Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
CWMAFON.
CWMAFON. Cyflwyniad Tysteb.-Nos Iau, Medi 17, cy- naliwyd cyfarfod Iluosog yn y Boys' School- room, i anrhegu Mr D. Thomas, Agent gweith- feydd tanddaearol Rymni yn bresenol. Cad- eiriwyd yn drefnus gan W. P. Struve, Ysw., prif oruchwyliwr gweithiau Cwmafon, pryd y rhoddodd y cymeriad uchelaf i Mr Thomas, felgoruchwyliwr medrus a gonest. Dywedodd c ei fod dan ei ofal ef er pan yn ddeuddeg oed, ac na chafodd un flio ynddo yr holl amser y bu yn ei wasanaeth, a'i fod yn teimlo yn hir- aethlawn ar ei ol. Cafwyd areithiau pwrpasol ar yr achlysur gan wahanol foneddigion. Darllenwyd yr anerchiad yn gampus yn Seisnig gan y Parch J. Griffiths, Offeiriad, ac yn Gymraeg gan y Parch R. Williams, (A.) a chan fod yr anerch- iad yn fyr a phwrpasol, rhoddwn ef i lawr yma.— Anerchiad ar gyflwyniad Tysteb i Mr D. Thomas, Gor- uchwyliwr Glofeydd Cwmafon, Swydd Forganwg, ar ei ymadawiad i ymgymeryd a Goruchwyliaeth Glo- feydd a Mwnau Rhymni, Swydd Fynwy. Anwyl Syr, Yr ydym ni wedi ein penodi gan y pwyll- gor gweithredol, i gyflawni gweithred a ystyriwn yn an- rhydedd m'lwr, sef cyflwyno yr Amheg Dystebol hon i ehwi, sef" Llestri Te a Chom, ac Ystram Bolelig mewn srian," fel arwydd fechan o'r cariad a'r parch mawr a goleddir tuag atoch, fel Goruchwyliwr, gan weithwyr boneddigion, masnachwyr, ac ereill, perthynol iG win afon. Hid ydym am sylwi yn feirniadol ar eich cymeriad fel Gorueflwylrwr medrus a ffyddlon, eithr yn hytrach fel gweithwyr ac ereill, a deimlaut yn ddiolchgar i chwi am eich gofal diball a diflino, alch parodrwydd a'ch fffddlondeb i goleddu henafgwyr ac amddifaid y He. Ac Did hyny yn unig, ond y sylw arbenig yr ydych wedi dalu i, a'r anrhydedd yr ydych wedi ei rodcli ar eich cyd-genedl fel Is-sw.fddogion; yn nghyd a'r 6el a'r egni a ddangos- asoch gyda phob mudiad daionus, gwladol a chrefyodol, JJir caredigrwydd a'r Uetygatwch ar bob achlysur cy- hoeddus yn y lie; o ganlyniad, mae yr adeg bresenol yn galw yn uchel arnom i amlyga ein teimladau fel ardal- wyr tuag atoch, am eich gwasanaeth anmhrisiadwy am yr ysbaid maith o utrain mlynedd yn ein plith, drwy gyfrwng Tysteb gyhoeddus fel yma. Buwyd yn siarad o barthed i hyn ychydig flfoedd yn ol, ond oblegyd ystyriaeth bersonol » marweidd-dra masnach yn y lie, gohiriwyd ef hyd rhyw adeg ddyfodol; ond pan aaenwyd y 1 ewydd ofidus o'ch ymadawiad a'r lie a'ch swydd, penderfynwyd ei ddechren ar unwaith, ac nid oes un amneuaeth genym na fydd y Dysteb hon dan yr am- gy lob iadau presenol, yn ddetbyniol genych. Yr ydym yn cyfaddef ei bod yn llawer rhy faoh i ar- ddangos teimladau ein calonau tuag atoch, yn nghyd a'r anrhydedd yr ydych, anwyl syr, yn ei wir deilyngu. Hefyd. cafifaeliad nid bychan