Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

-Bore Heddyw I

Gwilym Ceiriog. ii,

News
Cite
Share

Gwilym Ceiriog. LUES i lawer o gyfeiilion ac edmygwyr y diweddar Brif-Fardd ydoedd ei farwolaeth sydyn, yn ei breswyl, Brooklyn, Llangollen, bore Mercher, Rhag. 3, yn 61 mlwydd oed. Ganwyd ef yn y Ddol Tyddyn, ar lan afon Ceiriog, yn y Pandy, Glyn Ceiriog. Ardal enwog am ei beirdd ydyw Dyffryn Ceiriog, ac nid y lleiaf ydoedd Gwilym Ceiriog. Enwau ei rieni oedd Robert ac Elizabeth Roberts, a Gwilym oedd yr ieuangaf o dri o blant. Collodd ei fam pan yn ieuanc iawn. Ni chafodd ond ychydig o addysg fore'i oes-hynny a gafodd oedd yn Ysgol Genedlaethoi y Glyn. Bu raid iddo ddechreu gweithio'n ieuanc iawn. Symudodd i Bir- icenhead pan-ioddeutu 16 mlwydd oed, ac mor fyw, onite ? y disgrifia'r olwg gynta gafodd ar y Mersi yn ei Gywydd buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead, 1917. Trwy ei ddyfalbarhad yn darllen ac astudio daeth yn fuan i enwogrwydd fel bardd. Un o'i wobrwyon cyntaf oedd mewn cwrdd cystadleuol yn David Street, Lerpwl, ni gredwn, pan yn gyd-fuddugol a Huwco Penmaen. Oddeutu 30 mlynedd yn ol symudodd i fyw i Langollen, ac yma daeth i enwogrwydd. Enillodd gadeiriau yn Llanuwchllyn, Cefn Mawr, Glyn Ceiriog, Birkenhead, Cerrig y drudion, Corwen ddwy- waith,M6n,Colwyn, Caerfyrddin (Genedlaeth- oi), a Pittsburg [Cyd-gehedlaethol]. Yn ol Tafolog, yr oedd yn drydydd am gadair Genedlaethol Lerpwl, am awdl ar Y Bugail, ac ystyria rhai yr awdl hon yn un o'r pethau goreu a gyfansoddodd. Enillodd lawer o wobrwyon am englynion a chywyddau, a'r wobr olaf o bwys ydoedd am gywydd i'r Afon Mersi yn Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead. Er ei fod yn berchen corff cryf o ran golwg, eto i gyd dioddefai ar brydiau o glefyd y galon. Cafodd ei daflu o don i don lawer tro collodd ei fab hynaf ym Mhatagonia bell, ac un arall yn y rhyfel ond cafodd y fraint o'i gladdu yn ei gartref yn Llangollen. Yr oedd ers blynyddoedd bellach yn dwyn masnach ymlaen fel gwerthwr ymenyn, ac yn adna- byddus i laweroedd o gylch Croesoswallt. Collodd ei fasnach trwy y rhyfel, ac effeith- ¡ iodd hynny lawer arno, ynghyda cholli ei fechgyn. Cyll Llangollen un o'i thrigolion enwocaf, ac un o'i chymwynaswyr goreu ym rpyd Lien. Yr oedd galw mynych arno fel beirniad mewn Eisteddfodau yr oedd yn fanwl iawn fel beirniad adrodd. Chwith I yw ei golli o'n plith, ac mor briodol dweyd heddyw yn ei eiriau ef ei hun :— Byr iawn yw bore einioes, Dim ond awr ar oriawr oes." Claddwyd ym mynwent y Fron, Llangollen, a daeth tyrfa fawr a pharchus i dalu'r gym- wynas olaf iddo. Rhyw wythnos cyn ei farwol, ym mynwent y Fron, y cyfan- soddodd ei englyn olaf, i gofio am Grace, merch i'r diweddar Barch. Moses Roberts, I Llangollen, a fu farw'n ugain oed Byr a hardd ei bore hi-merch y wawr, 0 mor chwith ei cholli Goeth eneth, pregeth inni, A'i gwersi'n aur,—Gras i ni.

Advertising

Advertising

DAU TU'R AFON.