw o St. Lewis i'r lie hwn—y pellder oddeutu 150 o filldiroedd. Ychydig o ffermydd sydd yma o un gwerth. Y mae y tir yn rhy sych. Cnyd- au gwael a gafwyd yma yr haf hwn o herwydd y sychder. Llosgodd y cloron yn y ddaear. Yr wyf yma er's dau fis heb weled yr un bytaten. Y mae amryw yn prynu tiroedd yma, ac yn rhoddi pris uchel am dano, er chwilio am fwnau glo a phlwm. Y mae rhai yn llwvddo, ac ereill yn gwario eu harian yn ofer. Nid ydyw y gwythienau yn rhedeg yn gyson nac yn wastad. Y maent yn codi ac yn gostwng, yr hyn a eilw y Yankee yn Pocket Vein. Lie hollol anghyfleus i fyw ydyw, am ei fod mor belled oddiwrth yr un farchiiad gyhoedd- us. Y mae pob peth yn cael ei drosglwyddo yma o St. Lewis, ac yr wyf yn sicr y buasai ieuenctyd Aberdar yn teimlo yn lied galed i orfod byw ar fara corn a smooking ham, a choffi heb siwgr ynddo. Y mae y tai mor wael hefyd, fel y gallwn rhifo y ser o'r gwely, a gwybod y tywydd pan y bydd y drws yn nghauad. A gwaeth na'r cwbl, nid oes yr un ferch ieuanc yma for love or money; felly yw ein tynged ar yr adeg bresenol. Y mae llawer o ymfudo i'r parth gorllewinol o'r dalaeth hon i Kansas City a'r amgylchoedd, ac oddiyno i Fort Scott, er chwilio am ffermydd. Y mae yno dir da i'w gael yn rhad, ond ei fod yn Iled anghyfanedd, ac allan o gyrhaedd cyfleusder- au masnachol; ond y mae rheilffyrdd yn cael eu gwneud, a'r tiroedd yn cael eu meddianu yn gyflym. Y mae y flwyddyn hon wedi bod r yn dra ffrwythlawn yn ei ffrwythau, yn en- wedig afalau ac afalau gwlanog (peaches.) Y maent yn ddirifedi yma. Troir y moch i mewn i'r perllanau i'w bwyta. Y mae y lo- custiaid wedi bod yn ymweled a thalaethau gorllewinol yr haf diweddaf, ac wedi gwen- wyno y ffrwythau cynar. Cafodd amryw o deuluoedd brofi marwolaeth trwy fwyta mwy- arenau, llysiau, a ffrwythau cyffelyb, trwy efFaith gwenwyn y locustiaid. Yr oeddynt yn ymgodi o'r ddaear a gwisg megys o groen teneu am danynt, yr hwn oeddynt yn ymddi- osg mor gynted ag y deuant allan, ac yna dechreuasant waeddi Pharaoh, nes cadw y fath dwrw fel yr oedd yn anmhosibl i ddau fuasai yn cydgerdded trwy y coed i glywed y naill a'r Hall yn siarad. Yr oedd dwy lythyren i'w canfod ar eu hadenydd—W N, yr hyn ddywed y Yankee sydd yn arwyddo "War nea/r." Parhaodd eu hymddangosiad am oddeutu tri mis, ac yrw, ymddiflanasant. Y mae 14 o flynyddau er pan yr ymddangosasant o'r blaen yma. Prif siarad y bobl y dyddiau presenol ydyw yr etholiad nesaf, ac y mae gelyniaeth mawr yn bodoli rhwng y ddwy blaid. Y mae y Cymry braidd i gyd ar y tocyn Radicalaidd, ac yn wir, buaswn felly fy hunan oni buasai cydraddoliaeth y dyn o liw (nigger equality), yr hyn nid yw yn unol a'm credo i'r Creawdwr erioed roddi bodolaeth iddynt i fod yn gyd- radd a'r dyn gwyn, chwaethach i lywodraethu arnynt, fel ag y maent mewn rhai trefydd yn barod. Y mae yn fwy na thebyg mai Grant a Colfax a gaiff eu hethol, er mai tyb fach, gul, sydd genyf am eu cymhwysderau i lanw y swydd ond nid oedd gan eu plaid yr un dyn a wna rhedeg mor gyflym a hwy, a gwell fuasai ganddynt gael par o ddillad i'r gadair lywyddol na chael eu gorchfygu. Y mae yn rhaid terfynu, canys y mae Mr. Cwsg yn dyfod i gydnabyddiaeth esmwyth a mi. Y mae y teulu i gyd yn dawel huno. Y mae llais anian i'w glywed yn noswylio, a'r awrlais newydd fy anerch a deuddeg tine. Llwydd i'r GWLADGARWR a'i Olygydd, ac i'r darllenwyr yn gyffredinol, ydyw fy nymuniad. Yr eiddoch, CHARLES EVANS (gynt o Ferthyr.) Elstone Cobe, C. 0., M. 0., Hyd, 4, 1868.

AT YR HEN DEILIWR.

AT T. GWILIM.

YR ETHOLIAD.

EISTEDDFOD CAPEL Y PENTRE,