l'r glowr ydyw'r dargan- fyd a g yddorol olr eiddoeb, sef •' Patent Mandril," yr hwn sydd offeryn eywrain a defnyddiol, ae a ysgafnha lswer ar eu beichiau, symudaberyglon, arbeda lawer iawn o-drafferth a thraul, ae a hyrvvdda eu gwaith yn mhob ystyr. Mewn gair, dyfais yw hon ae a drosglwydda eich enw gyda bri ac urddas i'r oesau dyfodoi, fel un a am- eanai at gysur, llwyddiant, a dyrchaflad ei weithwyr. Pe na byddai dim ond hyn yn egwyddor gymhellol ynom o'n gweithrediadau presenol, yr ydym fel gweith- wyr, yn teimlo ein bod dan rwymau, gan deimladau cydwybod a rheawm, i wneud mny nag sydd yn ein gallu ar adeg cyflwyniad y Dysteb hon. Hefyd. nis gallwn oddef i'r cyfle hwn fyned heibio heb ddangos rhyw arwydd o barch i'ch anwyl briod ar eich ymadawiad a Chwmafon, fel boneddiges hawddgar a sir- 101 bob amser i'r radd weithgar, a'i chydymdeimlad tyner a ni ar wahanol adegau trallodus. Anwyl syr, ciedwch ni, mae ein hyfrydwch a'n gorfol- edd yn fawr wrth fwynhatt yr anrhydedd hon, o gyflwyno Tysteb i chwi, fel Goruchwyliwr medtua, sydd wedi cyr- haedd safle urddasol o fysg eich cyd-genedl a'ch cymy- dogion. Ac yn awr, wrth derfynu, nid oes genym ond dymuno i chwi hir oes, Uwyddiant, a heddwch yn eich lie newydd, gan hyderu y bydd i chwi gael bob amser yn mhob lie, a chan bob dyn, yr ufydd-dod a'r parodrwydd sydd yn deilwng o'ch urddas a'cb safle; ao y eawn ninau yn eich OIYDOdd. Cymro, meistr, boneddwr, a dyn yn mhob peth yn deilwng o'i ragflaenor. Yr eiddoch yn wi-ioneddol, W.WILLIAMS, Trysorydd. H WILLIAMS, B. WILLIAMS, Oadeirydd W. WILLIAMS, I E. HAVARD, Is-gadeirydd. J. BEES, 1" B W. HUNT; ) T. GRIFFITHS, ) jr. JENKINS, j Ysgnfenyddion. 0 ie, chwareuodd H. Strode, Ysw., ddwy don er difyrwch i'r cyfarfod yn rhagorol dda ar yr organ newydd, perthynol i'r School- room. Cafwyd gwasanaeth y Seindorf bres hefyd er difyrwch y cyfarfod. Terfynwyd trwy ganu Duw gadwo'r Frenines." E. H.
CYNGHERDD MR. JOSEPH PARRY,…
CYNGHERDD MR. JOSEPH PARRY, (PENCERDD AMERICA), YN ABERTAWY. Anrhegwyd trigolion Abertawy a'r cylch- oedd a chyngherdd odidog, nos Lun, y 17ei{ o'r mis hwn, gan Pencerdd America, yn cael ei- gynorthwyo gan Mr. Silas Evans, Mrs. Hinder, Miss Thomas, Mr. D. Francis a'i barti, a Chor Glyntawy. Yr oedd tua mil o bobl wedi ymgynull i'r neuadd eang, ac yr oedd yn amlwg eu bod oil yn ei mwynhau i'r eithat Canoad y cor bump o ddarnaa, y Glee Party un darn, Mr. Silas Evans cin-" A leap for life," ac ymunodd mewn unawd gyda Mrs. Hinder. Canodd Miss Thomas Sweet spirit hear my prayer." Ond y Pencerdd aeth a hi. Canodd i ddechreu The home of my child- hood," yn dra efFeithiol. Cafodd encore gwresog, a chiEmodd Dangos dyfod yn Gy- mro." Wedi hyny, canodd X Tren." Y mae y gan hon yn hynod o ddeegrifiadol, a