Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

SPAIN.I

News
Cite
Share

SPAIN. Oddiwrth yr hysbysiadau diweddaraf sydd wedi eu derbyn o Havannah, yr ydyir yn cael nad oedd y terfysg yn Cuba o fawr bwys, yn gymaint ag na wyddai y terfysg- wyr beth yr oeddynt ei eisiau, a'u bod liefyd wedi eu amgylchu a milwyr. Trwy rhai o newyddiaduron y Cyfandir yr ydym yn cael fod y Brenin Ferdinand wedi gomedd bod yn ymgeisydd am goron Spain. Modd bynag, oddiwrth yr un ad- roddiad, yr ydym yn cael fod y Due Mont- pensier yn awyddus am fod yn ymgeisydd. Y mae yn dda genym gael ar ddeall oddi wrth y newyddion a dderbyniwyd o Yspaen yn ystod y dyddiau diweddaf fod teimlad cynyddol yn y deyrnas bono o blaid di- ddymiad caethwasanaeth. Dydd Iau di- weddaf, cynaliwyd cyfarfod aruthrol o luos- og yn Madrid, o dan lywyddiaeth Senor Olologa, lie y traddodwyd areithiau grymus o blaid rhyddhad dioed yr holl gaethion perthynol i'r llywodraeth YspaeDaidd, yr hyn a dderbyniwyd gyda banllefau cymer- adwyol y gynulleidfa. Wedi bod mor Ilwyddianus yn eu hymdrecbion am ryddid eu hunain, ymddengys eu bod yn awyddus am estyn yr un fendith i'r trueiniaid sydd wedi cael eu cadw mown caethiwed yn Cuba, a manau ereill, ac yn awr y mae pob sail i gredu y bydd i'r gwaith gogoneddus hwnw gael ei gyflawni, ac y caiff yr Ys- paeniaid cyn hir y pleser o ymffrostio nad oes dim a wnelo eu llywodraeth a chaeth- wasanaeth.

A WSTRIA.

AMERICA.

MANION TRAMOR.

[No title]

[HYSBYSIAD].

Advertising