Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

BYR-NEWYDDION ! YK ? UOULHDD…

Advertising

! jD I N B Y C HeI

CYFUNDEB GORLLEWINOLI ANNIBYNWYR…

LLANSILIN A'R CYLCH.

LLANDDERFEL.

News
Cite
Share

LLANDDERFEL. MARWOLAETH A CHLADDEDIG AETH MR. WILLIE JONES, HYFRYDLE. GYDA gofid dwys y croniclwn farwolaeth y eyfaill ieuangc uchod, yr hyn a gymmerodd le dydd Iau, lonawr 25ain, yn 35ain mlwydd oed. Wele un etto o feibion ieuaingo Cymru wedi disgyn i'r bedd yn gynnar trwy yr hen elyn marwol, y darfodedigaetb. Cafodd bob gofalaeth a allasai cyfeillion a pherthynasau eu hestyn iddo. Bu am ysbaid o tua chwe mis mewn 'Sanatorium,' ac i bob golwg dynol gallesid meddwl ei fod wedi'troi ar wella, ond amser byr a fu cyn dechreu dihoeni drachefn. Yr oedd yn gymmeriad hofifus a dilych- win. a phob amser yn siriol, ond o dan y ewbl yr oedd llaw angeu yn llechu mewn cynlhvyn am ei fywyd; ac o'r diwedd gwawriodd y diwrnod trymaidd a fawr ofnid er's misoedd. Yr oedd yn aelod ffydd- lawn a defnyddiol gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Cafodd addysg grefyddol dda. ar yr aelwyd gartref i gychwyn, a bu yn gaffaeliad mawr i'r eglwys. Llanwodd le pwysig gyda'r offeryn am flynyddau, a bu yn ymroddgar iawn gyda gwaith yr Ysgol Sul. Gwnaeth lawer o waith gyda chyfar- fodydd cystadleuol yn yr ardal a'r cylch, a theimlir y bwlch yn fawr, ond credwn mai caniadaeth y cyssegr oedd yn fwyaf pwysig yn ei olwg, a threuliodd lawer o amser uwch hen yr emynau cyfoethog o feddwl, a theimlai wrth ei fodd wrth ganu 'Am lesu Grist a'i farwol glwy' a rhinweddau yr Aberth mawr Yr wythnos ddiweddaf y bu byw yr oedd yn rhy wan i ganu, a chlywid ef yn sibrwd yr emyn adnabyddus gan- lynol Yma'n griddfan ar y llawr Wyf yn ngwlad y cystudd mawr,' gan ail adrodd y llinell ganlynol- • Mefchu marw, methu byw,' Wedi colli gwedd fy Nuw 01 fy lesu, elyw fy nghri, Ghd i'm dd'od i'th fynwes di, Yna canaf am dy waed Nes meddiannu'r nefol wlad.' Y mae ei ysbryd yntau erbyn hyn wedi ehedeg ymaith i ardal lonydd yr aur delyn. au,' lie Mae'r saint yn gwledda ar Ei gariad, A'u telynau yn eu llaw.' Cymmerodd ei gladdedigaeth le y dydd Iau canlynol, yn mynwent Lian derfel. Amlwg oedd fod cydymdeimlad mawr a'r teulu a'r perthynasau yn yr atagylchiad trist gan hosoced y cynhebrwng. Gwasan- aethwyd wrth y ty, y capel. ac ar lan y bedd, gan y Parchn. J. Owen Jones (M.C.), Llandderfel; Ivan T. Davies (A.), LIandrilto; David Thomas (M.C.), Llandrillo; a T. D. Parry (M.C.),Gro. Y mae ein cydymdeimlad dyfnaf a'i weddw, ei rieni, brawd, a thair chwaer, a'r teulu oil, yn eu trallod. Nerth a gaffont i ymostwng yn dawel i ewyllys eu Tad nefol. Huned yn dawel yn ngardd Duw. Hyd nes datod trefn y rh6d.' CYFAILL.

.Y SEDD DROS RANBARTH ABERTAWE.