dbanodd hi yn gampus. Ootier mai ei gyiaB- aoddiad ei hun ydyw, yn nghyd a!r holl gan- eu(m exeill a ganodd. Cafodd encore gwrfesog eto, a gorfu i&lo ail ymd dangos, a chan odd "■ Yt Eneth. Ddall," yn deimladwy iawn. Ei na aeaaf ydoedd The Gambler's Wife." Canodd hon eto yn hynod o effieithiol, ac er cymaint oedd y 0W9 rR gwaeddi encore, nid ail ymddangosodd y tro hwn. Yr olaf ar y programme iddo ydoedd can ddesgrifiadol Y Ty ar Dan." Y mae delw y Pencerdd i'w ganfbd yn y gin hon; ▼ mae yn un orehestol Jawn, a chanodd ynteu hi yn deilwng o hono ei hun. Gorfu iddo ymddangos yr ail waith, a chanodd gan ddigrif i Jeff. Davis yn y feth godd, fel y mynodd y gynulleidfa hi drachefn. Dangosodd y Pencerdd nid yn unig ei fod yn odd/rated composer, ond yn ganwro'r iawn ryw. Er fod ei ganeuon i gyd yn wahanol o ran eu nodwedd, dangosodd ei hun yn feistr yn mhob arddull-y digrifol, y difrifol, y desgrifiadol, &c.-oll fel eu gilydd. Yr oedd yn amlwg fod ynobawbyn awyddus am gyfleusdra eto i dreulio dwy awr yn nghwmni y Pencerdd. Yr oedd yn chwareu y eyfeilliant iddo ei hun ac i'r holl gantorion ereill. Cychwynodd dra- eheCn tua'r brif ddinas i astudio yn y Royal Academy of Music am dymhoi. Ond na ddi- gadoned y Cyxnry, bydd iddo dreulio mis yn cinpiith eto tua'r Nadolig, gan ymweled ag owzyw leoedd.
CWMLLYNFELL.
CWMLLYNFELL. Medi y 14eg, cynaliwyd cyfarfod llenyddol poblogaidd yn y lie uchod. Llywydd, Parch. R. Pryse; beirniad y traethodau a'r farddon- iaeth, y Parch. B. Thomas, Gurnos; y canu, D. L. Jones, (Cynalaw). Awd yn mlaen a gwaith y dydd fel y can- lyn:—Wedi cael anerchiad gan y llywydd, adrodd Meddyliau am y nef," a dau fach- genyn o'r ardal yn gydfuddugol. Beirniadaeth dau benill i'r "Beibl," W. Wyn, Brynaman, a W. Williams, Ddolgam, yn gydfuddugol. Canu "Caerlleon," parti 0 Gwmllynfell yn oreu. Darllen englyn, goreu R. Lewis, Bryn- aman. Canu "Morfa Rhuddlan," goreu D. Lewis, Brynaman. Beirniadaeth englyn bedd- argraff, goreu Alaw Wyddon. Canu ton i blant dan 7 oed, goreu Evan Williams, Cwm- llynfell. Adrodd "Arwyddion HenSint," i rai dros 40 oed, goreu W. Jones, Cwmtwrch. Canu Rheidiol," goreu cor Cwmllynfell. Beirniadaeth y traethodau ar Ragoriaeth y Tonic Sol-Fa ar yr hen nodiant i ddysgu cerddoriaeth," goreu D. Lewis, Brynaman. Canu "Nebo," i hen fenywod dros 40 oed, rhanwvd rhwng Ann Williams, Brynaman, ac E. Williams, Cwmllynfell. Adrodd englyn, 3 yn gydfuddugol. Beirniadaeth 5 penill ar Adgofion Ieuenctyd," cydfuddugol W. Wyn, Brynaman, a Profiadol, yr hwn ni atebodd. Canu Y milwr clwyfedig," parti o Gwmllyn- fell yn oreu. Ysgrifenu Seisnig i blant yr ysgol, rhanwyd rhwng 3. Beirniadaeth yr englyu-n" Aing," goreu W. Wyn. Canu ton ar y pryd, rhanwyd rhwng parties 0 Ystalyfera a