Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

AT GYMRY GOGLEDD LLOEGR.

y ;; ; p. LERPWL.

LLOFFION 0 LANELLI.

HELYNIION YR ETHOLIAD

News
Cite
Share

HELYNIION YR ETHOLIAD Y GWYDDELOD A MR. RICHARD. Nos Sadwrn diweddaf, yn Neuadd Ddirwestol Merthyr, cafwyd cyfarfod terfysglyd iawn gan y Gwyddelod mewn cysylltiad a Mr. Richard. Yr oedd Mr. Richard wedi cael ei hysbysu i anerch y Gwyddelod, a daeth yn nghyd rhai canoedd o honynt, yn nghyd ag ereill. Wedi i Mr. James gymeryd y gadair, galwyd ar Mr Richard i draddodi ei anerchiad. Cafodd wrandawiad astud, a chymeradwyaeth uchel ar rai prydiau, yn enwedig wrth son am fywyd a llafur Daniel O'Connell. Ar ddiwedd yr anerchiad, rhoddwyd y cyfarfod yn agored i roddi unrhyw ofyniad i Mr. Richard, pryd y daeth i'r esgynlawr weithiwr o'r enw Murray, yr hwn a ddywedodd,—Y mae genyf yn fy llaw newyddiadur, y Merthyr Telegraph, wedi ei argraffu yn Hydref diweddaf. Y mae yn cynwys adroddiad o anerchiad a draddodwyd gan Mr. Richard ar adeg gosod i lawr gareg sylfaen Coleg Annibynol Aberhonddu. Mae yn yr anerchiad lawer o eiriau meddalion ac ereill celid iawn. Y rhai blaenaf a alwaf yn sebon meddal. Nid ydym ni y Gwyddelod yncaru peth o'r fath. Yr ydym ni yn cam gwroldeb a gwirionedd. Ond at y geiriau celid yr wyf am dynu eich sylw. Cyfeiriodd yn mhlith pethau ereill at y Dyn Pechod." A phwy oedd hwnw ? Wel y Pab. Y mae yn drwgliwio y Pab dan y cymeriad hwnw. A pha fod y meddyliwch y mae yn siarad am yr offeiriaid ? Y mae yn eu galw yn fleidd- iaid." Wedi rhai sylwadau pellach, dywedodd Murray,—<rYn awr yr wyf yn ^dw ar bob Gwyddel, bob un ag y mae dyferyn o waed vt Gwyddehg yh ei wythienau, neu os ydynt yn caru ^u crefydd Gatholig, i adael y neuadd gyda mi Ni fydd i ni aros am unrhyw eglur- had; canys ni all unrhjrw eglurhad a rydd Mr Richard ein boddhau." Ar hyndisgynodd Murray oddiar yr esgynlawr, gan wneud ei ffordd allan ac yn cael ei ganlyn gan ddau neu 10 dri chant o Wyddelod. Arosodd ychydig Wyddelod arol, i'r rhai, yn nghyda'r rhan Gymraeg a Saesonaeg o'r cynufiiad, y cynygiodd Mr. Richard eglurhad, ond pa un a oedd yn foddhaol ai peidio nis gwyddom. Yr oedd ychydig o dywyllwch yn bod hyd yn hyn yn nghylcn pa fodd y gweithredai plant Mary yn yr etholiad; ondbellaeh fe wel pleidwyr Mr. Richard nad allant ddys- gwyl ond ychydig neu ddim oddiwrth y dos- barth hwn o'r boblogaeth. Nid oes genym yn awr ond bod yn fwy penderfynol a gweith- far o blaid ein dyn, gan fod yn sicr, er fod Iglwyswyr a Gwyddelod yn em herbyn, i'w ddwyn i fuddugofiaeth anrhydeddus. MR. HENRY RICHARD YN ABERDAR. Nos Lun a nos Fawrth diweddaf cynaliodd I Mr. H. Richard gyfarfodydd cyhoeddus—un yn Cwmdar a'r llall yn Nghwmaman, Aberdar. Llywyddwyd y cyfarfodydd gan D. Davis, Y sw., Maesyffynon, y rhai oeddynt yn boblogaidd a brwdfrydig o blaid Mr. Richard. Yr oedd y cyfarfodydd hyn, fel eu holl flaenoriaid, yn bob peth ag y gellid eu dymuno, ac y mae etholwyr y ddwy gymydogaeth hon yn ben- derfynol o ddefnyddio y ragorfraint sydd wedi ei roddi iddynt er eu hanrhydedd. Siaradai Mr. Richard yn Gymraeg nes gwefreiddio yr oil o'i gwmpas, a gall Cymru oil, yr hon sydd yn sylwi ar ysgogiadau etholwyr y bwrdeis- drefi