Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

8EFYLLFA GYMDEITHASOL A GWLEIDYDDOL…

News
Cite
Share

8EFYLLFA GYMDEITHASOL A GWLEIDYDDOL CYMRU. GAN HENRY RICHARD, YSW., LLUNDAIN. At Olygydd y "Morning Star." (Parhad.) Gyda golwg ar buteindra, y mae genym fodd i wneud cymhariaeth led gywir. 0 dan y penawd Heddgeidwaid," yn yr "Ystadegau Barnol," mae yno daflen o nifer y puteiniaid yn Lloegr a Chymru. Mae yn amlwg eu bod yn anmherffaith mewn ffordd ag sydd yn sicr o fod yn dra anfanteisiol i'r rhai mwyaf gwas- garedig o'r boblogaeth. Oblegyd tra yn y trefydd bychain a'r pentrefydd, y mae pob un sydd a'i chymeriad mewn un modd yn amheus yn berffaith adnabyddus i'r heddgeidwaid mewn poblogaeth luosog fel sydd yn Llundain a Liverpool, mae llawer yn rhwym o ddianc yn ddisylw. Ond gadewch i ni gymeryd y cyfrifon hyn fel ag y maent. Mae yn ofynol i mi, ar yr un pryd, wneuthur un eglurhad rhagarweiniol. Dylid cofio fod y cyhuddiad ag yr wyf fi yn ei wrthbrofi yn cael ei wneud yn erbyn y Cymru, trigolion y wlad a ellir alw yn Gymru Briodol, ac yn fwyaf neillduol yn erbyn y rhai ydynt yn preswylio yn y parthau amaethyddol. Am Ogledd Cymru, yr hon sydd braidd i gyd o'r nodwedd yma, y dywed y dirprwywyr-" Y mae un pechod (anniweirdeb), yr hwn sydd yn dra chyffredin drwy holl Ogledd Cymru, ac yn aros heb gael ei atal gan un moddion gwareiddiedig." "Am ddosbarth gweithgar siroedd Aberteifi, Brych- einiog, Caerfyrddin," &c., y dywed yr un aw- durdodau eu bod braidd heb un eithriad yn anniwair." Pan yn ymdrin a'r pwnc o butein- dra, gan hyny, a'r parthau hyn o'r wlad y dylai y gymhariaeth gael ei gwneud. Nid am nad yw yr un mor ffafriol i Gymru, pe y cy- merem yr holl wlad i mewn i'r gymhariaeth; ond y mae trefydd mawrion Morganwg, megys Caerdydd, Abertawe, a Merthyr, er's llawer o amser wedi peidio a chael eu hystyried yn arbenigol Gymreigaidd. "Yno," ebe Syr Thomas Phillips, yr hwn sydd yn preswylio yn neu yn agos i'r parthau hyny, "y ceir nifer mawr o Saeson a Gwyddelod, lawer o honynt wedi cael eu gyru yno gan droseddau neu eisiau, ac yn cael eu nodweddu gan lawer o'r hyn sydd allywodraethus ac anghyfreithlawn." Yn wir, yn y trefydd mwyaf, y mae yno bobl- ogaeth dra chymysglyd, yn cynwys personau, yn enwedig o'r dosbarth morwrol, nid yn unig o Loegr ac Iwerddon, eithr braidd o bob cen- edl dan y nefoedd. Ceir prawf nodedig o hyn yn y ffaith fod, allan o'r holl garcharorion a draddodwyd yn sir Forganwg yn. y flwyddyn 1864, lawer dros ben yr haner yn dramorwyr -hyny yw, heb eu geni yn y dywysogaeth. Gan hyny, y mae yn eithaf amlwg y byddai yn berffaith afresymol cynwys y lluaws cy- iiiysgedig hwn o dan yr enw "Pobl Cymru. Wrth gyfyngu fy hun, gan hyny, at Gymru Briodol, ond gadael Morganwg ar ol, yr wyf yn cael fod y cyfrifon gyda golwg ar butein- dra fel hyn, tra yn Lloegr y mae cyfartaledd puteiniaid yn un am bob 364 o