Brynaman. Beirniadaeth y gwobr-gwdyn, goreu Miss Ann Price, Cwmllynfell. Beirn- iadaeth y don gynulleidfaol, goreu D. Lewis. Canu Y Wenynen," goreu cor Cwmllynfell. Beirniadaeth y traethawd ar y Niwaid i ieu- enctyd sefyll yn nghonglau'r heolydd," goreu L. Rolant, Cwmllynfell. Beirniadaeth "Dadl rhwng y morwr a'r glowr," goreu W. Wyn. Canu hen don i wrywod dros 40 oed, goreu L. Rolant. Beirniadaeth yr wyth penill i'r Sabbath," rhanwyd rhwng Alaw Llynfell a W. Wyn. Canu "Can Miriam," goreu cor CwmllynfelL Areithio byrfyfyr, cydfuddugol W. Williams ac L. Rolant, Cwmllynfell. Canu y brif don, goreu cor Cwmllynfell. Beirniadaeth yr englyn i'r "Aelwyd," Gwalch Ebrill, Brynaman, a W. Wyn yn gydfuddugol. Canu deuawd i ferched, The old house at home," goreu dwy 0 Brynaman. Beirniadaeth y traethawd ar Lyfr Genesis," goreu John Jones, Bilyglas. Canu "Myfi sy'n magu'r baban," goreu Miss C. Thomas, Brynaman. Terfynwyd trwy ganu yr hen emyn adna- byddus hwnw,— Arglwydd anfon dy leferydd, Heddyw yn ei rwysg a'i rym! &c. Llawer cymhwysach ar foreu Sabbath nac ar ddiwedd cyfarfod llenyddol. CYMRO.
MR. HENRY RICHARD YN NHRE…
MR. HENRY RICHARD YN NHRE CYNON. Nos Iau, Medi y lOfed, yn nghapel Eben- ezer, Trecynon, cynaliwyd cyfarfod politicaidd yn ffafr Mr. Henry Richard. Cyn yr amser {tenodedig, yr oedd y capel nid yn unig yn or- awn, ond hefyd yr oedd y bobl yn dringo y ffenestri o'r tu allan, gan gymaint yr awydd oedd ynddynt i glywed yr arwr Ymneillduol yn traethu ei syniadau ar bynciau y dydd. Cymerwyd y gadair, yn nghanol bloeddiadau y gynulleidfa, gan D. Davis, Ysw., Maesyffyn- on. Wedi siarad ychydig, a hyny yn bwr- pasol, gan anog y bobl i ddal gafael yn eu hiawnderau, a phleidleisio yn ol argyhoedd- iadau cydwybod, heb gymeryd eu harwain gyda phob awel wynt, efe a alwodd ar Mr. Richard i anerch y gwyddfodolion. Ar hyn, cyfodai Mr. Richard i fyny, a dechreuodd eu cyfarch yn nghanol banllefau o gymeradwyaeth. Dechreuodd trwy ddweyd ei fod yn teimlo yn ddiolchgar iddynt am ddangos cymaint o ffyddloodeb yn ei achos ef. Dywedodd fod yr ymlyniad wrtho ef yn awr yn llawn cymaint a phan y daeth i lawr gyntaf i anerch yr etholwyr, ac hefyd ei fod yn lied debyg o barhau yr un; o'r hyn lleiaf, ei fod yn eithaf cydwybodol o eirwiredd yr ethol- wyr. (Cymeradwyaeth.) Dywedodd hefyd fod rhywrai wedi awgrymu wrtho nad oedd o un dy ben iddo ef feddwl am ymgeisio am g^nddxychiolaeth Merthyr ac Aberdar; ond ei fod wedi ateb y Cyfeyw ei fod yn bender- fynol i ddyfod i lawr i weled a chlywed drosto ei hun, beth bynag fyddai y canlyniad. Felly, yn unol a'i air, efe a ddaeth ac wedi anerch jrr etholwyr, ei fod wedi synu yn ofnadwy at y derbyniad brwdfrydig apha un y derbyniwyd ef-ei fod wedi cael cyatal derbyniad ag a