hyn, fod yn dawel y dychwelir ei mab, a hyny yn anrhydeddus, i'w chynrychiol yn St. Stephan. MR. FOTHERGILL YN CEFNCOED- CYMER, MERTHYR. Nos Lun diweddaf anerchodd Mr. Fothergill gynulliad lluosog o etholwyr, yn nghapel Ebenezer, Cefncoedcymer. Cymerwyd y gadair gan Mr. W. Jones, Cyfarthfa. Yr oedd yn amlwg oddiwrth leferydd y cadeirydd nad ydyw yn gefnogydd i Mr. Richard, canys gof- ynai yn ei anerchiad agoriadol, Paham yr elid i Lundain am ail aelod? Cafodd Mr. Fothergill wrandawiad astud a brwdfrydig, ac y mae yn amlwg ei fod yn enill tir yn marn pleidleiswyr yr ardal hono. Pan roddwyd y penderfvniad i gefnog Mr. Fothergill o flaen y cyfarfod, derbyniodd gefnogaeth unfrydol. Siaradwyd yn gefnogol i etholiad Mr. Fother- gill gan Mri. Henry Thomas, Cefn J. Shap- ton, Howell Morgan, Cefn y Parch. Griffith Roberts, Mr. Gould, a Mr. W. L. Daniel. Rhoddid banllefau o gymeradwyaeth i Mr. Fothergill ar ei waith yu gadael y Cefn. ETO YN ABERCANAID, MERTHYR. Nos Fawrth diweddaf anerchodd Mr. Fother- gill gyfarfod lluosog a brwdfrydig iawn o etholwyr ac ereill yn nghapel yr Annibydwyr, yn Abercanaid. Cyfarfyddwyd ag ef wrth ddyfod o Ferthyr i lawr gan ryw bymtheg cant o fobl, y rhai, yn cael eu harwain gan seindorf, a'i hebryngasant i'r capel. Yr oedd lluaws o dai yn Abercanaid hefyd wedi eu goleuo. Cymerwyd y gadair gan y Parch. J. Evans, yr hwn a agorodd y cyfarfod ag anerch- iad hyawdl ac adeiladol. Cafodd Mr. Fother- gill dderbyniad a gwrandawiad brwdfrydig, a throdd y cyfarfod allan yn gefnogol iawn i'w etholiad. CYFARFODYDD Y GWEITHWYR YN ABERDAR. Mae amryw o gyfarfodydd wedi eu cynal yn ystod yr wythnos a aeth heibio. yn mhlwyf Aberdar, gan y dosbarth gweithiol, er cefnogi Mr. Fothergill fel ymgeisydd am aelodaeth wlr Seneddol.. Y mae ynwiry gwawdia rhai y cyfarfodydd hyn, ond credwn fod gwaith da yn cael ei wneud drwyddynt. Fe allai fod tuedd ormodol gan ddosbarth penodol yn ein plith i fychanu pob mudiad yn mhlith y gweithwyr, heb gofio mai yn eu dwylaw hwy yn hollol y mae yr etholiad yn sefyll. Y mae llawer o waith hyfforddi a. goleuo yn angen gyda golwg ar bwnc yr etholiad, ac y mae tuedd yn y cyfarfodydd hyn i gyflawni y di- ffyg. CYFARFOD CEFNOGOL I MR. BRUCE, YN MERTHYR. Nos Lun diweddaf yn y Neuadd Ddirwestol, Merthyr, cynaliwyd cyfarfod gan gefnogwyr Mr. Bruce, er dadleu ei hawl a'i gymhwysder fel un o'n cynrychiolwyr Seneddol dyfodol. Yr oedd arwyddion digonol wedi eu cael mai cyfarfod ystormus a gelid. Cymerwyd y gad- air gan Mr. Thomas Stephens, yr hwn yn ei sylwadau agoriadol a ofynai am wrandawiad i'r hyn a leferid. Y cyntaf £ alwyd i anerch y cyfarfod oedd y Parch. John Thomas, capel Gobaith. Siaradodd Mr Thomas yn dda, ac er iddo gael ei aflonyddu amryw weithiau gan anghefnogwyr ei sylwadau, llwyddodd i fyned trwy ei anerchiad, gan gynyg ar y diwedd, fod yr Anghydffurfwyr, fel corff, yn gwneud a allent dros ddychweliad Mr. Bruce. Y nesaf a alwyd oedd Mr. Charles H. James, yr hwn mewn ychydig a enillodd wrandawiad. Siar- adodd yntau yn gryf dros Mt. Bruce, gan gefn- ogi y penderfyniad. Cymerwyd rhan hefyd yn y cyfarfod gan Mr. George Morgan, Parch. Samuel Jones, ac ereill.

[No title]

MR. BRUCE A DEISEB Y GLOWYR.