ferched, neu 0.64 y cant ar yr holl boblogaeth fenywaidd. Mae ffaith arall dra awgrymiadol ag y gellir ei chrybwyll mewn cysylltiad a'r pwnc hwn. Yn yr "Ystadegau Barnol," y mae cyfrif o'r holl Buteindai a Thai Drwg," o'r rhai y mae 7,002 yn Lloegr a Chymru. Ond y gyfran a briodolir i Gymru, a gadael Morganwg heb ei chyfrif, sydd fel y canlyn:— Mon, dim un sir Aberteifi, dim un Meir- ionydd, dim un; Maesyfed, dim un; sir Fflint, un; sir Frycheiniog, tri; sir Ddinbych, ped- war sir Drefaldwyn, saith; sir Gaernarfon, deg; sir Gaerfyrddin, unarddeg; sir Benfro, mae yn ddrwg genyf ddyweyd, pump a deu- gain. Ond y mae yn ffaith deilwng o sylw, o'r hon y mae y rhai a ddywedant fod iach- awdwriaeth Cymru yn dibynu ar anghofio Cymraeg a dysgu Saesneg i wneud y goreu fod yr holl dai drwg yn Sir Benfro yn y parth- au hollol Seisnigaidd o'r wlad—Penfro, Din- bych y Pysgod, a Hwlffordd. Gyda golwg ar yr ymgais a wneir i gysylltu anfoesoldeb haeredig y dywysogaeth a chyn- ydd Ymneillduaeth, y mae genyf air neu ddau, nid anghyfeillgar, o ocheliad i'w roddi i fy nghyfeillion Eglwysig. Maent yn sicr o gael allan fod hwn yn arf peryglus a daufiniog i'w drin. Oblegyd os yw y ffaith fod 6.9 y cant o'r genedigaethau yn Nghymru yn anghyf- reithlawn, lie y mae Ymneillduaeth yn fwyaf lluosog, yn profi fod y ddysgeidiaeth Ymueill- duol yn anfoesol; yna, o ganlyniad, drwy ddull teg o ymresymu, mae y ffaith fod y 12.0 y cant o'r genedigaethau yn Cumberland yn anghyfreithlawn, lie y mae yr Eglwys yn fwyaf lluosog, yn profi fod dysgeidiaeth yr Eglwys agos a bod gymaint arall mor anfoesol ag eiddo Ymneillduaeth. Ond y mae agwedd llawer mwy difrifol yn perthyn i'r cyliuddiad hwn. Mae y rhai sydd yn ei ddwyn yn mlaen yn gwybod yn eithaf da, neu gallent wybod pe y dewisent ymholi, nad yw yr Ymneilldu- wyr yn Nghymru, yr un modd ag yn Lloegr, yn pregethu dim ond athrawiaethau a dyled- swyddau Cristionogaeth. Yr unig lyfr sydd yn cael ei ddysgu gan eu deg mil ar hugain neu eu deugain mil athrawon yn yr Ysgolion Sabbothol ydyw y Beibl. Nid oes gymaint ag un, yr wyf yn anturio dyweyd, o'r 3,000 o'r pwlpudau Ymneillduol yn Nghymru nad yw moesoldeb pur a dyrchafedig yr efengyl yn arfer a chael fi argymhell a'i ddysgu yn bar- haus ynddo. Na, mwy na hyny, fel y gallaf dystio oddiwrth fynych sylw o'r peth, y iiiue yn cael ei ddwyn i ymosod ar bechodau cyff- redin yr oes, ac yn neillduol ar yffurfbenodol o bechod ag yr wyf wedi bod yn son am dano yn y Hythyr hwn, gydag eglurdeb a llvrndpr ag a fuasai yn taflu haner cynulleidlaoedd ffasiwnol Llundain i lewyg. Gan hyny, os yw pregethu fel hyn yn cynyrchu poblogaeth anfoesol, mae yn amlwg nad yw y dyhuddiad yn sefyll yn erbyn Ymneillduaeth, eithr yn erbyn Cristionogaeth. Yr eiddoch yn barchus, HENRY RICHARD.

BEIRNIADAETH AR GYFANSODDIADAU…

BEIRNIADATH Y DON, (M. B.…

YR YSGOL FARDDOL.

TAITH I'R AMERICA GYDA Y «<…