gafodd dyn erioed. Cyfeiriodd at y rhai a'u cynghoraeant i beidio cynyg ei hun, ond iddo fyned i sir Aberteifi; at yr ysgrifenu i'r new- yddiaduroo, ac at ei gyfeillion yn Llundain, er ceisio ganddo i beidio Sefyll. Ere a wnaeth amryw sylwadau eteiU, gan ddywedyd fod y cyhuddiad o'i fod yn ddyeithrddyn yn cael ei fyhych grybwyll gan ei elynion; ond, atolwg, ai am nad oedd yr etholwyr yn ei adnabod yr oeddynt yn ei wahodd ef i lawr i draethu ei syniadau wrthynt? Nage, eithr am fod ei enw bellach yn adnabyddus trwy yr holl Dy- wyaogaeth, &< Yr amser yma, rhoddodd y cadeirydd y cyfarfod yn rhydd i bwy bynag a ewyllysiai ofjm unxhyw gwestiwn i Mr Richard, pan y daeth Mr Williams, (Carw Coch,) yn miaen, a gofynodd A wnai Mr Richard addaw .di- Wygio Ty yr Arglwyddi V Gofynodd rhyw- un arall iddo a fuasai ef yn addaw cynorthwy y Mines Inspection Act, os y dygid ef o flaen y Ty ? Pr cyntaf yr atebodd Mr Richard y bydjdai iddo ef wneud ei oreu i anfon yr Ar. glwyddi gartref i'w Diocese. I'r ail yr ateb- odd y byddai iddo ef, ar unrhyw adeg, fod yn barod i gefnogi unrh3rw gynliTin a fyddai yn effeitliiol i leihan dinystr ar fywydau a medd- ianau. Cafodd yr atebion berffaith dderbyn- iad. Galwodd y cadeirydd ar Mr Walters, Tre- cynon, i gynyg y penderfyniad canlynol i'r cyfarfod :—" Fod y cyfarfod hwn yn datgan Mr Richard yn berson addas a chymwys i'n cynrychioli yn y Senedd." Eiliwyd ef gan Mr John Williams, London Warehouse, yr hwn a ddatganai ragoriaethau Mr Richard, gan ddywedyd ein bod yn sier o'n dyn, ac mai nid prynu cath mewn cwd" ydym,-ein bod yn brofiadol 0 hono bellach er's blynydd- oedd meitbion fel dyn geirwir a gonest, yn deilwng o'n hymddiriedaeth fwyaf ddiffuant. Dywedai ei fod yn wresog eilio y cynygiad. Wedi hyny, gofynwyd am arwydd'oddiwrth y gynulleidfa gan y cadeirydd yn ffafr Mr Richard, pryd y gwelwyd dwylaw pob un yn ddieithriad i fyny, ac ni chafwyd gweled gy- maint ag un yn ei erbyn. Cyfododd y Parch W. Edwards i gynyg diolchgarweh i'r llywydd, yr hwn a eiliwyd gan Mr Henry Richard. Cynygiwyd diolchgarwch hefyd i Mrs Davies a Mrs Richard, ar wahan oddiwrth hyn, a chawsant oil three cheers ardderchog, yr hyn a roddodd derfyn ar weithrediadau y cyfarfod. Wedi myned allan, mynodd y bobl dynu y ceffylau allan o'r cerbyd, a thynu y cerbyd a'i gynwys a wnaethant bob cam i Maesyffynon.
[No title]
MAESYCWMWR.—Cynaliodd yr Annibynwyr yn Tabor eu cylchwyl y Sul a'r Llun diwedd- af. Y Sul, pregethodd y Mri. J. Hughes, Abertileri, ac E. Thomas, Abercanaid. Dydd Llun am 10, pregethodd Mr. W. C. Williams, Groes Wen. Am 2, Mri. E. Mathews, Eweni, a W. C. Williams. Am 5, Mri. J. Jones, Machen, ac E. Hughes, Penywaun. Am 7, traddododd Mr. Mathews ei ddarlith ar Siencyn Penhydd yn Soar.-LL. PONTARDAWE. — Cyflwyniad Tysteb. — Nos Sadwrn, y 19eg o Fedi, cynaliwyd cyfarfod dyddorol yn ystafell y Cross Inn, Pontardawe, i'r dyben 0 gyflwyno tysteb 0 Gadwyn Aur ysblenydd i Mr. Jacob Francis, ysgrifenydd Budd Gymdeithas y Cross Inn. Mae rhoddi parch i'r hwn y mae parch yn ddyledus, yn ddyledswydd ag sydd yn cael ei chario allan mewn gweithrediad i raddau helaeth iawn y dyddiau hyn, yn enwedig mewn cysylltiad a dynion gweithgar. Cymerwyd y gadair gan Mr. Thomas Lloyd, a'r is-gadair gan Mr. Thomas Humphreys, y rhai a siaradai yn y modd mwyaf parchus am Mr. Francis, yna galwyd ar loan Glan Tawe, yr hwn a ddarlun- iodd (mewn barddoniaeth) Jacob Francis fel dyn gweithgar a defnyddiol i bob gradd. Canlynwyd hyn gan Owen Jones, Pengarn, mewn araeth wresog, yna galwyd ar Mr. Evans, Post Office, i gyflwyno y Gad wen, yr hon oedd yn werth puni punt a deg swllt, a thraddododd araeth hynod gymhwysiadol i'r amgylchiad. Dychwelodd Mr. Francis ei ddiolchgarwch i'r gymdeithas mewn araeth darawiadol a theimladwy. Wedi hyny can- wyd amryw o ddarnau yn hynod 0 fedrus gan Mri. Daniel Davies, David Griffiths, a Thomas Evans a thraddodwyd areithiau byrion gan Mri. George Rees, John Watkins, a Mr. Evans, Post Office. Wedi cynyg diolchgarwch, ter- fynwyd y eyfarfod mewn modd gweddus, gan ddymuno hir oes i Jacob Francis i fod yn ddefnyddiol yn y byd.-G. GLYNCORRWG.-Gymdeithas LwyrymataUol. Y mae yn dda genyf allu dweyd fod y gym- deithas hon yn myned rhag ei blaen o hyd ac yn magu nerth yn barhaus. Y mae i'r gym- deithas hon lawer o wrthwynebwyr, ond er y cwbl y mae yn parhau i gynyddu. Ei rhif yn bresenol yw 92, trwy yr hyn y gwelwch ei bod yn cynyddu yn fawr. Gellir dweyd hefyd ei bod wedi gwneud lles mawr i deuluoedd eisioes, ac i'r cwm yn gyffredinol. Prysired y dydd pan y bydd pobl feddwon Glyncorrwg a phob glyn arall wedi dyfod ibleidio sobrwydd. Hyn yw dymuniad eich gohebydd. T. H. WITTON PARK, SWYDD DURHAM. — Ghvyl De.-Medi 12, cynaliodd y pedwar enwad Cy- mreig adnabyddus eu gwyl de eleni ar y dyad uchod. Oddeutu tri err gloch, cyfarfyddocld y pedair ysgol mewn lie apwyntiedig, yna aeth- ant vn orymdaith fawreddog trwy y lie, tra yr oedd y gwragedd yn darparu ac yn arlwyoy byrdaau. Wedi hyny, dychwelodd pob ysgol i'w le ei hun, er cael mwynhau o'r trugaredd- au darparedig. Ar ol i'r oil gael eu digoni, ymadawsom wedi cael ein llwyr foddloni. Am 7 yn yr hwyr, cynaliwyd cyfarfod yn nghapel y Trefnyddion Calfinaidd, yn yr hwn yr an- rhegwyd tri o bersonau ar eu nymadawiad o'r Ee. x cyntaf oedd Mr Samuel Williams, a Phar o Wydrddrychau Arian." Y mae y brawd hwn wedi bod yn flaenor yn yr eglwys uchod am flynyddau, a theimlir colled fawr ar ei ol. Yr ail oedd ei anwyl briod Mrs Wil- liams, a Set 0 Casters." Yr oedd y ddau yn myned i wlad eu genedigaeth. Y nesaf oedd Miss E. Morgans, ar ei ymadawiad i'r America, a Beibl" hardd. Pob Uwyddiant iddynt i gjrrhaedd pen eu taith yn ddiogel, ac a'u can- lyno hyd eu bedd. Cawsom areithiau a chanu da gan y brodyr o6dd wedi eu penodi o bob ysgoL Hefyd, yr oedd y beirdd yn hynod barod yno i ddarlleii eu cynyrchion. Diwed d wyd trwy ganu "Duw ^idwo'r Frenines." Yna ymadawodd pawb wedi eu boddloni eto ar y wledd i'r meddwl.—GOH. CWMNBDD.—Dmvwain.— Prydnawn dydd Sadwrn, 12fed cyfisol, syrtHodd dyn o'r enw W. Quick, guard ar Gledrffordd DjrffirynNedd, oddiar un o'r wageni ger gorsaf Glyn-nedd. Aeth y trucks drosto, gan ei anafu yn druehus. Symudwyd ef i Glafdy Abertawy, a bu farw boreu y Sul canlynoL Prydnawn dydd Llun, y 14eg cyfisol, fel yr oedd Thomas Richard, glawr, wrth ei orchwyl yn ngwaith Bwllfaron, syrthiodd darn 0 lo arno, gan ei anafu yn y fath fodd, fel y bu farw mewn ychydig oriau, 1 gan adael gwraig a phump o rai bychain i alaru ar ei oL Tad y r amddi £ a^4, 9. ofolo am danynt.—AB DAFYDD. J < TRECYNON, ABERDAR.-Medi 14, bu farw Mrs. Margaret Williams, o'r lie uchod, yn 85 oed. Bu yn aelod yn eglwys Ebenezer am tua 66 0 flynyddoedd. Hi oedd yr unig un ag oedd yn fyw er's blynyddoedd lawer i gyn- rychioli yr ychydig ffyddloniaid fu yn cych- wyn achos Ymneillduaeth yn y ty bach ar bwys Penypound. Y pryd hyny yr oedd y tri enwad yn cydaddoli ond yn fuan, ym- ranwyd yn wahanol gynulleidfaoedd. Aros- odd y Bedyddwyr i gychwyn achos yn Peny- pound. Symudodd y Methodistiaid a'r Anni- bynwyr i Heolyfelin, ac ymwersyllodd y Methodistiaid yn y lie a. elwir Hen Bethel, hyd nes y darfu iddynt adeiladu Carmel; ac ymwersyllodd yr Annibynwyr yn Ebenezer, lie yr arosasant hyd y pryd hwn. Felly, yr oedd yr hen chwaer Mrs. Williams yn fam i holl Annibynwyr y plwyf. Yr oedd hi yn berchen synwyr cryf, yn Gristion ffyddlon, ac yn hynod am ei thymer dawel a'i hysbryd heddychol. Byddai yn lloni drwyddi pan y cyfeirid at yr amser yr oedd hi, yn nghydag ychydig ffyddloniaid ereill 3m cychwyn yr achos Ymneillduol yn y ty bach to gwellt. Cafodd weled y fechan wedi dyfod yn nl, a'r wael yn genedl gref." Rhyfedd y fath wahaniaeth mewn triugain mlynedd! Pan yr ymunodd hi a'r achos gyntaf, yr oedd holl Ymneillduwyr y plwyf, oddieithr cynulleidfa yr Undodiaid a ymgyfarfyddai yn yr Hen Dy Cwrdd, yn gallu cyfarfod yn y ty to gwellt. Erbyn heddyw mae gan y tri enwad dros ddeugain 0 gapelau, a rhifant eu haelodau wrth y miloedd. Ond wele yr olaf o'r ffydd- loniaid wedi ein gadael. Claddwyd hi yn Cemetery Aberdar, Medi 17, pryd y gwein- yddwyd ar yr achlysur gan ei gweinidog, y Parch. W. Edwards. Heddweh i'w llwch, a theyrnased ei hysbryd bendigedig mewn gwyn- fyd hyd byth. EDWARDS.
[No title]
Y CYNAUAF YN ITALI. Y mae yr adrodd- iadau sydd yn ein cyraedd o Itali yn siarad yn uchel am y cnydau yn y wlad hono eleni, ac yn dywedyd na fu eu bath er's llawer 0 flyn- yddoedd. Dywed goruchwyliwr masnachwyr y Red River, yn Lloegr, fod cnydau y lie hwnw wedi eu dinystrio yn gyfangwbl gan haint o geiliogod yr hedyn. Y mae y dinystr mor llwyr fel nad oes cymaint a gwelltyn" o ddim wedi ei achub. Y mae. tanysgrifiadau yn cael eu gofyn er cynorthwyo y sefydlwyr yno. Yn Noiting-hill, dydd Llun diweddaf, cy- merodd yspeiliad le, ac y mae yn ofnus, ym- gais hefyd at lofruddiaeth. Torwyd i mewn i dy 3m cael ei breswylio gan foneddiges weddw o'r enw Langley, ac ymosodwyd arni yn y modd mwyaf oarbaraidd. Y mae wedi cael ei niweidio i'r fath raddau fel nad oes obaith am ei hadferyd. Ond yr oedd cyflawnydd y creulonder yn y fath frys i ddianc, fel yr anghofiodd ei het a'i esgidiau a chan fod y rhai hyn wedi cael eu hadnabod, credir y deuir o hyd iddo yn fuan. CYNYGIAD AM GODI CYFLOGAU YN NGWEITH- IAU HAIARN GOGLEDD SWYDD STAFFORD.— Prydnawn dydd Sadwrn diweddaf, yn Burs- lem, cynaliwyd cyfarfod gan weithwyr Gog- leddbarth swydd Stafford, er ystyried pwnc y gyflog. Yr oedd pob gwaith a phob dosbarth o weithwyr yn cael eu cynddrychioli. Yr oedd yn cael ei ddywedyd yn y cyfarfod nad oedd galw am y gostyngiad diweddaf, a'i fod 3m doriad ar y rheol gyffredin a lywodraethai y gyflog, sef y farchnad. Dadleuid fod y gwellhad oedd wedi cymeryd lie 3m marchnad yr haiarn yn ddiweddar yn cyfiawnhau y cais hwn o'u heiddo, ac nad oedd yn bosibl cael angenrheidiau bywyd i deulu a'r hyn a enillid yn bresenol Penderfynwyd yn unfrydol am ofyn i feistri y rhan hono am swllt y dynell o godiad i'r pudlers, a deg punt y cant i bob dos- barth arall o'r gweithwyr. Siaredid yn hy- derus y byddai i'r meistri gymeryd hyn at eu hystyriaeth, ac y byddai iddynt ganiatau y cais, yn enwedig gan fod sefyUfa y Fasnach yn caniatau hyny. GOSTYNGIAD YN MHBIS YR YMBORTH.—Yr ydym yn cael fod rhai o'r contracts newyddion am ymborth i dylotdai wedi synu hyd y nod rhai guardians, a bod y rhai perthynol i Hol- bom wedi gofyn a ellir mewn gwirioneddyin- gymeryd a'r contract am y pris sydd wedi ei nodi. Yr oedd y cyfnewidiad yn ddigon i'w synu; canys yn ol yr hen gontract yr oedd y can, Rhif 2, yn f2 10s. 9c. y sach, ond yn bresenol nid yw i fod ond jSl 9s. 7c. Yn mhlith teithwyr yr agerlong GvJba, yr hon a gychwynodd 0 L'erpwl am New York ddydd Sadwrn diweddaf, yr oedd y Cadfridog M'Clellan, wedi bod yn aros yn Ewrop am oddeutu dwy flynedd. Yr oedwraig a'i blant gydag ef. Y mae yn dda genym ddeall fod ei Mawr- hydi y Frenines wedi gwella yn fawr yn ei hiechyd trwy ei thaith ddiweadaf, ac y bydd yn fuan yn abl i gyflawni boll ddyledswyddau cyhoeddus ei sefyllfa. FFRWYDRLAD OFNADWY A CHOLMAD BYW- YDAU. — Cymerodd ffrwydriad ofnadwy le ddydd Gwener diweddaf mewn gweithfa car- tridge yn Metz. Lladdwyd 46 o wyr a gwrag- tdd, a chlwyfwyd 0 leiaf 110 yn ychwaneg. MR. PEABODY.—Yr ydym yn cael trwy rai o newyddiaduron y Gyfandir fod yr Ameri- caniad haelfrydig hwn yn bwriadu myned i tyw i gymydogaeth Perth. Y mae yn bwr- iadu adeiladu melin cyn myned yno, yn yr ion y mae yd i'w allforio i'w fali. Dywed newyddiadur o Awstralia fod ceffyl- au yn Gipps Land am ddeg ceiniog yr un, neu saitn am Dum' swllt. Dywed gohebydd newyddiadur yn America, pe byddai i ddyled y wlad hono gael ei roddi 3m ddolexi ar gefnau eu gilydd y byddai yn 398 o filldiroedd o hyd.